Gwladwriaeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:18, 7 Medi 2024 gan AdamPierceCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: State)

1. Cyflwyniad i wladwriaeth

Gellid dadlau nad oes consensws na diffiniad niwtral o wladwriaeth, a hynny oherwydd bod gwahanol ddamcaniaethau a mudiadau ideolegol yn diffinio’r cysyniad mewn ffyrdd gwahanol.

Er hynny, mae’n bosib diffinio gwladwriaeth fel endid gwleidyddol sefydlog a hunangynhaliol sydd â’r pŵer a’r awdurdod i reoli grŵp o unigolion.

Mae ceisio cael diffiniad ffurfiol o wladwriaeth yn ddatblygiad eithaf diweddar a gellir olrhain un o’r diffiniadau ffurfiol cyntaf yn ôl i’r Montevideo Convention on the Rights and Duties of States, a arwyddwyd yn 1933. Pwrpas y cytundeb hwn oedd ceisio sefydlu trefn i reoleiddio cysylltiadau ymhlith gwledydd Gogledd a De America. Er mwyn gwneud hynny, roedd yn rhaid sefydlu a chytuno ar ddiffiniad o wladwriaeth.

Felly, yn ôl Erthygl 1, Montevideo Convention on the Rights and Duties of States (1933), mae pedair prif elfen i wladwriaeth. Hynny yw, mae gwladwriaeth dan gyfraith ryngwladol yn cael ei chydnabod ar sail pedwar cysyniad creiddiol: tiriogaeth, poblogaeth barhaol, llywodraeth, a’r gallu i sefydlu cysylltiadau â gwladwriaethau eraill. Nid oes modd cydnabod gwladwriaeth heb yr elfennau hyn. Yn wir, hyd heddiw mae’r Cenhedloedd Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, yn defnyddio’r fframwaith hwn er mwyn asesu aelodaeth a chydnabod gwledydd (Shaw 2017).

2. Pedwar cysyniad creiddiol gwladwriaeth

2.1. Tiriogaeth

Mae gwladwriaeth yn endid sydd â ffiniau daearyddol cydnabyddedig o dir neu diriogaeth.

2.2. Poblogaeth barhaol

Mae gan wladwriaeth boblogaeth barhaol ac mae’r boblogaeth yn ddinasyddion o’r wladwriaeth honno.

2.3. Llywodraeth

Mae gwladwriaeth hefyd yn awdurdod sofran sydd â rheolaeth absoliwt dros ei thiriogaeth a’i phoblogaeth. Mae angen gweinyddiaeth ffurfiol ar wlad er mwyn ei chynnal, fel arfer drwy lywodraeth. Er bod y termau gwladwriaeth a llywodraeth yn aml yn cael eu defnyddio fel geiriau cyfystyr, mae’n bwysig cydnabod bod gwahaniaeth rhwng y ddau derm, a bod llywodraeth yn rhan, neu’n israniad, o’r wladwriaeth. Gan amlaf, mae llywodraeth yn cwmpasu grwpiau o swyddogion etholedig sydd wedi’u dewis drwy broses etholiadol. Mae llywodraeth yn gweithredu fel asiantaeth sy’n rheoli ar ran y wladwriaeth, er enghraifft drwy greu a gweithredu cyfreithiau’r wladwriaeth honno. Yn ei erthygl, The Distinction Between State and Government, mae Edward Robinson (2013) yn trafod yn fanwl y gwahaniaeth rhwng gwladwriaeth a llywodraeth.

2.4. Cysylltiadau â gwladwriaethau eraill

Mae angen i wlad allu sefydlu cysylltiadau â gwladwriaethau eraill; fel arall, nid yw’n gallu cael ei chydnabod fel gwladwriaeth.


3. Cenedl-wladwriaeth (nation-state)

Mae’n werth hefyd gydnabod y gwahaniaeth rhwng cenedl a chenedl-wladwriaeth. Y prif wahaniaeth yw fod gwladwriaeth yn endid gwleidyddol, ond mai endid diwylliannol yw cenedl. Er enghraifft, mae cenedl yn cyfeirio at endid o bobol sy’n eu gweld eu hunain yn perthyn i grŵp penodol oherwydd eu bod yn rhannu nodweddion megis iaith, diwylliant, crefydd, arferion, traddodiadau a hanes cyffredin. Mae’r genedl-wladwriaeth felly’n cyfuno’r ddwy agwedd hyn ac yn cyfeirio at wladwriaeth sy’n llywodraethu cenedl (Wimmer a Feinstein 2010).

Serch hynny, nid yw pob cenedl yn wladwriaeth. Er enghraifft, mae’r Cwrdiaid (Kurds), sy’n byw mewn rhannau o Dwrci, Irac, Iran a Syria, yn cael eu cydnabod fel un o’r cenhedloedd mwyaf yn y byd sydd heb wladwriaeth (Eliassi 2016); hynny yw, mae’n genedl ddiwladwriaeth (stateless nation). Mae ymchwilwyr fel Williams (2019) yn gweld Cymru fel cenedl ddiwladwriaeth. Er bod datganoli yn golygu bod gan Gymru bwerau i basio deddfwriaeth mewn nifer o feysydd polisi, mae Cymru’n dal o dan reolaeth y wladwriaeth Brydeinig gan fod gan y wladwriaeth honno bŵer i wneud penderfyniadau ynghylch rhai meysydd polisi sy’n effeithio ar Gymru.

4. Safbwyntiau tuag at y wladwriaeth

Mae gwahaniaethau ymysg ideolegau gwleidyddol megis Ceidwadaeth, Rhyddfrydiaeth a Sosialaeth ynglŷn â’u safbwyntiau ynghylch y wladwriaeth, er enghraifft beth ddylai rôl y wladwriaeth fod ac i ba raddau y dylai’r wladwriaeth ymyrryd ym mywydau unigolion yn ein cymdeithas.

Un o’r safbwyntiau mwyaf adnabyddus am y wladwriaeth yw gwaith Max Weber (1864–1920). Yn ôl Weber mae’r wladwriaeth yn meddu ar fonopoli o allu defnyddio grym corfforol o fewn ei thiriogaeth yn erbyn ei phobl. Yn ei lyfr Politics as Vocation, mae Weber (1919/1970: 78) yn disgrifio’r wladwriaeth fel ‘human community that [successfully] claims the monopoly of the legitimate use of physical force within a territory’. Heb os, dyma un o’r diffiniadau mwyaf adnabyddus o wladwriaeth o fewn y gwyddorau cymdeithasol.

Yn ei waith ar gymdeithas, mae Karl Marx (1818–83) yn pwysleisio’r berthynas rhwng pŵer economaidd a phŵer gwleidyddol. Yn ôl Marx, o dan system []cyfalafiaeth|gyfalafol]], y bourgeoisie (y dosbarth uwch) sydd â’r pŵer mewn cymdeithas a’r proletariat (y dosbarth gweithiol) yw’r grŵp sydd dan reolaeth. Nid yw’r bourgeoisie yn cynrychioli buddiannau’r holl boblogaeth. Yn ôl Marx, mae gwladwriaeth sy’n cael ei rheoli gan y bourgeoisie yn system ormesol sy’n ecsbloetio'r bobl gyffredin, a thrwy hyn mae’r bourgeoisie yn gallu cynnal eu pŵer. Wrth drafod y wladwriaeth, mae Marx ac Engels (1848/2014: 51) yn dweud y canlynol: ‘Nid yw grym gwleidyddol, yng ngwir ystyr y gair, yn ddim ond gallu trefnedig un dosbarth i orthrymu dosbarth arall.’

Adam Pierce

Llyfryddiaeth

Eliassi, B. (2016), ‘Statelessness in a world of nation-states: the cases of Kurdish diasporas in Sweden and the UK’, Journal of Ethnic and Migration Studies, 42(9), 1403–19.

Marx, K. ac Engels, F. (1848/2014), Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: Mawrth 2021].

Robinson, E. (2013), ‘The distinction between state and government’, Geography Compass, 7/8, 556–66.

Shaw, M. (2017), International Law. 8fed argraffiad (Cambridge: Cambridge University Press).

The Montevideo Convention of Rights and Duties of States (1933) https://www.jus.uio.no/english/services/library/treaties/01/1-02/rights-duties-states.xml [Cyrchwyd: 1 Ebrill 2021].

Weber, M. (1919/1970), ‘Politics as a vocation’, yn: Gerth, H. a Mills, C. (goln.), From Max Weber: essays in sociology (London: Routledge), tt. 77–128.

Williams, S. (2019), Rethinking Stateless Nations and National Identity in Wales and the Basque Country (London: Palgrave Macmillan).

Wimmer, A. a Feinstein, Y. (2010), ‘The rise of the nation-state across the world, 1816 to 2001’, American Sociological Review, 75(5), 764–90.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.