Ystyr

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 03:17, 11 Mawrth 2021 gan LauraArman (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Semanteg a Phragmateg

Mae semantegwyr a phragmategwyr yn astudio ystyr o wahanol safbwyntiau, er bod y ffin rhwng y ddau faes yn gorgyffwrdd mewn rhai achosion. Semanteg (semantics) yw’r astudiaeth o ystyr geiriau a brawddegau ac mae pragmateg (pragmatics) yn canolbwyntio ar ystyr o safbwynt y siaradwr(aig) a’r gwrandäwr(aig), sef ystyr mewn cyd-destun -- ystyr y mae’r siaradwr yn bwriadu ei gyfleu. Gall ystyr brawddeg (sentence meaning) (hefyd 'ystyr gair'; word meaning) fod yn wahanol i ystyr siaradwr (speaker meaning), felly. Ystyrier:

Enghraifft: Mae’n oer, on’d ydy?

Ystyr brawddeg yr enghraifft yw fod y tywydd yn oer. Ond, gall rhywun ddweud hynny’n chwaraegar ar ddiwrnod poeth iawn gan honni’r gwrthwyneb ("mae’n boeth"); dyma'r ystyr siaradwr, sy’n wahanol i'r ystyr brawddeg yn yr enghraifft hon. Mae pragmateg yn astudio llefariadau (utterances) mewn cyd-destun, tra bod semanteg yn canolbwyntio ar ystyron brawddegau. Mae’r ddau beth felly'n gysylltiedig.

Semanteg ar wahanol lefelau ieithyddol

Mae ystyr yn deillio o sawl lefel ieithyddol wahanol. Yn gyntaf, mae lefel y forffem, ac yna mae lefel y gair. Mae pob morffem yn cyfrannu gwybodaeth o ryw fath ac mae rhai morffemau’n cario mwy o ystyr nag eraill, e.e. cariad, cyn-gariad; hoffi, ymhoffi.

Ym maes semanteg mae’r syniad o ystyr gair yn cael ei wahanu oddi wrth ffurf y gair. Ar hap a damwain hanesyddol y lluniwyd ffurf ffonolegol geiriau yn ogystal â holl forffoleg a chystrawen ieithoedd y byd, ac eithrio ychydig o ffurfiau arwyddo neu ffurfiau onomatopeiaidd. Ar yr un pryd â’r newidiadau sy’n digwydd i ffurf arwynebol yr iaith, ceir newidiadau yn yr ystyron cysylltiedig. Caiff ystyr gair ei ehangu i gynnwys ystyron newydd sy’n cydweddu, fel y defnydd o’r gair feuille ‘deilen’ yn Ffrangeg i olygu ‘dalen, darn o bapur’ neu ‘haen denau o grwst’ oherwydd tebygrwydd eu siâp. Dengys yr enghraifft fod ffurf y gair yn gysylltiedig â gwahanol nodweddion ei ystyr gwreiddiol ac felly â chynodiad (connotation) arbennig sydd ar gael i siaradwyr, h.y. mae dail yn tyfu ar goed, ond maent hefyd yn denau iawn. Caiff ystyr gair hefyd ei anghofio wrth i ffurfiau newydd ei ddisodli, fel sy’n digwydd i’r gair dalen yn Gymraeg: mae’n cael ei disodli gan y gair deilen yn ei gyd-destun gwreiddiol fel rhan o blanhigyn. Mae astudio ieithyddiaeth hanesyddol neu ieitheg (philology) yn dibynnu ar ddealltwriaeth o newidiadau mewn ffurf ac ystyr dros amser.

Semanteg o fewn athroniaeth

Tu hwnt i’r ffurf, yr un cysyniadau (concepts) a geir wrth gyfathrebu mewn unrhyw iaith, er bod amrywiaeth o arferion ieithyddol a diwylliannol ynghylch sut i’w cyfuno. Gelwir yr astudiaeth semantig o elfennau ystyrlon sylfaenol yn rhesymeg iaith (logic of language), ac mae’n dod yn uniongyrchol o faes rhesymeg (logic) mewn athroniaeth a mathemateg. Daeth semanteg yn faes ieithyddiaeth yn yr 20fed ganrif. Er hynny, mae enghreifftiau o astudio ystyr yn wyddonol i’w gweld yn ysgrifau’r hen athronwyr fel Aristotle a Plato, amser maith yn ôl.

O semanteg i bragmateg

Mae ystyr yn codi o gyfuno geiriau yn ymadroddion, cymalau a brawddegau. Mae cyfuniad arbennig o eiriau’n cyfyngu ar ystyron posibl gair unigol. Hynny yw, mae ystyr y gair allwedd yn amwys heb ei gyd-destun: ai teclyn i agor drws sydd dan sylw neu restr esboniadol o symbolau ar fap? Mae cyd-destun yn cael ei gyflwyno gan y cyfuniad o eiriau yn y frawddeg, ond hefyd gan ein gwybodaeth gyffredinol neu gefndirol o’r byd.

Mae ieithyddion sy’n astudio pragmateg yn ystyried sut mae iaith yn bodoli o fewn ein dealltwriaeth o’r byd a’n hamgylchedd a sut mae ein dealltwriaeth o’r rhain yn effeithio ar ein ffyrdd o gyfathrebu. Ystyrir pragmateg yn lefel ieithyddol sy’n rhyngweithio â gwybodaeth gyffredinol sy’n allieithyddol (extralinguistic). Felly, astudiaeth o’r wybodaeth y mae pobl yn ei chyflwyno a’r ffordd mae’r wybodaeth honno’n cael ei chyflwyno yw pragmateg. Ceir amrywiaeth eang o’r arferion hyn o iaith i'r llall — ac o ddiwylliant i ddiwylliant — gan fod cymunedau ieithyddol yn cytuno ar wahanol arferion neu draddodiadau paraieithyddol (paralinguistic). Er enghraifft, mae gwahanol ystumiau (gestures) — fel ysgwyd pen — yn cyfleu ystyron gwahanol o fewn gwahanol ddiwylliannau.

Pragmateg

Gellir dehongli cyd-destun yn gul neu’n eang. Crybwyllwyd uchod fod ystyr mewn cyd-destun yn cyfeirio at ddealltwriaeth y cyd-siaradwr(aig) (interlocutor) sy’n darparu’r wybodaeth yn ogystal â’r cyd-siaradwr sy’n derbyn yr wybodaeth. Mae’r cyd-siaradwyr, mewn gwirionedd, yn delio â sawl cyd-destun ar y tro. Mae’n rhaid i’r sawl sy'n gwrando dalu sylw i gyd-destun geiriau’r frawddeg er mwyn dadamwyso (disambiguate) ystyr geiriau homonymig — fel allwedd yr offeryn ac allwedd y testun sy’n egluro symbolau. Mae sawl ffordd o ddeall ystyr, ar wahân i’r ystyr brawddegol sy’n codi o gyfuniadau posib ystyron geiriau’r llefariad (utterance).

Llefariadau

Mae llefariad yn gysyniad sydd fymryn yn wahanol i frawddeg. Cyfeiria’r term llefariad at unrhyw ddefnydd o iaith sy’n cyfleu ystyr i gyd-siaradwyr. Mae da!, yn gwmws, neu dydw i ddim yn ail-gylchu i gyd yn llefariadau sydd ag ystyr penodol pan gânt eu hystyried o fewn eu cyd-destunau unigryw, e.e. dweud da! fel ymateb wrth glywed am lwyddiant cyd-weithiwr mewn ffordd sy’n ei longyfarch, neu ddefnyddio yn gwmws wrth gysuro mam-gu dros y ffôn. Gall llefariad gyfeirio at unrhyw ddefnydd o iaith ar lafar, yn ysgrifenedig, mewn iaith arwyddion (sign language), mewn Braille a.y.b. Yn yr un modd, deellir ‘siaradwr’ fel gair sy’n golygu cyd-siaradwr sy’n darparu gwybodaeth ar lafar, arwyddwr(aig) neu awdur, a gwrandäwr i olygu cyd-siaradwr sy’n derbyn gwybodaeth ar lafar, gwyliwr neu ddarllenwr, gan ddibynnu ar gyfrwng yr iaith dan sylw.

Er mwyn dehongli ystyr y siaradwr yn gywir, mae angen i’r gwrandäwr ystyried manylion fel pwnc y llefariad, amgylchiadau’r llefariad, a’r wybodaeth gyffredinol y maent yn ei rhannu. Mae cyd-siaradwyr yn cydweithio i gyrraedd y nod o gyd-ddealltwriaeth, gyda chytundeb dealledig fod y siaradwr wedi gwirio bod yr wybodaeth ar gael.

Tynnu casgliad a goblygaeth

Tra mae semanteg yn darparu set o ystyron a dehongliadau posib, mae pragmateg yn dewis y rhai sy’n addas yn ôl y sefyllfa.

Er bod y siaradwr yn ceisio rhoi’r holl wybodaeth mae’r gwrandäwr ei hangen mewn llefariad, y rhan helaeth o’r amser mae’n haws i’r cyd-siaradwyr ddibynnu ar eu gwybodaeth gyffredinol o’r byd i gyfathrebu’n llwyddiannus. Er enghraifft, mae’r llefariad isod yn rhoi manylion diangen rhwng cyd-siaradwyr sydd wyneb yn wyneb:

Enghraifft: dwi’n teimlo’n gynnes ar hyn o’r bryd yn y fan yma

Mae’r llefariad yn yr enghraifft yn cyfleu gwybodaeth sydd ar gael i’r gwrandäwr yn barod; maent yn rhannu gwybodaeth am yr amgylchiadau gan eu bod wyneb yn wyneb. Mae’r llefariad felly’n rhoi gormod o wybodaeth ac mae’r neges yn llai amlwg o ganlyniad; mae’r amser a’r lle yn amlwg i’r gwrandäwr. Wrth daro llygaid yn ôl ar yr enghraifft wreiddiol, fodd bynnag, a’r gwahanol ddarlleniadau o mae’n oer, on’d ydy?, rhaid cofio bod sawl ffordd o ddehongli llefariad. Mae’r cyd-siaradwyr yn dibynnu ar allu’r gwrandäwr i ddod i’r canlyniad mwyaf tebygol.

Gall gwrandäwr ddefnyddio un o sawl dull o dynnu casgliad (inference) i geisio deall ystyr y siaradwr. Un dull sy’n dibynnu ar fwy nag ystyr llythrennol geiriau’r llefariad yw goblygaeth (implicature) ac mae goblygaeth yn un o syniadau sylfaenol y maes pragmateg.

Goblygaeth

Yn fras, goblygaeth llefariad yw’r ystyr sydd ddim wedi ei amgodio mewn mynegiad ieithyddol (linguistic expression), ond sy’n gasgliad a wneir ar sail gwybodaeth gyffredinol am natur cyfathrebu. Er enghraifft:


Siaradwr 1: Fi’n llwglyd.

Siaradwr 2: Mae gen i bacad o gnau yn ’y mag.

+> (goblygaeth) Mae Siaradwr 2 yn cynnig i Siaradwr 1 fwyta’r cnau er mwyn iddo/iddi deimlo’n llai llwglyd.


Mae gwybodaeth gyffredinol gennym fod siaradwyr yn bwriadu ychwanegu at sgwrs gyda phob llefariad, felly mae Siaradwr 1 yn deall bod llefariad Siaradwr 2 yn berthnasol i’r llefariad blaenorol.


Silva Nurmio a Laura Arman. Golygwyd y detholiad gan Laura Arman

Llyfryddiaeth

Dyfynnwyd yr holl destun o:

Nurmio, S. ac L. Arman. (2020) Creu Ystyr. Yn S. Cooper & L. Arman (goln.) Cyflwyniad i ieithyddiaeth. Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.