T. Gwynn Jones

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:35, 4 Mehefin 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Ganed Thomas Gwynn Jones, un o'r ffigyrau llenyddol mwyaf gweithgar yn yr iaith Gymraeg, ar 10 Hydref 1871. Trwy gydol ei fywyd, bu'n fardd, llenor, newyddiadurwr, cofiannydd, darlithiwr, ysgolhaig, athro, cyfieithydd a dramodydd. Roedd ei dad yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn fardd. Thomas oedd ei unig enw bedydd, dechreuodd ychwanegu 'Gwynn' tua 1890. Yn ystod ei addysg elfennol, astudiodd peth Lladin, Groeg a Mathemateg. Yr oedd am fynychu Prifysgol Rhydychen, ond methodd oherwydd afiechyd. Er ei ddiffyg addysg uwch, bu'n ddarlithydd yn yr adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ym 1902 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl 'Ymadawiad Arthur', awdl sy'n garreg filltir yn hanes barddoniaeth Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Dyma'r gyntaf o gyfres o gerddi mawr a luniodd ar y gynghanedd, naill ai ar y mesurau traddoddiadol neu ar fesurau newydd wedi'u seilio ar yr hen rai. Aeth ymlaen i ennill y Gadair eto gyda ‘Gwlad y Bryniau’ ym 1909, gyda ‘Tir na n-Og’ ym 1910, gyda ‘Madog’ ym 1917, gyda ‘Broséliâwnd’ ym 1922, gydag ‘Anatiomaros’ ym 1925, a chyda ‘Argoed’ ym 1927.

Llyfryddiaeth

  • T. Gwynn Jones, Caradog yn Rhufain (Wrecsam, 1914). [Drama]
  • T. Gwynn Jones, Dafydd ap Gruffydd (Aberystwyth, 1914). [Drama]
  • T. Gwynn Jones, Tir na N-óg (Caerdydd, 1916). [Drama]
  • T. Gwynn Jones, Dewi Sant (Wrecsam, 1916). [Drama]
  • T. Gwynn Jones, Y Gloyn Byw (Y Drefnewydd, 1922). [Drama]
  • T. Gwynn Jones, Anrhydedd (Caerdydd, 1923). [Drama]
  • T. Gwynn Jones, Y Gainc Olaf (Wrecsam, 1934). [Drama]
  • T. Gwynn Jones, Y Dwymyn, 1934–35 (Caerdydd, 1972).
  • T. Gwynn Jones, Dylanwadau (Bethesda, 1986).
  • Tudur Aled, (gol.) T. Gwynn Jones, Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926).
  • T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk Custom (Llundain, 1930).
  • Marged Enid Griffiths, (gol.) T. Gwynn Jones, Early Vacation in Welsh (Caerdydd, 1937).
  • Pietro Mascagni, trosiad i’r Gymraeg gan Dyfnallt Morgan, (gol.) T. Gwynn Jones, Gwyddoch Amdano (Porthmadog, 1987).
  • Gounod, (gol. a chyf.) T. Gwynn Jones, Rhowch i mi nerth (Porthmadog, 1987).
  • Adolygiad/au: T. Gwynn Jones, Y Faner (17.2.89), 14.
  • T. Gwynn Jones, Ymadawiad Arthur (Caernarfon, 1910).
  • T. P. Ellis, Dreams and memories (Y Drenewydd, 1936), gyda T. Gwynn Jones, ‘Foreward’, t. Vii.
  • T. Gwynn Jones, Caniadau (Wrecsam, 1934)
  • T. Gwynn Jones, Astudiaethau (Wrecsam, 1935).
  • T. Gwynn Jones, Beirniadaeth a Myfyrdod (Wrecsam, 1935).
  • T. Gwynn Jones, Brethyn Cartref (Caernarfon, 1913).
  • T. Gwynn Jones, John Homer (Wrecsam, 1923).
  • T. Gwynn Jones, Peth Nas Lleddir (Aberdâr, 1921).
  • T. Gwynn Jones, Rhieingerddi’r Gogynfeirdd (Dinbych, 1915).
  • T. Gwynn Jones, Cymeriadau (Wrecsam, 1933).
  • T. Gwynn Jones, Detholiad o Ganiadau (Y Drenewydd, 1926).
  • T. Gwynn Jones, Cerddi Hanes (Wrecsam, 1930).
  • T. Gwynn Jones, Gwlad y gân (Caernarfon, 1902).
  • T. Gwynn Jones, Manion (Wrecsam, 1902).
  • T. Gwynn Jones, ‘Rhagymadrodd’, yn (casg.) W. S. Gwynn Williams, Rhwng Ddoe a Heddiw: Casgliad o Delynegion Cymraeg, (Wrecsam, 1926), tt. 13–18
  • T. Gwynn Jones, Emrys ap Iwan: Cofiant (Caernarfon, 1912).
  • T. Gwynn Jones, Llenyddiaeth y Cymry: Llawlyfr i Erfydwyr (Dinbych, 1915).
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Ceiriog (Wrecsam, 1927).
  • T. Gwynn Jones, Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd ganrif ar bumtheg (Caernarfon, 1920)
  • (Casg. a gol.) T. Gwynn Jones, Y Gelfyddyd Gwta (Aberystwyth, 1929) .
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Talhaiarn (Aberystwyth, 1930).
  • Johann-Wolfgang Von Goethe, (tros.) T. Gwynn Jones, Faust (Caerdydd, 1922).
  • (Deth. a chyf.) T. Gwynn Jones, Awen y Gwyddyl (Caerdydd, 1923).
  • T. Gwynn Jones, Brithgofion (Llandybïe, 1944).
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, O Oes i Oes (Wrecsam, 1917).
  • T. Gwynn Jones, Llyfr Gwion Bach (Wrecsam, 1924).
  • T. Gwynn Jones, Plant Bach Tŷ Gwyn (Caerdydd, 1928).
  • T. Gwynn Jones, Yn Oes yr Arth a’r Blaidd (Wrecsam, 1913).
  • T. Gwynn Jones, Dyddgwaith (Wrecsam, 1937).
  • T. Gwynn Jones, ‘Lluniau o Gawr y Llenor’, Barddas, rhif. 212–213 (Rhagfyr 1994–Ionawr 1995), t. 47.
  • T. Gwynn Jones, ‘Rhagair’ yn Ioan Brothen, (gol.) John W. Jones, Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942).
  • T. Gwynn Jones, Cerddi Canu (Llangollen, 1942).
  • T. Gwynn Jones ac Arthur ap Gwynn, Geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg (Caerdydd, 1950).
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Troeon Bywyd (Wrecsam, 1936).
  • T. Gwynn Jones, Cerddi ’74 (Llandysul, 1974).
  • T. Gwynn Jones, Bardism and Romance: a Study of the Welsh Literary Tradition (Llundain, 1914).
  • T. Gwynn Jones, Modern Welsh Literature (Aberystwyth, 1936).
  • T. Gwynn Jones, Casgliad o eiriau llafar Dyffryn Aman (Caerdydd, 1931).
  • T. Gwynn Jones, ‘Rhagair’, yn (gol.) John W. Jones, Yr Awen Barod: cyfrol goffa Gwilym Deudraeth (1863–1940) (Llandysul, 1943).
  • T. Gwynn Jones, Gorchest Gwilym Bevan (Wrecsam, 1900).
  • T. Gwynn Jones, Gwedi brad a gofid (Caernarfon, 1898).
  • T. Gwynn Jones, Y Dwymyn, 1934–35 (Aberystwyth, 1944).
  • T. Gwynn Jones, Cultural Basis: a study of the Tudor period in Wales (, 1921).
  • T. Gwynn Jones, Llenyddiaeth Wyddelig (Lerpwl, 1916).
  • T. Gwynn Jones, Cân y Nadolig (Llangollen, 1945).
  • T. Gwynn Jones, The Culture and Tradition of Wales (Wrexham, 1927).
  • T. Gwynn Jones, ‘Rhagair’ yn D. Emrys James, Odl a Chynghanedd (Llandybïe, 1961).
  • T. Gwynn Jones, Cofiant Thomas Gee (Dinbych, 1913).
  • (Casg.) T. Gwynn Jones, Llen Cymru (Caernarfon, 1921).
  • (Casg.) T. Gwynn Jones, Llen Cymru: Rhan 2 (Caernarfon, 1922).
  • (Casg.) T. Gwynn Jones, Llen Cymru: Rhan 3 (Aberystwyth, 1926).
  • (Casg.) T. Gwynn Jones, Llen Cymru: Rhan 4 (Aberystwyth, 1927).
  • Homerus, (cyf.) R. Morris Lewis gydag ychwanegiadau, rhagair ac anodiadau T. Gwynn Jones, Iliad Homer, (Wrecsam, 1928).
  • T. Gwynn Jones, Daniel Owen, 1836–1895 (Caerdydd, 1936).
  • Daniel Owen, (gol.) T. Gwynn Jones, Profedigaeth Enoc Huws (Wrecsam, 1939).
  • T. Gwynn Jones, Y Cerddor (Aberystwyth, 1913).
  • Am ragor, gweler A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Casg.) Owen Williams (Wrecsam, 1938)

Amdano

  • Derec Llwyd Morgan, Barddoniaeth Thomas Gwynn Jones: astudiaeth (Llandysul, 1972).
  • (Gol.) David Jenkins, Bro a Bywyd Thomas Gwynn Jones 1871–1949 (Caerdydd, 1984).
  • W. Beynon Davies, Thomas Gwynn Jones (Caerdydd, 1970).
  • D. Ben Rees, Pumtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif (Pontypridd, 1972).
  • (Gol.) Gwynn ap Gwilym, Thomas Gwynn Jones (Llandybïe, 1982).
  • (Casg.) Owen Williams, A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Wrecsam, 1938).

Cyfeiriadau