Gellan

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:38, 3 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Gellan telynor pencerdd, yr honnir mai ef oedd prif delynor bencerdd Gruffudd ap Cynan (c.1055– 1137), brenin Gwynedd, yw’r pencerdd telyn cyntaf y mae cofnod amdano. Mae Historia Gruffud Vab Kenan (a gomisiynwyd gan fab Gruffudd, Owain, ac a ysgrifennwyd mae’n debyg yn fuan wedi 1137, er mai testun o ganol y 13g. yw’r cynharaf i oroesi) yn nodi iddo farw ym mrwydr Aberlleiniog, Llangoed, Môn, tua 1094: ‘Ac ena y diguydus Gellan telynyaur penkerd o barthret Gruffud en e llynges.’

Efallai i Gellan wasanaethu fel bardd teilu yn llys Gruffydd, gan fod Cyfraith Hywel Dda yn pennu mai un o swyddogaethau’r swyddog hwn yn llys y tywysog oedd arwain gosgordd y tywysog (y teulu) i frwydr – o leiaf yn y cyfnod pan fodolai corff o’r fath (tan y 12g. mae’n debyg). Mae enw Gellan yn swnio’n Wyddelig, ac mae’n ddigon posibl fod hynny’n awgrymu iddo ddod draw i Gymru gyda Gruffudd ap Cynan, a aned yn Iwerddon: dywed yr hanesydd o Sir Ddinbych, David Powel (1552–98), fod Gruffudd wedi dod ag amryw o gerddorion medrus (‘divers cunning musicians’) gydag ef o Iwerddon.

Sally Harper

Llyfryddiaeth

Thomas Parry, ‘Gruffudd ap Cynan’, Y Bywgraffiadur Cymraeg, gol. J. E. Lloyd & R. T. Jenkins (Llundain, 1959), fersiwn newydd arlein (LlGC, 2009) http://yba.llgc.org.uk/cy
D. S. Evans, A Medieval Prince of Wales: The Life of Gruffudd ap Cynan (Burnham-on-Sea, 1990)
Sally Harper, ‘Canu’r “Songes of the Doeinges of their Auncestors”: Agweddau ar Draddodiadau Cerddorol Cymru a Lloegr’, Llên Cymru, 31 (2008), 104–117



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.