O'r Ddaear Hen
Cynnwys
Crynodeb
Wrth i William Jones (Charles Williams) balu yng ngardd ei dŷ cyngor daw o hyd i ben carreg od yr olwg. Yn ystod y nos caiff ei wraig freuddwydion arswydus gan beri iddiorfodi i William symud y pen o’r tŷ. Yn ei dro aiff a’r pen i archeolgydd ym Mhrifysgol Bangor (Valerie Wynne-Williams) sy’n arbenigwr ar greiriau Celtaidd ac sy’n ceisio palu am olion y Celtiaid mewn man arall. Er mwyn ceisio deall beth yw’r pen aiff a fo adref gyda hi, ond i bethau ddechrau mynd o chwith yn y nos yno hefyd gan ddod â breuddwydion erchyll o greadur hanner dyn hanner anifail i wragedd y tŷ. Un wrth un caiff teulu'r archeolegydd eu arswydo gan arwain at angau ac aberth arall i dduwiau hynafol y Celtiaid.
Manylion Pellach
Teitl Gwreiddiol: O’r Ddaear Hen
Blwyddyn: 1981
Hyd y Ffilm: 50 munud
Cyfarwyddwr: Wil Aaron
Sgript gan: Gwyn Thomas
Stori gan: Gwyn Thomas
Cynhyrchydd: Gwilym Owen
Cwmnïau Cynhyrchu: Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Genre: Arswyd
Cast a Chriw
Prif Gast
- Valerie Wynne-Williams (Miriam Vaughan)
- J.O. Roberts (Arthur Vaughan)
- Bethan Jones (Anna Vaughan)
- Lindsay Evans (Alan Wyn)
- Charles Williams (William Jones)
- Elen Roger Jones (Jane Jones)
Cast Cefnogol
- Stewart Jones – Dyn yn y dafarn
- Clive Roberts – Plisman
Rhannau Eraill:
- Fred Williams
- Jim Fieldsend
- Victor Tudor
- Alwyn Pleming
- Aelodau o Theatr Fach Llangefni
Ffotograffiaeth
- Graham Edgar
Sain
- Gus Lloyd
Golygu
- Lewis Fawcett
Cydnabyddiaethau Eraill
- Cynorthwywr Camera – Kevin Duggan
- Cynorthwywr Sain – Bob Webber
- Rheolwr Cynhyrchu – Gwynfryn Roberts
- Coluro – Mary Hillman
- Cynorthwydd Cynhrychu – Shân Davies
Manylion Technegol
Fformat Saethu: 16mm
Math o Sain: Mono
Lliw: Lliw
Gwlad: Cymru
Iaith Wreiddiol: Cymraeg
Lleoliadau Saethu: Prifysgol Bangor; Din Llugwy, Mon.
Manylion Atodol
Llyfrau
- David Berry, Wales and Cinema (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994)
- ap Dyfrig, R., Jones, E. H. G., Jones, G. The Welsh Language in the Media (Aberystwyth: Mercator Media, Mercator Media Monographs, 2006)