Cyhoeddiadau Printiedig

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:13, 4 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Nid yng Nghymru y cyhoeddwyd y gerddoriaeth Gymreig gyntaf i’w hargraffu, ond yn Llundain, yn rhan o’r casgliad o salmau mydryddol gan Edmwnd Prys, Llyfr y Psalmau, a argraffwyd yn 1621 gan Thomas Purfoot. Roedd yr un peth yn wir am y casgliadau o alawon Cymreig a ymddangosodd yn niwedd y 18g. o law John Parry (Rhiwabon) ac Edward Jones (Bardd y Brenin). Y cyntaf i argraffu cerddoriaeth yng Nghymru oedd Ishmael Dafydd, Trefriw, a gyhoeddodd gasgliad John Ellis (1760–1839) o donau ac anthemau, Mawl yr Arglwydd, yn 1816, er mai yn Llundain mae’n debyg yr engrafiwyd y platiau cerdd. Dros y degawdau dilynol, tyfodd patrwm o gyhoeddiadau cerddorol Cymreig, er mai araf oedd y twf tan wedi canol y 19g. Rhwng tua 1820 ac 1860 gellir adnabod tri dosbarth o gyhoeddiad: gramadegau cerddorol, yn amlinellu egwyddorion cerddoriaeth, a gynhwysai enghreifftiau cerddorol; casgliadau o donau ac anthemau, a gynhwysai weithiau ragarweiniad ar elfennau cerddoriaeth; a chasgliadau o alawon cenedlaethol.

Perthyn y rhan fwyaf o gyhoeddiadau’r trydydd dosbarth i’r cyhoeddiadau ‘estron’ – fe’u cynhyrchwyd yn Llundain ar gyfer cynulleidfa freintiedig ac eithrio’r ddau gasgliad arloesol o alawon gwerin, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (1844) gan Maria Jane Williams a argraffwyd yn Llanymddyfri gan William Rees, a Y Caniedydd Cymreig (1845) gan Ieuan Ddu (John Thomas; 1795–1871), a argraffwyd ym Merthyr Tudful gan David Jones. Mwy Cymreig eu naws a’u tarddiad oedd y gramadegau cerddorol megis Grisiau cerdd arwest (1823) gan Ieuan Ddu o Lan Tawy (John Ryland Harris, 1802–23), a argraffwyd yn Abertawe gan Joseph Harris (Gomer); Y caniedydd crefyddol (1828) gan William Owen (1788–1838), a argraffwyd yng Nghaer gan John Parry, a Gramadeg cerddoriaeth (1838 a sawl argraffiad wedyn) gan John Mills (1812–73), a argraffwyd yn Llanidloes gan John Mendus Jones.

Yn yr un modd, mae naws frodorol i’r casgliadau tonau Peroriaeth hyfryd (1837) gan John Parry, a argraffwyd yng Nghaer; Caniadau y cyssegr (1839) gan John Roberts, a argraffwyd yn Ninbych gan Thomas Gee yr hynaf; sawl casgliad a argraffwyd yn Llanidloes, megis Caniadau Seion (1840) a Yr arweinydd cerddorol (1842–45) gan Richard Mills; Y salmydd eglwysig (1847) gan John Mills; Y salmydd cenedlaethol (1846), Ceinion cerddoriaeth (1852) a Gemau cerddoriaeth (1854) gan Hafrenydd (Thomas Williams; 1807–94); a Telyn Seion gan Rosser Beynon (1811–76), a argraffwyd ym Merthyr yn 1848.

Awgryma’r llif hwn o gyhoeddiadau fod y farchnad gerddorol yn tyfu; ond trodd y llif yn llanw wedi 1860, am fwy nag un rheswm. Y rheswm pennaf oedd fod twf aruthrol mewn gweithgarwch cerddorol ar ffurf canu corawl a chynulleidfaol a mwy o alw am ddeunydd cerddorol, yn gyfrolau ac yn daflenni, galw a ddiwallwyd gan nifer o gyhoeddwyr Cymreig a fu’n weithgar yn ail hanner y 19g. a dechrau’r 20g. Ond roedd hefyd ffactorau allanol. Tyfodd y system reilffordd mewn modd dramatig rhwng 1840 ac 1870, a’i gwnaeth yn rhwyddach i ddosbarthu cyhoeddiadau i wahanol ganolfannau.

Erbyn 1861 hefyd diddymwyd y dreth olaf ar bapur, a daeth yn haws i gyhoeddi cerddoriaeth a chylchgronau cerddorol am brisiau a oedd o fewn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Rhwng 1861 ac 1939 ymddangosodd pedwar ar ddeg o gylchgronau cerddorol Cymraeg, a’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys atodiadau o ddarnau o gerddoriaeth. Yn sgil poblogrwydd y gymanfa ganu o’r 1870au yn arbennig, cynhyrchwyd llu o lyfrynnau o emynau a thonau a gwerthwyd miloedd o gopïau o anthemau poblogaidd. Yn yr un cyfnod, tyfodd yr eisteddfod mewn poblogrwydd ar raddfa leol a chenedlaethol, ac mor ddiweddar â’r 1930au ceir y cyhoeddwr D. J. Snell, Abertawe, yn cynnig gwobrau i bwyllgorau eisteddfodol a ddewisai eu darnau prawf o’i gatalog ef o gerddoriaeth Gymreig.

Yn ystod y 19g. a dechrau’r 20g. roedd nifer o gyhoeddwyr yn cysodi cerddoriaeth gan ddefnyddio ffontiau o deip cerddorol, techneg a oedd o fewn eu cyrraedd ar gyfer darnau byrion. Dyma a wnâi Robert Jones, Bethesda, er enghraifft, cyhoeddwr argraffiad cyntaf anthem John Ambrose Lloyd, Teyrnasoedd y ddaear. Bu’r cysodwr cerddoriaeth Benjamin Morris Williams (1832–1903) yn gweithio i Thomas Gee ac i Isaac Jones, Treherbert, a bu Richard Mills (1840–1903) yn gysodwr cerdd i Hughes a’i Fab. Ond gan fod cyhoeddwyr Cymru yn gwmnïau bach at ei gilydd – hyd yn oed yng nghwmni mawr Hughes a’i Fab un rhan oedd cerddoriaeth o raglen gyhoeddi fwy o lawer – ni allent gadw’r sgiliau arbenigol hyn o fewn eu tai cyhoeddi eu hunain. O ddiwedd y 19g. daethant i ddibynnu’n gynyddol ar wasanaeth engrafwyr proffesiynol cwmnïau megis Augener yn Llundain a Bayley and Ferguson yn Glasgow: ni bu erioed draddodiad o engrafio cerddoriaeth yng Nghymru.

Parhaodd y patrwm o gyhoeddi a sefydlwyd yn rhan olaf y 19g. i mewn i hanner cyntaf yr 20g., ond gwelwyd safonau’n codi, yn enwedig dan ddylanwad y Cyngor Cerdd Cenedlaethol a ffurfiwyd yn 1919, ac a hybodd gyhoeddi gweithiau newydd gan y to iau o gyfansoddwyr Cymreig a chyfieithiadau i’r Gymraeg o ddarnau yn y traddodiad Ewropeaidd. Cyflawnwyd gwaith tebyg gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn o 1937 ymlaen.

Cyhoeddwyd cryn amrywiaeth o gerddoriaeth gan gyhoeddwyr Cymreig, yn unawdau, llyfrau emynau a llyfrau canu, darnau corawl ac weithiau ddarnau mwy sylweddol megis Dewi Sant (1961) a Pantycelyn (1964) o waith Arwel Hughes gan Wasg Prifysgol Cymru. Cyhoeddodd Snell un o ganeuon cynnar David WynneGo, lovely rose/O rosyn, dos (1949). Eto i gyd, gan dai cyhoeddi Seisnig y cyhoeddwyd nifer o gyfanweithiau a chyfansoddiadau eraill cyfansoddwyr yr 20g. – gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn achos llawer o weithiau Grace Williams, William Mathias ac Alun Hoddinott, gan Novello (e.e. The Country Beyond the Stars gan Daniel Jones) a Curwen (e.e. The Black Ram gan Ian Parrott).

Erbyn yr 1960au gwelid llai o gyhoeddi cerddoriaeth Gymreig wrth i’r gweisg a fu’n gyfrifol grebachu neu ddarfod yn llwyr, ond cafwyd gwynt newydd i hwyliau’r byd cyhoeddi yn negawd olaf yr 20g. trwy waith Curiad a Gwynn yn arbennig. Gwnaed cysodi ac argraffu cerddoriaeth yn haws trwy dechnegau cyfrifiadurol, a gwelwyd erbyn degawd cyntaf yr 21g. gyhoeddwyr yn ymaddasu i’r byd digidol trwy gynnig cerddoriaeth i’w lawrlwytho yn hytrach nag ar ffurf brintiedig draddodiadol.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.