Conwy, Siôn
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
(c.1545–1606)
Cofir am Siôn Conwy III oherwydd ei gyfieithiad i’r Gymraeg o draethawd Lladin hir ar gerddoriaeth a ysgrifennwyd gan y dyneiddiwr o Rydychen, John Case (c.1539–1600), sy’n cael ei adnabod yn Gymraeg fel ‘Klod Kerdd Dafod’. Er nad oes cofnod o sut y cafodd Conwy ei addysgu, roedd yn amlwg yn ŵr dysgedig. Uchelwr ydoedd ac aelod o deulu Bodrhyddan ger Rhuddlan, tirfeddianwyr cefnog, a bu’n Uchel-Siryf Sir y Fflint yn 1584–5 ac yn 1599–1600.
Roedd hefyd yn gynheiliad brwd i’r traddodiad barddol canoloesol hwyr, ac yn un o’r deuddeg uchelwr a lofnododd ddeiseb i Arglwydd Lywydd Cyngor y Gororau yn gofyn am drydedd eisteddfod yng Nghaerwys yn 1594 – cynllun adfywio na fu iddo ddwyn ffrwyth, ysywaeth. Mae’n debyg i’w waith ar ‘Klod Kerdd Dafod’ gymryd blynyddoedd lawer iddo: cwblhawyd y cyfieithiad rywbryd rhwng 1588 ac 1601, a’i ddilyn gan ymgais lawn mor uchelgeisiol i drosi gwaith Leonard Wright, A Summons for Sleepers (1589), i’r Gymraeg.
Teitl testun gwreiddiol John Case, sy’n rhyw 13,500 o eiriau, yw Apologia Musica (‘O Blaid Cerddoriaeth’), ac fe’i cyhoeddwyd yn 1588. Dilynodd Conwy strwythur a chynnwys y gwaith hwnnw’n weddol agos, gan hepgor y cyflwyniadau rhagarweiniol yn unig, ac mae dwy ffynhonnell wedi goroesi: cedwir y testun cyflawn (sy’n dwyn y teitl ‘Klod Kerdd Dafod’) yn Llsgr. Hafod 24 Llyfrgell Ganolog Caerdydd (fe’i copïwyd gan John Jones, Gellilyfdy, yn 1609), a chopïwyd y pedair pennod gyntaf yn unig i MS Additional 14989 y Llyfrgell Brydeinig – mae’n ddigon posibl mai Conwy ei hun a’u copïodd.
Ond mae’r gwaith yn llawer mwy na chyfieithiad pur. Mae’r cynnwys yn hynod ddifyr (er ei fod yn anodd ei ddilyn), ac er mai cymharol isel yw safon y Gymraeg lenyddol, cyflwynodd Conwy gyfieithiadau hynod o dermau cerddorol ac ychwanegu nifer o esboniadau idiosyncratig; addaswyd rhai darnau i weddu i’w ddealltwriaeth ei hun. Er enghraifft, cyfieitha Conwy derm Case, musica figuralis (sy’n awgrymu cerddoriaeth bolyffonig gymhleth), fel ‘cerdd ossidedic’ (‘cerdd osodedig’), a chaiff harmonia (harmoni) ei gyfleu fel ‘lleossogrwydd’ (‘lluosogrwydd’). Diddorol iawn yw addasiad Conwy o restr wreiddiol Case o ‘Angli’, neu gyfansoddwyr mawr o Saeson a oedd bryd hynny’n dal yn fyw. Ni wnaeth Conwy unrhyw ymdrech i ehangu’r rhestr hon i gynnwys Cymry, ond ychwanegodd un ffigur lleol y mae’n rhaid ei fod yn ei adnabod – y Robert Stephenson lled anadnabyddus, organydd eglwys gadeiriol Caer o 1571, y mae’n ei alw’n ‘Stifynsyn’.
Sally Harper
Llyfryddiaeth
- D. Gwenallt Jones, ‘Clod Cerdd Dafod’, Llên Cymru, 1 (1950–51), 186–7
- Emyr Gwynne Jones, ‘Conwy neu Conway (Teulu), Botryddan, Sir y Fflint’, Y Bywgraffiadur Cymraeg, gol. J. E. Lloyd & R. T. Jenkins (Llundain, 1959; fersiwn newydd arlein (LlGC, 2009) http://yba.llgc.org.uk/cy
- G. Jones, ‘Siôn Conwy III a’i Waith’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, 22 (1966), 16–30
- Sally Harper, Music in Welsh Culture before 1650 (Aldershot, 2007)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.