James, Peter (1940-2016)
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ganed Peter James yn Melbourne. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe, a Phrifysgol Caerdydd, lle’r enillodd radd BMus yn 1963. Wedi blwyddyn o hyfforddiant fel athro ym Mhrifysgol Bryste dychwelodd i Gaerdydd i wneud ymchwil ym maes anthem wersi ar ddechrau’r 17g., a chwblhau ei PhD yn 1968. Fe’i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Cerdd Birmingham yn 1970, ac yno daeth yn bennaeth cwrs BRSM a maes o law yn Gyfarwyddwr Astudiaethau. Yn 1983 gadawodd Birmingham i fynd yn Warden ac yna’n Is-brifathro’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Mae doniau cerddorol James yn amrywiol iawn. Mae’n ffidlydd a chwaraewr bas dwbl talentog, yn ganwr da a fu’n canu’n broffesiynol yn Eglwys Gadeiriol Caerlwytgoed ac yn arweinydd corau dawnus, talent a etifeddodd gan ei dad Haydn, sylfaenydd Côr Ffilharmonig Abertawe. Am flynyddoedd lawer, bu’n arwain Côr Palestrina Prifysgol Caerdydd, y côr ‘cerddoriaeth gynnar’ cyntaf yng Nghymru, a bu’n gymorth i’w dad i ddatblygu’r côr dull eglwys gadeiriol llwyddiannus yn eglwys y Santes Fair, Abertawe. Yno y datblygodd Peter am y tro cyntaf ei ddiddordeb dwfn mewn cerddoriaeth eglwysig Anglicanaidd, a fyddai’n chwarae rhan mor bwysig yn ei fywyd cerddorol.
Yn Birmingham bu’n arwain côr siambr y coleg ac yn ddiweddarach cyfarwyddodd Gorws y BSM mewn perfformiadau o weithiau corawl mawr fel War Requiem a Spring Symphony Britten. Am sawl blwyddyn bu’n gôr-feistr Corws y CBSO, yn eu paratoi ar gyfer recordiadau o Gloria Poulenc a Coronation Te Deum Walton. Parhaodd ei ddiddordeb mewn arwain corau yn yr Academi Gerdd Frenhinol, gydag amrywiaeth eang o gerddoriaeth, o Offeren yn C Leiaf Mozart i Symphony of Psalms Stravinsky.
Ers ei ddyddiau’n fyfyriwr, bu ymchwil yn rhan allweddol ym mywyd cerddorol James. Ef oedd y cyntaf i dynnu sylw’r cyhoedd at un o’r darnau mwyaf gan gyfansoddwr o Gymru. Anthem Thomas Tomkins, Know you not, a gyfansoddwyd ar gyfer angladd y Tywysog Harri yn 1612, yw anthem hwyaf a mwyaf avant-garde dechrau’r 17g; mae golygiad James o’r gwaith (Llundain, 1971) yn enghraifft wych o’r sgiliau cerddoreg rhagoraf. Yn sgil oriau lawer o ymchwilio amyneddgar, cafodd hyd hefyd i anthem goll William Byrd, Exalt thyself, O God, yn 1981, un o lawer darganfyddiad arwyddocaol ganddo. Efallai mai ei gyfraniad pennaf i ymchwil i gerddoriaeth Gymreig oedd y gwaith golygu ac ail-greu yr ymgymerodd ag ef wrth fynd ati i achub holl weithiau cysegredig Tomkins nad oeddynt wedi’u cynnwys yn y casgliad cyhoeddedig o gerddoriaeth eglwysig y cyfansoddwr, Musica Deo sacra (1668).
Yn ystod ei ymddeoliad, neilltuodd lawer o amser ac ymroddiad i ddatblygu Cathedral Press - gwasg fasnachol sy’n cyhoeddi cerddoriaeth gynnar. Bu golygiadau Peter o gerddoriaeth eglwysig o’r 16g. i’r 18g. o dan y gwasgnod hwn yn arloesol. Mae nifer fawr o gyhoeddiadau’r Wasg yn ganlyniad uniongyrchol i’w ymchwil a’i sgiliau ail-greu; llwyddodd ar ei ben ei hun i gyhoeddi llawer o gerddoriaeth werthfawr gan gyfansoddwyr Prydeinig a oedd wedi ei hesgeuluso cyn hynny.
David Evans
Llyfryddiaeth
- Peter H. James, ‘A Study of the verse Anthem from Byrd to Tomkins’ (traethawd PhD Prifysgol Caerdydd, 1968)
David Wulstan (gol.), An Anthology of English Church Music (Llundain, 1971)
- Peter H. James, ‘Thomas Tomkins: Sacred Music omitted from Musica Deo sacra’, Soundings, 2 (1971), 29–43
- ———, ‘Sacred Music omitted from Musica Deo sacra’ yn Anthony Boden, Thomas Tomkins: the last Elizabethan (Aldershot, 2005), 285–300
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.