Sianeleiddio

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: channelisation)

Ffigwr 1: Sianeleiddio ar Afon Alun, wrth bont Leadmills, Yr Wyddgrug ar gyfer atal llifogydd. Nodwch siâp y glannau.
Newidiadau pwrpasol gan bobl i’r amgylchedd afonol ar gyfer pwrpasau rheoli llifogydd, lleihau neu rwystro erydiad, gwella traeniad, a gwella ffyrdd tramwyo ar gyfer llongau. Gall hyn ddigwydd drwy garthu, sythu a dargyfeirio sianel yr afon, yn ogystal ag adeiladu strwythurau ar ei gwely a’i glannau. Gall y rhain gynnwys coredau, llifgloddiau a strwythurau er mwyn dargyfeirio llif oddi wrth y glannau. Oherwydd bod y mesurau yma yn effeithio ar nodweddion llif yn yr ardal a sianeleiddiwyd, maent yn medru cael cryn effaith ar brosesau hylifol a dyddodol i fyny ac i lawr yr afon. Er enghraifft, os yw sianel yn cael ei dyfnhau, bydd llifoedd a fuasai wedi gorlifo yn flaenorol yn cael eu dal o fewn y sianel. Bydd hyn yn arwain at rymoedd erydol uwch ar wely’r afon, ac yn arwain at endorri. Bydd hyn yn parhau hyd at bwynt lle mae uchder y glannau yn rhy uchel i barhau, a lle mae’r trothwy ar gyfer erydiad y glannau yn cael ei groesi. Gall hyn arwain at amrywiadau ym maint sianeli i lawr yr afon o’r sianeleiddio, a phroses o endorri yn mudo i hydoedd i fyny’r afon. Gall hyn, yn ei dro, arwain at gyflenwi dyddodion ychwanegol at hydoedd wedi eu lleoli i lawr yr afon, ac at broblemau dyddodiad. Os yw afon yn cael ei lledu ar gyfer pwrpasau rheoli llifogydd, bydd lleihad yng nghyflymder llif a phŵer afon pan mae’r llif yn isel, gan arwain at ddyddodiad ar hyd yr afon a chan olygu y bydd rhaid carthu’r afon yn gyson. Mae ymateb afonydd i sianeleiddio yn amrywio, yn ddibynnol ar y math o sianeleiddio a wnaed, a’r graddau yr effeithir ar bŵer afon, cyflenwad dyddodion a gorchudd llystyfiant. Mewn rhai achosion gall gymryd mil o flynyddoedd cyn bod y sianel yn cyrraedd stad o gydbwysedd newydd. Gall nifer ac amrywiaeth rhywogaethau ddisgyn yn sylweddol ar ôl sianeleiddio o ganlyniad i’r ffaith bod carthu a chreu sianel unffurf yn dinistrio cynefinoedd naturiol ac amrywiaeth (e.e. pyllau a rifflau a strwythur dyddodion gwely). Gellid creu amgylchedd lle mae cyflymder llif yn uwch na’r hyn all rhai rhywogaethau eu goroesi, a gall tymereddau dŵr yn ystod llifoedd isel godi y tu hwnt i’r hyn all rhai rhywogaethau eu dioddef wrth i ddyfnder llif gael ei leihau ac wrth i amgylcheddau cysgodol a llystyfiant ar y glannau gael eu gwaredu. Yn ogystal, mae gwerth esthetig afonydd yn cael ei leihau drwy sianeleiddio. Yn rhannol, yr hyn sydd yn gwneud afonydd yn agweddau
Ffigwr 2: Sianeleiddio ar Afon Glendasan, Mynyddoedd Wiclo, Iwerddon. Nodwch y glannau concrid yn enwedig.
geomorffolegol pleserus i’r llygaid yw’r amrywiaeth mewn lled, dyfnder, nodweddion dyddodol, pyllau, rifflau a barrau sydd i’w gweld. Mewn sianeli wedi eu dylunio a’u sianeleiddio, ni chrëir yr un gwerth esthetig oherwydd eu hunffurfiaeth.

O ganlyniad i’r rhesymau hyn, ac oherwydd symudiad tuag at ddatrysiadau mwy amgylcheddol-gyfeillgar, mae adfer afonydd i stadau mwy naturiol yn dechrau dod yn fwy poblogaidd na datrysiadau peirianyddol mewn nifer o ranbarthau. Mae’r datrysiadau yma yn cynnwys carthu rhannol, creu strwythurau atal erydiad gan ddefnyddio dulliau peirianyddol ‘meddal’, a gorlifo rheoledig mewn gwlypdiroedd. O ran adfer afonydd, gellir rhannu hyn i mewn i adfer goddefol pryd y ceisir mynd i’r afael â phroblemau sydd yn atal adferiad naturiol ac adfer actif pryd y gwneir newidiadau uniongyrchol i’r afon er mwyn cyflymu adferiad.

Mae Ffigwr 1 a 2 yn dangos enghreifftiau o sianeleiddio ar Afon Alun ac Afon Glendasan, Iwerddon.

Ffigwr 1: Sianeleiddio ar Afon Alun, wrth bont Leadmills, Yr Wyddgrug ar gyfer atal llifogydd. Nodwch siâp y glannau.

Ffigwr 2: Sianeleiddio ar Afon Glendasan, Mynyddoedd Wiclo, Iwerddon. Nodwch y glannau concrid yn enwedig.

Llyfryddiaeth

Charlton, R. (2009) Fundamentals of fluvial geomorphology, Routledge, Abingdon, 223 tt.

Knighton, D. (1998) Fluvial forms and processes: a new perspective, Arnold, Llundain, 376tt.