Ceidwadaeth draddodiadol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Traditional conservatism)

1. Cyflwyno Ceidwadaeth draddodiadol

Er bod amryw o geidwadwyr cyfandirol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi mabwysiadu agweddau a nodweddwyd gan wrthwynebiad digyfaddawd i newid gwleidyddol neu gymdeithasol o unrhyw fath, gwelwyd traddodiad ceidwadol mwy cymedrol, ac yn y pendraw, mwy llwyddiannus yn etholiadol, yn datblygu o fewn cylchoedd Eingl-Americanaidd. I raddau helaeth roedd y traddodiad hwn yn un a oedd yn fwy cydnaws â’r syniadau gwreiddiol a gafodd eu hamlinellu gan Edmund Burke (1729-1797).

Yr hyn a oedd wedi peri pryder mawr i Burke (1790/2003) wrth ddilyn datblygiadau’r Chwyldro yn Ffrainc oedd y modd cwbl ddisymwth yr aethpwyd ati i ddymchwel y drefn frenhinol a fu’n weithredol am ganrifoedd a cheisio adeiladu trefn gwbl newydd yn ei le. Roedd hyn yn gam peryglus iawn yn ei dyb ef, fel y datganodd yn y dyfyniad enwog canlynol:

It is with infinite caution that any man ought to venture upon pulling down an edifice which has answered in any tolerable degree for ages the common purpose of society. (Burke 1790/2003: 52)

Credai Burke (1790/2003) fod sefydliadau neu arferion traddodiadol sydd wedi llwyddo i oroesi dros gyfnod hir – er enghraifft, yn achos Ffrainc, brenhiniaeth – yn bethau y dylid eu parchu ac y dylid ymdrechu i’w cynnal.

Mynnodd fod traddodiadau o’r fath, trwy oroesi, wedi profi eu bod yn meddu ar werth cynhenid a’u bod wedi dod i ymgorffori gwybodaeth a doethineb hanesyddol pwysig na ddylid eu dibrisio. Fodd bynnag, tra oedd Burke (1790/2003) yn gryf o’r farn bod angen parchu sefydliadau neu arferion traddodiadol, nid oedd o’r farn y dylid gwrthwynebu newid gwleidyddol a chymdeithasol ar bob cyfrif. Yn hytrach, roedd newid gofalus a threfnus yn dderbyniol.

Yn wir, dadleuodd bod newid o’r math hwn yn angenrheidiol er mwyn i gymdeithas a’i harferion a’i sefydliadau traddodiadol fedru goroesi:

A state without the means of some change is without the means of its conservation. (Burke 1790/2003: 19)

Felly, newid graddol er mwyn cynnal y traddodiadol oedd yr hyn a ffafriwyd gan Burke (1790/2003), a dyma’r math o dybiaethau a welir yn amlygu eu hunain yn syniadau’r garfan o Geidwadwyr a ddilynodd ef yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yna’r ugeinfed ganrif. Dyma garfan niferus a gaiff ei disgrifio’n aml fel y ceidwadwyr draddodiadol. Label arall a ddefnyddir o bryd i’w gilydd ar gyfer y garfan hon yw’r Ceidwadaeth dadofalaethol (Paternal conservativsm). O fewn y traddodiad cyffredinol hwn, gellir adnabod dwy is-garfan ceidwadol arwyddocaol: y cyntaf yn fynegiant Prydeinig o Geidwadaeth Draddodiadol – Ceidwadaeth Un Genedl (One Nation conservatism) - a’r ail yn fynegiant Ewropeaidd mwy diweddar - Democratiaeth Gristnogol (Christian Democracy).

2. Is-garfannau Ceidwadaeth draddodiadol

2.1 Ceidwadaeth Un Genedl

Ceidwadaeth un genedl yw’r label a roddir ar draddodiad ceidwadol penodol a ddatblygodd ym Mhrydain yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ffigwr allweddol i’w ddatblygiad oedd Benjamin Disraeli (1804-1881). Fel gwleidydd yr adnabyddir Disraeli’n bennaf – bu’n Brif Weinidog ym 1868 ac unwaith eto rhwng 1874 a 1880. Gwelai Disraeli (1845/2016) fod peryg i hollt ddifrifol ddatblygu rhwng y tlawd a’r cyfoethog ac y gallai hyn arwain at chwyldroadau dinistriol, fel y gwelwyd eisoes mewn rhannau eraill o Ewrop. Er mwyn osgoi hyn a chynnal ymdeimlad o undod cenedlaethol ym Mhrydain, dadleuodd fod angen i arweinwyr y cyfnod gyflwyno cyfres o ddiwygiadau gwleidyddol a chymdeithasol.

Fel Burke (1790) o’i flaen, roedd Disraeli’n (1845/2016) gryf o’r farn fod elfen o anghydraddoldeb yn anochel o fewn unrhyw gymdeithas, ond credai y dylid defnyddio grym y wladwriaeth mewn modd pwyllog a gofalus er mwyn lleddfu ei effeithiau mwyaf garw. Byddai cymryd camau o’r fath yn ddoeth o safbwynt aelodau mwyaf breintiedig cymdeithas: byddai’n lleihau’r peryg o chwyldro ac o ansefydlogrwydd a fyddai’n medru peryglu eu statws, eu cyfoeth a’u heiddo. Ar yr un pryd, mynnodd Disraeli bod dyletswydd foesol ar y breintiedig i gytuno i ddiwygiadau cymdeithasol, gan fod eu statws a’u cyfoeth eithriadol yn esgor ar gyfrifoldeb i estyn llaw ‘dadofalaethol’ i gefnogi a chynorthwyo’r sawl oedd yn dlawd a llai ffodus. Yn wir, trafododd Disraeli (1845/2016) yn ei nofel, Sybli, or the Two Nations, amodau byw'r dosbarth gweithiol yn Lloegr yn ystod y 1840au a disgrifiodd y gwahaniaeth rhwng yr elît a’r rheiny llai ffodus fel:

Two nations: between whom there is no intercourse and no sympathy; who are as ignorant of each other’s habits, thoughts, and feelings, as if they were dwellers in different zones, or inhabitants of different plants, who are formed by a different breeding, are fed by a different food, and ordered by different manners, and are not governed by the same laws.

Yn ystod ei yrfa wleidyddol llwyddodd Disraeli i droi’r dadleuon hyn yn weithredu ymarferol. Ef oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ‘Ail Ddeddf Ddiwygio’ ym 1867, y mesur arweiniodd at estyn yr hawl i bleidleisio i aelodau’r dosbarth gweithiol am y tro cyntaf (Senedd DU 2021). Ef hefyd oedd yn gyfrifol am ystod o ddiwygiadau cymdeithasol a gyfrannodd at wella amodau tai a iechyd y dosbarth gweithiol.

Cafodd dadleuon Disraeli ddylanwad ar nifer o geidwadwyr Prydeinig diweddarach. Er enghraifft, yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wrth i drefniadau democrataidd ennill tir ar raddfa gyflym, rhybuddiodd Randolph Churchill fod angen gweithio i sicrhau cefnogaeth gymdeithasol eang i hen sefydliadau traddodiadol megis y Frenhiniaeth, Tŷ’r Arglwyddi a’r Eglwys Anglicanaidd. Mynnodd y gellid cyflawni hyn trwy ddenu aelodau’r dosbarth gweithiol at y Blaid Geidwadol wrth barhau â pholisi Disraeli o ddiwygio cymdeithasol gofalus (gweler Quinault 1979).

Tybir hefyd fod y meddylfryd ‘Un Genedl’ wedi bod yn ganolog i raglenni llywodraethau Ceidwadol Harold Macmillan rhwng 1957 a 1963 ac, i raddau llai, Edward Heath rhwng 1970 a 1974 (Heppell 2014). Er enghraifft, gwelir ei ddylanwad wrth ystyried y modd pragmataidd y bu i’r llywodraethau hyn geisio llywio’r economi, gan gyfuno dyhead i hybu menter breifat ymhlith unigolion gyda pharodrwydd i gydnabod ei bod yn briodol i’r wladwriaeth reoli a rheoleiddio rhai sectorau economaidd arwyddocaol, megis y diwydiannau dur a glo. Yn fwy diweddar, awgrymwyd bod David Cameron hefyd wedi bod yn wleidydd a oedd, mewn rhai ffyrdd, yn gogwyddo tuag at y ffrwd benodol hon o Geidwadaeth bragmataidd a graddol (Heppell 2014).

2.2 Democratiaeth Gristnogol

Democratiaeth Gristnogol yw’r enw a roddir ar ffurf debyg ar Geidwadaeth a welwyd yn magu gwreiddiau ar gyfandir Ewrop yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Y catalydd ar gyfer hyn fu cwymp y Natsïaid yn yr Almaen ac yn sgil hynny ddirywiad y duedd awdurdodaidd a fu mor gryf o fewn cylchoedd adain dde Ewropeaidd yn ystod y degawdau blaenorol. Sefydlwyd cyfres o bleidiau Democrataidd Cristnogol mewn gwledydd megis yr Almaen, Awstria, yr Iseldiroedd a’r Swistir yn ystod y 1950au a’r 1960au. Fel yn achos y ceidwadwyr un genedl ym Mhrydain roedd arweinwyr y pleidiau hyn yn credu y dylid caniatáu i’r wladwriaeth ymyrryd mewn meysydd cymdeithasol ac economaidd cyhyd ag y bo achos pragmataidd o blaid hynny a bod modd cyflwyno unrhyw ddiwygiadau mewn modd graddol (gweler Kalyvas a van Kersbergen 2010).

O ran sbectrwm gwleidyddol mae Democratiaeth Gristnogol yn cael ei ystyried yn rhan o’r adain dde ar ran materion diwylliannol, cymdeithasol a moesol, er enghraifft gwerthoedd y teulu a’r capel ond yn cael ei ystyried fel rhan o’r adain chwith ynghlwm yr economi. Mae hyn oherwydd eu bod yn credu y dylid y wladwriaeth allu ymyrryd ar yr economi er mwyn cefnogi cymunedau - beth a elwir yn economi marchnad cymdeithasol (social market economy) (gweler Turner 2008).

Wrth wraidd syniadaeth Democratiaeth Gristnogol yw bod unigolion yn foesol gyfrifol i Dduw, ac mae ganddynt gyfrifoldeb gwleidyddol tuag at gymdeithas. Yn ôl van Kersbergen (1999) yr ymdrech barhaus i geisio integreiddio a chysoni nifer o grwpiau cymdeithasol wnaeth, yn y pen draw, ddilyn at sefydlu Democratiaeth Gristnogol yn fudiad gwleidyddol gwahanol. Yn hyn o beth, maent yn ceisio integreiddio'r gwahanol fuddiannau a phryderon pob dosbarth a grŵp drwy ddatblygu consensws. Dyma pam mae pleidiau Democratiaeth Gristnogol yn ystyried ei hunain fel 'people's parties' (Jansen 1998).

Mae enghreifftiau o bleidiau gwleidyddol Democratiaeth Gristnogol yn cynnwys Fine Gael yn Iwerddon, Austrian People’s Party yn Awstria, a Christian Democratic Union of Germany yn yr Almaen.

Mae’n bosib mai’r gwahaniaeth mwyaf rhwng y ddwy ffurf yma ar Geidwadaeth Draddodiadol yw’r modd y mae athrawiaeth gymdeithasol Gatholig, gyda’i phwyslais ar grwpiau yn hytrach na’r unigolyn, wedi cael dylanwad mawr ar esblygiad Democratiaeth Gristnogol. Elfen bwysig arall yw’r pwyslais a rydd Democratiaeth Gristnogol ar y syniad o ‘bartneriaeth gymdeithasol’ a’r angen i sicrhau bod ystod o sefydliadau ‘canolradd’ – er enghraifft undebau, grwpiau busnes, eglwysi – yn medru cyfrannu at brosesau polisi a phenderfynu (gweler Kalyvas a van Kersbergen 2010). Ymhellach, yn hytrach ‘na rhoi pwyslais ar y genedl fel yr uned wleidyddol fwyaf allweddol, mae Democratiaid Cristnogol wedi tueddu i gofleidio egwyddor cyfrifolaeth (subsidiarity), sef y dylai penderfyniadau gael eu gwneud gan y sefydliad perthnasol lleiaf (Van Tongeren 2011). Mae hyn hefyd wedi arwain at barodrwydd i fod yn gyfforddus â threfniadau llywodraethol ffederal neu ddatganoledig, megis trefn y ‘Länder’ yn yr Almaen.

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Cenedlaetholdeb: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Burke, E. (1790/2003), ‘Reflections on the Revolution in France’, yn Turner, F. (gol.) Reflections on the Revolution in France. (New Haven: Yale University Press), tt. 3-211

Disraeli, Benjamin (1845/2016). Sybil, or The Two Nations. http://www.gutenberg.org/files/3760/3760-h/3760-h.htm [Cyrchwyd: 26 Ebrill 2021]

Heppell, T. (2014). The Tories: From Winston Churchill to David Cameron. (London: Bloomsbury Academic)

Jansen, T, (1998). The European People’s Party: Origins and Development. (Basingstoke: Macmillan)

Kalyvas, S. a van Kersbergen, K. (2010). ‘Christian Democracy’. Annual Review of Political Science, 13, 183–209

Quinault, R. E. (1979), ‘Lord Randolph Churchill and Tory Democracy, 1880-1885’, The Historical Journal, 22, (1), 141-165

Senedd DU. (2021). Key dates. https://www.parliament.uk/about/living-heritage/transformingsociety/electionsvoting/chartists/keydates/ [Cyrchwyd: 26 Ebrill 2021]

Turner, R. (2008). Neo-liberal Ideology: History, Concepts and Policies. (Edinburgh: Edinburgh University Press).

van Kersbergen, K. (1999). ‘Contemporary Christian democracy and the demise of the politics of mediation.’, yn Kitschelt, H., Marks, G., Lange, P. a Stephens, J.D. (goln.) Continuity and Change in Contemporary Capitalism, (Cambridge, Cambridge University Press), tt. 346–70

Van Tongeren, J. (2011). ‘Christian Democracy: the Champion of Subsidiarity’, Sfera Politicii, 19 (3), 12-17