Tonic Sol-ffa
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Nodiant cerddorol sy’n defnyddio llythrennau’r wyddor ac atalnodi i gyfleu seiniau a rhythmau. Er bod gwreiddiau tonic sol-ffa yn yr Oesoedd Canol a’r dull solfeggio, yn y 19g. y cafodd ei ddatblygu’n gyfundrefn ffurfiol ac yn nodiant annibynnol. Roedd nifer o ddiwygwyr addysgol yn ceisio dull syml o ddysgu plant i ganu, a bu rhai, gan gynnwys yr arolygwr ysgolion John Pyke Hullah (1812–84), yn hyrwyddo dull Guillaume Louis Bocquillon- Wilhem (1781–1842) o ganu ar yr olwg gyntaf gan ddefnyddio doh sefydlog. Ond y gyfundrefn a ddaeth yn fwyaf poblogaidd oedd honno a ddatblygwyd gan athrawes o Norwich, Sarah Glover, ac a berffeithiwyd gan weinidog Cynulleidfaol, John Curwen (1816–80).
Seiliwyd y dull hwn ar doh symudol lle gellid newid cyweirnod yn hawdd a dal i fynegi’r llinell gerddorol yn y tonydd (dyna esbonio’r enw ‘tonic sol-ffa’). Astudiodd Curwen ddull Sarah Glover a’i berffeithio yn gyfundrefn ffurfiol mewn gwerslyfrau a gyhoeddodd yn yr 1850au, yn bennaf The Standard Course of Lessons on the Tonic Sol-fa Method of Teaching to Sing (1858). Cyn hynny, yn 1854, roedd wedi sefydlu cylchgrawn, The Tonic Sol-fa Reporter, i hyrwyddo’r gyfundrefn, i adrodd ar weithgarwch dosbarthiadau sol-ffa ac i gyhoeddi cerddoriaeth yn y nodiant newydd. Sefydlwyd gwasg (Tonic Sol-fa Agency, yna Curwen Press) yn 1863, ac ysgol, a dyfodd yn goleg (Tonic Sol-fa College), gyda fframwaith o arholiadau a thystysgrifau, yn yr un flwyddyn.
Eginodd syniadau Curwen yng Nghymru yn gynnar: ceir tystiolaeth i rai fod yn dysgu dosbarthiadau trwy gyfrwng ffurf ar y sol-ffa yn 1852 yn Sir Forgannwg. Ond daeth y gwir drobwynt wedi i un o Gymry Lerpwl, Eleazar Roberts (1825-1912), gael ei argyhoeddi o werth y gyfundrefn i ddysgu plant i ganu, yn enwedig yn y capeli a’r Ysgolion Sul (roedd amcanion moesol cryf yn rhan o fudiad y tonic sol-ffa o’r dechrau).
Cafodd Roberts ganiatâd Curwen i gyfieithu ei werslyfrau, a chyhoeddodd Llawlyfr Caniadaeth yn 1862, a Y Gyfres safonol o wersi ac ymarferiadau ... yn 1875. Yn 1861 roedd wedi cyhoeddi ei gasgliad ei hun o Hymnau a Thonau, y llyfr Cymraeg cyntaf i’w argraffu yn y sol-ffa. Llwyddodd Roberts i ddarbwyllo Ieuan Gwyllt o werth y gyfundrefn a sicrhaodd gefnogaeth y cylchgrawn dylanwadol Y Cerddor Cymreig, a ddechreuodd gynnwys darnau sol-ffa yn 1865. Sefydlwyd dosbarthiadau niferus ar draws Cymru, yn aml ond nid yn ddieithriad mewn cysylltiad â chapeli ac eglwysi, ac yn 1869 sefydlwyd cylchgrawn i’r solffayddion, Cerddor y Tonic Sol-ffa, o dan olygyddiaeth Ieuan Gwyllt, a gyhoeddwyd tan 1874 gan Hughes a’i Fab, Wrecsam. Ymddangosodd Y Cerddor Sol-ffa rhwng 1881 ac 1886. Roedd y ddau gylchgrawn yn cynnwys darnau cerddorol.
Tyfodd sol-ffa i fod yn brif nodiant Cymru am gyfnod, yn ddewis cyntaf llawer o gantorion mewn corau a chynulleidfaoedd. O’r 1870au ymlaen prin y ceid unrhyw ddarn o gerddoriaeth Gymreig nad ymddangosai mewn hen nodiant a sol-ffa, naill ai ar wahân neu ar yr un copi. O blaid y sol-ffa yng Nghymru roedd rhwyddineb ei ddysgu heb gymorth offeryn (a phrin oedd yr offerynnau mewn llawer ardal yn yr 1860au): gellid dysgu mewn ysgoldy neu gegin trwy gymorth y cyweiriadur (modulator) a’r arwyddion llaw a ddatblygwyd i ddynodi’r gwahanol seiniau.
Ymddangosodd sol-ffa hefyd ar yr union adeg pan oedd diddordeb newydd mewn canu corawl a chynulleidfaol, ac fe’i coleddwyd yn frwd gan gorau capel ac ardal. Meistrolodd llawer o argraffwyr y grefft o gysodi sol-ffa, a’i gwnaeth yn haws i gerddorion lleol gyhoeddi eu cynnyrch; roedd sol-ffa yn llawer rhatach i’w argraffu na’r nodiant erwydd, ac roedd pris copïau sol-ffa o’r herwydd o fewn cyrraedd pobl dlawd a chymunedau difreintiedig.
Cynhyrchai cwmni Novello argraffiadau sol-ffa o oratorios, ac yng Nghymru gwerthent fwy o’r rhain nag o gopïau nodiant erwydd ar ddiwedd y 19g. Awgrymai rhai cerddorion fod sol-ffa yn well dull o adnabod traw - dyfynnodd David Wynne sylwadau ei athro, David Evans, am hyn (yn Heward Rees 1977, 12). Atyniad arall oedd bod cyfundrefn o gymwysterau ar gael trwy’r Coleg Tonic Sol-ffa, a roddodd nod i genedlaethau o bobl Cymru a safai’r arholiadau am dystysgrif neu radd.
Ni bu’r gyfundrefn heb ei beirniaid yng Nghymru a thu hwnt. Mor gynnar â’r 1860au taranai Jane Hughes (Debora Maldwyn) yn erbyn y bobl a ganai’r nodau sol-ffa yn hytrach na geiriau emyn neu gân. Mwy grymus oedd y feirniadaeth fod sol-ffa yn cyfyngu ar orwelion cerddorol. Roedd rhwyddineb argraffu hefyd yn arwain llawer i gerddor lleol i gyhoeddi gwaith llai na theilwng.
Pwysleisiai cerddorion proffesiynol mai cyfrwng oedd sol-ffa i ddysgu elfennau cerddoriaeth ond y dylid symud ymlaen i feistroli’r nodiant erwydd er mwyn gallu cael mynediad at holl gyfoeth etifeddiaeth gerddorol gorllewin Ewrop. Lluniodd David Jenkins werslyfr, Sut i ddysgu yr hen nodiant drwy y sol-ffa (1898). Yn ystod yr 20g. byddai’r rhod addysgol yn tueddu i droi yn erbyn y sol-ffa, ac fe’i diogelwyd yng Nghymru yn fwy trwy waith capeli ac eglwysi nag yn yr ysgolion dyddiol. Eto i gyd defnyddiwyd elfennau o sol-ffa yn llwyddiannus gan Zoltán Kodály (1882-1967) a defnyddiwyd ei ddulliau ef mewn ysgolion hyd at ddiwedd yr 20g.
Barn W. H. Cummings ar ddiwedd y 19g. oedd bod sol-ffa bron wedi lladd cerddoriaeth yng Nghymru. Fe’i hatebwyd yn gadarn gan David Jenkins, a ddadleuai na fyddai gwyliau cerddorol mawr tebyg i honno a gynhaliwyd yn y Palas Grisial yn 1896 wedi bod yn bosibl oni bai am ddylanwad sol-ffa, am na fyddai corau ar gael i ganu - sol-ffa oedd y cyfrwng a ddefnyddid gan 92% o’r cantorion (Jenkins 1897). Awgrymai Jenkins ymhellach fod sol-ffa wedi bod yn gyfrwng gwerthfawr i roi cychwyn cerddorol i gerddorion proffesiynol a oedd wedi symud yn eu blaen i feistroli’r nodiant erwydd. Trwy osod sylfeini a thrwy hybu canu corawl a chynulleidfaol ar gyfnod ffurfiannol, gwnaeth tonic sol-ffa gyfraniad pwysig i ddatblygiad cerddoriaeth y genedl.
Rhidian Griffiths
Llyfryddiaeth
- David Jenkins, “‘Sol-ffa wedi lladd cerddoriaeth yng Nghymru’”, Y Cerddor (Ionawr, 1897)
- A. J. Heward Rees, ‘Changes and Challenges: the composer David Wynne talks to A. J. Heward Rees’, Cerddoriaeth Cymru, 5/7 (1977), 7–25
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.