Datblygu

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:57, 3 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Band roc amgen oedd Datblygu a ffurfiwyd yn Aberteifi yn 1982 gan David R. Edwards (llais) a T. Wyn Davies (allweddellau); ymunodd Pat[ricia] Morgan (gitâr fas ac offerynnau eraill) â’r grŵp yn 1984. Bu Datblygu yn ddylanwad aruthrol ar genhedlaeth o gerddorion ifanc o’r 1980au ymlaen.

Ar ôl cyfnod hir o gerddoriaeth bop-roc Gymraeg brif-ffrwd ar label Sain, yn dilyn y symudiad pync fe wawriodd cyfnod o labeli annibynnol a cherddoriaeth yn null y don newydd (new wave) Eingl-Americanaidd.

Yn ystod y cyfnod hwn roedd Datblygu yn creu cerddoriaeth unigryw y tu hwnt i sylw’r cyfryngau pop a roc Cymraeg. Roeddynt yn herio cerddoriaeth gyfredol yn hytrach na’i chofleidio.

Drwy gyfrwng ei eiriau, roedd David R. Edwards yn rhoi llais i realiti bywyd cefn gwlad Cymru yn oes Thatcher ac yn defnyddio’r iaith Gymraeg nid fel symbol gobaith ac etifeddiaeth ond fel mynegiant o’r ymylon. Gyda syntheseisyddion a pheiriant drymiau, yn gerddorol roedd Datblygu yn agosach at bop cyfoes Lloegr na phop Cymru, gyda dylanwadau grwpiau fel Cabaret Voltaire a Joy Division yn amlwg ar ganeuon megis ‘Y Teimlad’, a recordiwyd yn ddiweddarach gan y Super Furry Animals.

Cyfnod mwyaf creadigol y band oedd rhwng 1988 ac 1990, pan ryddhawyd dwy record hir Wyau (Anhrefn, 1988) a Pyst (Ofn, 1990), gyda’r naill yn cynnwys caneuon rhythmig ac egnïol megis ‘Cristion yn y Kibbutz’ a ‘Dafydd Iwan yn y Glaw’, tra bod y llall yn fwy tywyll a phesimistaidd, fel yn y gân ‘Nos Da Scum’. Erbyn rhyddhau Libertino (Ankst, 1993) roedd y grŵp wedi symud i gyfeiriad ychydig yn fwy masnachol, er fod testunau nifer o’r caneuon yn parhau i fod yn wrthsefydliadol (e.e. ‘Dim Deddf, Dim Eiddo’). Cydnabuwyd gallu geiriol Edwards pan gyhoeddwyd cyfrol o’i farddoniaeth, Al, Mae’n Urdd Camp (Lolfa, 1992) fel rhan o gyfres y Beirdd Answyddogol.

Oherwydd eu hagwedd wrthsefydliadol, ni chafodd Datblygu eu derbyn gan y cyfryngau Cymraeg, ar wahân i’r rhaglen fideo Fideo 9 gyda Geraint Jarman yn gynhyrchydd, a rhaglen radio Nia Melville ‘Heno Bydd yr Adar yn Canu’. Y tu hwnt i Gymru, rhoddodd John Peel, troellwr recordiau BBC Radio 1, gefnogaeth gyson iddynt ac i sŵn newydd roc Cymraeg ac fe recordiodd y grŵp nifer o sesiynau ar gyfer ei raglen. Chwalodd y grŵp yn 1995. Yn 2012 aildaniwyd diddordeb ynddynt a hithau’n ddeng mlynedd ar hugain ers eu sefydlu. Dechreuodd David Edwards a Pat Morgan recordio caneuon newydd, ac yn 2015 roedd croeso brwd i’w hailymddangosiad ar y llwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Gŵyl CAM.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

Amheuon Corfforol [casét] (Neon 008, 1982)
Trosglwyddo’r Gwirionedd [casét] (Neon 009, 1983)
Fi Du [casét] (Neon 012, 1984)
Caneuon Serch i Bobl Serchog [casét] (Neon 015, 1984)
‘Y Teimlad’ a ‘Nefoedd – Putain Prydain’, ar Cam o’r Tywyllwch (Anhrefn 002, 1985)
‘Hollol , Hollol, Hollol’/‘Cyn Symud i Ddim’, ar Gadael yr Ugeinfed Ganrif (Anhrefn 004, 1985)
Hwgr-grawth-og [EP] (Anhrefn 008, 1986)
Wyau (Anhrefn 014, 1988)
Pyst (Ofn 12, 1990)
Blwch Tymer Tymor [Casét] (Ankst 021, 1991)
Llwybr Llaethog v Tý Gwydr v DJ DRE (Ankst 025, 1991)
Peel Sessions (Ankst 027, 1992)
Libertino (Ankst 037, 1993)
‘Cân y Mynach Modern’ [sengl] (Ankst 121, 2008)
Darluniau Ogof o’r Unfed Ganrif ar Hugain [EP] (Ankst 132, 2012)
Erbyn Hyn (Ankst 136, 2013)

Llyfryddiaeth

David R. Edwards, Al, Mae’n Urdd Camp (Talybont, 1992)
———, Atgofion Hen Wanc (Talybont, 2009)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.