Categori:Yn y Ffrâm

Oddi ar WICI
Fersiwn yn ôl 09:41, 4 Rhagfyr 2013 gan Elis Glynne (sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Croeso i Yn y Ffrâm, adnodd ar gyfer myfyrwyr addysg uwch sy'n dysgu am ffilm a theledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Ysgrifennu traethawd ar ffilm yng Nghymr...')
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn ddiweddaraf (gwahan) | Fersiwn ddiweddarach → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Croeso i Yn y Ffrâm, adnodd ar gyfer myfyrwyr addysg uwch sy'n dysgu am ffilm a theledu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ysgrifennu traethawd ar ffilm yng Nghymru? Eisiau gwybod pwy oedd yn y gyfres honno a drafodwyd yn eich darlith? Mae Yn y Ffrâm yma i chi felly. Gyda manylion lu ar gyfer dros hanner cant o ffilmiau a rhaglenni Cymraeg a Saesneg, mae cofnodion yn cynnwys gwybodaeth am y cynhyrchiadau, eu cast a'u criw, yn ogystal â gwybodaeth gyfeiriol fel y gallwch ddargnafod yn hawdd lle i fynd i wneud ymchwil pellach am y ffilm neu gyfres.

Mae cofnodion Con Passionate a Sleep Furiously yn cynnwys darnau dadansoddol gan arbennigwyr yn y maes a gobeithiwn ychwanegu rhagor o ysgrifau fel hyn yn y dyfodol. Gallwch hefyd ddarllen bywgraffiadau 18 o ffigyrau allweddol, o actorion i gynhyrchwyr, sydd wedi cael dylanwad ar fyd y cyfryngau gweledol yng Nghymru.

Ceir clipiau fideo o gyfweliadau a recordiwyd yn 2010 ar dudalennau Pete Edwards, Endaf Emlyn, John Hefin, Sue Jeffries, Paul Jones ac ar dudalennau'r ffilmiau a rhaglenni y gweithiodd y cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr hyn arnyn nhw.

Nid oes unrhyw erthyglau na ffeiliau yn y categori hwn ar hyn o bryd.