Siân Phillips
Ganwyd Siân Phillips, neu i roi iddi ei henw bedydd, Jane Elizabeth Ailwên Phillips, ar fferm Tŷ Mawr ger Gwaun Cae Gurwen ym 1933. Er bod cartref ei rhieni yn yr Alltwen, Cwm Tawe, treuliodd lawer o’i blynyddoedd cynnar ar fferm Tŷ Mawr, cartref ei mam-gu a’i thad-cu, a hynny oherwydd ei hiechyd bregus.
Er iddi dderbyn gradd mewn Saesneg ac Athroniaeth o Brifysgol Caerdydd ac yna mynychu RADA, ac ennill Medal Aur Bancroft yno, yng ngweithgareddau capeli ac eisteddfodau lleol Cwm Tawe y bu’n meithrin ei chrefft fel actores amryddawn, a thrwy gyflwyno ac actio ar raglenni radio BBC Wales yn ystod y 1950au.
Ym mlynyddoedd cynnar ei gyrfa, dramâu Saunders Lewis – Brâd, Blodeuwedd, Siwan, Gymerwch chi Sigaret (ar lwyfan, radio a theledu) oedd yn fara menyn iddi ac a fu’n fodd o sicrhau cryn enwogrwydd iddi yng Nghymru. Wedi iddi gyfarfod yr actor Peter O’Toole, a ddaeth yn ŵr iddi maes o law, troes ei chefn am gyfnod ar actio yng Nghymru gan ganolbwyntio ar gynyrchiadau theatr yn Llundain a thramor yn ystod y 1960au. Gyda’i pherfformiad clodwiw yng nghynhyrchiad RADA o Hedda Gabler ym 1959 sicrhaodd le amlwg ym meddyliau cyfarwyddwyr theatrig y cyfnod.
Ymhlith y cynyrchiadau ffilm a theledu a gyflawnodd yn ystod y 1970au yr oedd addasiad ffilm Andrew Sinclair o Under Milk Wood (1971), lle chwaraeodd ran Mrs Ogmore Pritchard; bu’n chwarae rhan Mrs. Emmeline Pankhurst yn y gyfres deledu am y Mudiad Swffragét Shoulder to Shoulder (BBC, 1974), ac yna ochr yn ochr â Stanley Baker yn yr addasiad teledu o nofel Richard Llewellyn, How Green Was My Valley (BBC, 1976-7). Er i’w pherfformiadau fod yn llwyddiannus, y cynhyrchiad a ddaeth â hi i enwogrwydd cyffredinol oedd yr addasiad teledu o nofel Robert Graves I, Claudius (BBC, 1976). Yn y ddrama epig hon am fywydau ymerawdwyr Rhufeinig, chwaraeodd ran yr ymerodres Livia ac enynnodd ei pherfformiad glod gan y beirniaid yn ogystal â’r cyhoedd ac enillodd wobr BAFTA am yr actores orau ym 1977.
Ymddangosodd hefyd fel Katerina Ivanovna yn addasiad y BBC o Crime and Punishment (1979), cyn ymuno ag Alec Guinness yn addasiadau’r BBC o nofelau John le Carre, Tinker, Tailor, Soldier, Spy (1979) a Smiley's People (1982). Rôl arall a gadarnhaodd ei safle ymhlith sêr y byd ffilm oedd y Reverend Mother Gaius Helen Mohiam yn ffilm ffug-wyddonol David Lynch, Dune (1983). Ond, yn nodweddiadol o’i gyrfa yn gyffredinol, nid anghofiodd Phillips ei gwreiddiau Cymreig gan ymddangos mewn dramâu teledu i blant yn ystod y 1980au, yn chwarae rhan Nain Griffiths yn addasiadau teledu HTV o nofelau Jenny Nimmo, The Snow Spider (1988), Emlyn’s Moon (1990) a The Chesnut Soldier (1991), oll wedi’u cyfarwyddo gan y diweddar Pennant Roberts. Ers y 1990au y mae Siân Phillips wedi llwyddo i gyfuno gwaith ar lwyfan rhyngwladol, megis rhan yn ffilm Martin Scorsese, The Age of Innocence (1993), gyda phrosiectau Cymreig, yn arbennig ffilmiau Marc Evans, House of America (1997), lle y chwaraeodd Fam Gymreig wedi’i llethu gan ei hamgylchiadau, a Dal: Yma/Nawr (2003), lle y’i gwelir yn cyflwyno cerdd Waldo Williams, ‘Mewn Dau Gau’.
Yn ogystal â chyflawni’r gwaith ffilm a theledu uchod, mae Siân Phillips wedi gwneud gwaith sylweddol ym maes theatr a pherfformio, gyda’i pherfformiadau enwocaf yn cynnwys rhannau mewn dramâu clasurol gan ddramodwyr megis Shakespeare ac Ibsen, a sioeau cerddorol megis Pal Joey (1980-1) gyda Denis Lawson ac A Little Night Music (1995-6) gan Stephen Sondheim. Rhwng 1997 a 1999 dynwaredodd yr actores gyfareddol Marlene Dietrich mewn sioe-un-wraig, Marlene. Derbyniodd adolygiadau ardderchog ac enwebiad am wobr Tony am ei gwaith arbennig ar y cynhyrchiad Broadway hwn.
Mae Siân Phillips yn parhau i weithio er ei bod dros ei deg a thrigain. Ymddangosodd yn ddiweddar yn y dramâu teledu Midsomer Murders, Holby City ac Agatha Christie's Poirot a bu’n rhan o’r cynhyrchiad West End o Calendar Girls yn 2009. Yn fwyaf diweddar, chwaraeodd ran Juliet yng nghynhyrchiad Tom Morris o drasiedi Shakespeare, Juliet and her Romeo, yn y Bristol Old Vic yn ystod Gwanwyn 2010. Yn y cynhyrchiad hwn, mae’r cariadon yn eu hwythdegau ac yn byw mewn cartref i’r henoed!
Mae’n Aelod o Orsedd y Beirdd, yn gymrawd er anrhydedd gyda sawl prifysgol yng Nghymru, ym mis Mehefin 2000 derbyniodd CBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ac yn 2001 fe’i gwobrwywyd â Gwobr Arbennig BAFTA Cymru.
Bywgraffiad gan Dr. Gwenno Ffrancon.