Hwiangerdd (Hwiangerddi)
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ystyr lythrennol hwiangerdd yw cân a genir i ddiben suo baban i gysgu. Yr hwiangerddi Cymraeg mwyaf adnabyddus yw ‘Si Hei Lwli ’Mabi’, ‘Cysga Di’, ‘Suo Gân’ (Huna Blentyn) a ‘Myfi sy’n Magu’r Baban’.
Mae’n amhosibl gwybod pryd yn union y cyfansoddwyd y caneuon hyn, ond gellir yn rhesymol dybio eu bod ymhlith yr hynaf o ganeuon gwerin unrhyw wlad, a’u bod yn rhan bwysig o’r traddodiad llafar, a gafodd eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall.
Yr enghraifft Gymraeg hynaf, yn ddi-os, yw ‘Pais Dinogad’, cerdd sy’n ymddangos yn Llyfr Aneirin – llawysgrif ganoloesol ond un a allai fod wedi cael ei chyfansoddi mor gynnar â’r 7g. Mae’r gerdd fechan hon, sy’n cynnwys dwy ar bymtheg o linellau, wedi’i hymgorffori oddi mewn i gerdd arwrol enwog Y Gododdin, heb fod iddi berthynas amlwg gyda gweddill y gerdd honno, a cheir ynddi amryw o gyfeiriadau at hela. Tybir mai mam sydd yma yn canu i’w phlentyn. Crys neu siaced yw ystyr ‘pais’ yma:
- Pais Dinogad, fraith fraith,
- O grwyn balaod ban wraith:
- Chwid, chwid, chwidogaith,
- Gochanwn, gochenyn’ wythgwaith.
Os gwir y dybiaeth mai hwiangerdd yw hon, nid annisgwyl yw bod yr alaw a genid ar y geiriau wedi hen ddiflannu. Yn Gymraeg, mae gan y gair ‘hwiangerdd’ hefyd ystyr fwy cyffredinol, sef rhigymau a chaneuon syml i blant (nursery rhymes) – rhai ohonynt gydag alaw gyfarwydd, ac eraill na fwriadwyd iddynt gael eu canu o angenrheidrwydd. Ymhlith y mwyaf adnabyddus yn y dosbarth cyntaf y mae’r penillion hyn:
- Si hei lwli ’mabi,
- Y gwynt o’r dwyrain chwyth;
- Si, fy mabi, lwli
- Mae’r wylan ar ei nyth;
- Si hei lwli, lwli lws,
- Cysga, cysga, ’mabi tlws,
- Si hei lwli ’mabi,
- Y gwynt o’r dwyrain chwyth.
Symlrwydd yw prif nodwedd y penillion a’r rhigymau, a chysondeb mydr ac odl – cyfuniad sy’n allweddol o ran eu serio ar gof y plentyn yn ogystal â’r sawl sy’n eu canu. Mae’r alawon hwythau’n syml, gyda chwmpas cyfyng o nodau, ac yn cydweddu’n berffaith â’r geiriau. Smala a direidus yw tôn llawer o’r rhigymau:
- Fe neidiodd llyffant ar un naid
- O Lansanffraid i Lunden,
- A neidiodd yn ei ôl drachefn
- Hyd ganllaw pont Llangollen,
- A lle disgynnodd y drydedd waith?
- Yng nghanol caerau Corwen.
Ar y cyfan, byd gwledig, amaethyddol a ddarlunnir. Mae llinellau fel ‘y fuwch yn y beudy / yn brefu am y llo’ neu ‘mae gen i fochyn bychan’ yn llawer mwy cyffredin na ‘Bachgen bach o Ddowlais / Yn gweithio ’ngwaith y tân’. Awgryma hynny eu bod yn tarddu o gyfnod cyn y Chwyldro Diwydiannol, a chyn cyfnod y diwygiadau crefyddol hefyd. Eithriadau prin yw’r cerddi sy’n grefyddol eu naws.
Pan gyhoeddodd y bardd Ceiriog gasgliad o hwiangerddi Cymraeg yn Yr Arweinydd yn 1857 daeth dan lach rhai o arweinwyr crefyddol y dydd, ond meddai: ‘Ffôl, gwag a phlentynaidd yn ddiamau, ac efallai pechadurus yng ngolwg rhai, yw’r cerddi annwyl hyn, a anadlwyd ac a suwyd i’n clustiau pan oeddym fabanod ar lin ein mamau. Ond yr wyf fi o’r farn mai plant mawr byddar i felystra cerdd a deillion i dlysni symlrwydd yw pob un na fedr deimlo swyn y math hwn o hen rigymau’ (Hughes 1857).
Rhan annatod o’r traddodiad llafar oedd y rhigymau a’r alawon. Dyna sydd i gyfrif am yr amrywiadau a gofnodwyd yn y geiriau o ardal i ardal. ‘Y cobler coch o Ruddlan / A aeth i foddi cath’ a geir mewn un pennill, ond ceir fersiynau eraill megis ‘Y cobler coch o’r Hengoed’, ‘Siencyn Sion o’r Hengoed’, ‘Colin Coch o Gaio’ a ‘Llywelyn Fawr o Fawddwy’. Dyna sydd i gyfrif hefyd am yr hwiangerddi ‘newydd’ a gyfansoddwyd gan wahanol bobl ar batrwm yr hen rai – caneuon a dyfodd yr un mor gyfarwydd â’r hen rai gydag amser. Er enghraifft:
- Llywelyn bach tyrd yma,
- Ac ar fy nglin i dysga
- Hen iaith dy fam yn gyntaf un,
- Ac wedyn iaith Victoria.
Un o’r rhai mwyaf toreithiog yn y maes oedd y bardd J. Glyn Davies (1870–1953), gŵr yr oedd ganddo ddawn ddi-feth i gyfansoddi penillion a’u priodi gydag alaw syml, megis yn y gân ‘Fuoch chi rioed yn morio?’
Y casgliad mwyaf arloesol o hwiangerddi Cymraeg oedd Hwiangerddi’r Wlad gan Eluned Bebb a gyhoeddwyd yn 1941. Meddai yn ei rhagymadrodd: ‘Tybiaf fod gwerth triphlyg, o leiaf, i’n hwiangerddi ni’r Cymry. Yn sŵn eu geiriau, ac o’u clywed dro ar ôl tro, nid hir y bydd y plentyn cyn siarad ac ynganu’n groyw a chlir. Yn ail, o sicrhau’r hwiangerddi ar yr aelwyd gartref, rhoddir i’r plant gefndir i’w hiaith a bery ar hyd eu hoes, fel nas dadwreiddir ar chwarae bach. Ac yn olaf, dyma’r ffordd gyntaf oll i ddenu’r meddwl ifanc at lenyddiaeth a llên gwerin’ (Bebb 1941).
Ychydig o ymdrech a wnaed gan neb i geisio dwyn sylw gweddill y byd at hwiangerddi Cymru drwy eu cyfieithu. Yr unig ymdrech sylweddol oedd cyhoeddiad Jennett Humphries yn 1894, Old Welsh Knee Songs. Defnyddiwyd amryw o alawon yr hwiangerddi Cymraeg gan Grace Williams yn sail i’w gwaith cerddorfaol Fantasia on Welsh Nursery Tunes, a gyfansoddwyd yn 1940.
Arfon Gwilym
Llyfryddiaeth
- Huw Hughes (‘Tegai’) (gol.), Yr Arweinydd (1857)
- Jennett Humphries, Old Welsh Knee Songs [1894](Llundain, 2010)
- Eluned Bebb (gol.) Hwiangerddi’r Wlad (Llandybïe, 1941)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.