Gwelliant
Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:26, 13 Mawrth 2022 gan DaiThomas (Sgwrs | cyfraniadau)
i) Unrhyw gynnydd mewn gwerth tir ac eiddo sy’n deillio o benderfyniad llywodraeth, un ai lleol neu genedlaethol. Gall y penderfyniad fod yn un cadarnhaol, e.e. adeiladu priffordd newydd, neu’n un negyddol ble mae cyfyngiadau yn cael eu creu ar dir arall sydd yn fanteisiol i ddeiliaid tir cyfagos.
ii) Cynnydd mewn gwerth adeilad /tir oherwydd gwaith gwelliannau. Cyfyd yn aml wrth drafod iawndal mewn amgylchiadau atafaelu gorfodol.
Owain Llywelyn
Llyfryddiaeth
Compulsory Purchase and Compensation, Barry Denyer-Green, Estates Gazette, wythfed argraffiad, tudalennau 173,177 a 271
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.