Tystysgrif Tân
Tystysgrif sydd yn cwmpasu’r holl faterion sydd yn orfodol dan Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 ac yn berthnasol i westai, tai gosod, ffatrïoedd, swyddfeydd, siopau ac adeiladau rheilffyrdd [ac eithrio adeiladau lle mae llai na’r isafswm [a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o bryd i’w gilydd].
Er mwyn cael tystysgrif tân, rhaid gwneud cais i’r Swyddog Tân a fydd yn archwilio’r adeilad a chyflwyno rhestr o ofynion [e. e. drysau tân]. Unwaith i’r Swyddog Tân fod yn hapus bod yr hyn a nodwyd ganddo wedi eu cwblhau, bydd yn cyflwyno Tystysgrif Tân.
Mae’r broses yn galluogi Diffoddwyr Tân, mewn argyfwng, i feddu ar wybodaeth o fanylion yr adeilad [e. e. nifer o bobl ar bob llawr]. Mae hefyd yn ddefnyddiol er mwyn nodi lleoliad a natur unrhyw gynhwysion ymfflamychol/ffrwydrol o fewn yr adeilad.
Owain Llywelyn
Llyfryddiaeth
Property Development, Douglas Scarrett, Routledge, pumed argraffiad, tudalennau 187 a 206
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.