Arwel, Rhisiart (g.1951)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:30, 14 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Gitarydd clasurol, cyfansoddwr ac athro. Ganed yn Nimbych. Treuliodd ei blentyndod ym mhentref Garnswllt, Dyffryn Aman cyn i’r teulu symud i ardal Corwen. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol y Berwyn Bala cyn mynd ymlaen i astudio’r gitâr glasurol yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion gyda Gordon Crosskey a John Arran (g.1945). Yn ddiweddarach derbyniodd ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i astudio ymhellach ym Madrid gyda Ricardo Iznaola ac yna’n Llundain gyda John Duarte (1919–2004).

Bu’n gweithio am gyfnod fel tiwtor gitâr yn Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ond fe’i adnabyddir yn bennaf am ei berfformiadau a’i recordiadau fel un o unawdwyr amlycaf Cymru ar y gitâr glasurol. Bu’n perfformio’n rheolaidd ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys ymddangosiad yn Neuadd Albert, Llundain. Bu’n unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar fwy nag un achlysur, hefyd, mewn consiertos gan Antonio Vivaldi a Joaquín Rodrigo. Mae wedi perfformio’n gyson ar y radio a’r teledu. Fel rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia yn 2015, trefnodd gyfres o gyngherddau ar draws Cymru a’r Wladfa. Yn ystod y daith, perfformiodd gerddoriaeth o Gymru a De America a bu’n cydweithio gyda nifer o gerddorion blaenllaw o Gymru a’r Ariannin.

Mae ystod ei repertoire yn eang, gyda phwyslais arbennig ar gerddoriaeth o Sbaen a De America. Clywir ei ddiddordeb yng ngherddoriaeth yr Ariannin yn ei gryno ddisg Etifeddiaeth / Herencia / Heritage (Sain, 2018), sy’n cynnwys cerddoriaeth gan Ariel Ramirez, Abel Fleury a Jorge Cardoso.

Disgyddiaeth

Etifeddiaeth / Herencia / Heritage (Sain SCD2794, 2018)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.