'Calon Lân'

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:05, 25 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o emynau mwyaf adnabyddus Cymru, er nad ydyw, yn wahanol i donau fel 'Cwm Rhondda', ‘Hyfrydol’ a ‘Llanfair’, yn gyfarwydd y tu allan i Gymru. Awdur y geiriau yw Gwyrosydd (Daniel James; 1848–1920), a aned yn Nhre-boeth, Abertawe. Bu’n gweithio yn y diwydiant tunplat cyn symud draw i’r maes glo, a glöwr yn Aberpennar ydoedd pan gyhoeddodd ‘Calon Lân’ yn ei gasgliad o farddoniaeth, Caniadau, yn 1892. Ymddangosodd y geiriau a’r dôn gyfarwydd gyda’i gilydd am y tro cyntaf yn 1899 cyn dod yn boblogaidd iawn yn ystod Diwygiad 1904–5. Gŵr arall o gylch Abertawe a gyfansoddodd y dôn ‘Calon Lân’, sef John Hughes (1872–1914) a oedd yn wreiddiol o Benbryn ger Aberteifi ond a symudodd yn ddwyflwydd oed i Landŵr (mae’n un o sawl John Hughes yn ein hemynyddiaeth). Daeth yr emyn yn ffefryn gan dorfeydd rygbi, ac fe’i canwyd ar gryno-ddisg gyntaf (2012) Only Boys Aloud, côr o 140 o fechgyn ifanc o gymoedd de Cymru a ffurfiwyd gan Tim Rhys-Evans yn 2010.

Cenir geiriau ‘Calon Lân’ yr un mor aml ar y dôn gynulleidfaol enwog ‘Blaenwern’ a gyfansoddwyd yng ngwres y Diwygiad gan William Penfro Rowlands, arweinydd Côr y Tabernacl, Treforys, o 1892 hyd 1919. Clywir canu’r geiriau hefyd ar yr emyn dôn ‘Converse’, o eiddo’r Americanwr C. C. Converse, sydd yn fwy cyfarwydd fel y dôn i’r emyn Saesneg, ‘What a friend we have in Jesus’.

Cytgan yr emyn 'Calon Lân'

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.