Sleep Furiously/Sylwebaeth arbenigol

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:36, 30 Gorffennaf 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio
Dadansoddiad o Sleep Furiously gan Dyfrig Jones

Ffilm ddogfen yw Sleep Furiously, gan Gideon Koppel, sydd yn cofnodi 8 mis ym mywyd Trefeurig, pentref yng Ngheredigion. Mae’r pentref yn gartref i Pip Koppel, mam y cyfarwyddwr, a dyna hefyd leoliad bedd ei dad. O ystyried y cysylltiad clos hwn rhwng y cyfarwyddwr a’i bwnc, byddai’n berffaith rhesymol i’r gwyliwr ddisgwyl ffilm bersonol iawn, wedi ei llywio gan bresenoldeb Gideon Koppel ei hun. Mae nifer o gyfarwyddwyr ffilmiau dogfen llwyddiannus – megis Nick Broomfield, Ross McElwee neu Michael Moore – wedi archwilio’r berthynas rhwng y cyfarwyddwr a’r ffilm drwy droi y camerâu ar eu hunain, a dod yn rhan o’r stori y maent yn geisio ei dweud. Disgrifir y dull yma o wneud ffilmiau dogfen fel y Dull Cyfranogol (The Interactive Mode) gan Bill Nichols (1991: 44–56) neu’r Dull Perfformiadol (The Performative Mode) gan Stella Bruzzi (2006: 185–218).

Nid dyma’r trywydd y mae Koppel wedi dewis ei ddilyn, fodd bynnag. Er gwaethaf ei gysylltiadau personol a phwnc ei ffilm, nid yw Koppel yn bresennol yn y ffilm. Cawn weld ei fam yn ymweld â bedd ei dad, ond nid ffilm am unigolyn, nac am deulu yw hon. Yn hytrach, mae yn ffilm sydd yn ceisio cyfleu naws, yn hytrach na chlymu ei hun yn rhy dynn i gymeriadu a phlot.

Naws lesg, ddigyffro sydd i’r ffilm, ar y cyfan. Nid yw’r camera yn symud rhyw lawer, ac mae saethiadau unigol yn cael eu dal am gyfnodau hir. Mise en Scene yn hytrach na montage yw’r arf y mae’r cyfarwyddwr yn ei ddefnyddio i lunio ei ffilm. Mae’r hyn sydd yn ymddangos o flaen y camera yn cael ei fframio yn gelfydd, gan roi gwedd wahanol, wreiddiol i nifer o’r golygfeydd.

Mae nifer o ddelweddau tir-luniadol i’w canfod drwy gydol y ffilm, sydd yn gosod cymuned Trefeurig o fewn ei chyd-destun daearyddol. Ond mae rhan helaeth o’r ffilm yn dewis peidio a chyflwyno delweddau rhamantaidd o’r ardal, gan ganolbwyntio ar elfennau egr, cyfoes bywyd cefn gwlad. Wrth i lygaid Koppel gael eu denu at fyd amaeth, mae’n canolbwyntio ar yr elfennau peirianyddol – y tractor yn hel a lapio’r gwair, yr injan gneifio. Yn aml, mae Koppel yn chwilio am yr harddwch yn y cyffredin. Yn yr olygfa lle mae’r gwair yn cael ei lapio, cawn siot agos o’r plastig du yn amgylchynu’r gwair, a’r plygau ynddo yn codi ac yn gostwng fel tonnau’r mor.

Nid yw Koppel yn dilyn confensiynau gramadeg sgrîn. Lle mae golygfeydd yn troi o amgylch sgwrs rhwng dau unigolyn, mae Koppel yn aml yn dewis peidio a throi’r camera ar eu hwynebau. Mae dilyniant yn nhraean cyntaf y ffilm sydd yn dilyn fan lyfrgell, a’i gyrrwr, wrth iddo rannu llyfrau rhwng trigolion y pentref. Yn aml y mae’r rhai sydd yn benthyg y llyfrau wedi eu cuddio o olwg y camera, gyda’u sgwrs yn plethu gyda’r sain naturiol o’u cwmpas. Pan maent yn bresennol, mae eu hwynebau wedi eu cuddio, yn amlach na pheidio. Mae amgylchedd y cymeriadau yn cael lle llawn cyn amlyced a'r cymeriadau eu hunain yn nelweddau Koppel.

Wrth gael ei gyfweld am y ffilm, mae Koppel wedi datgan nad oes ganddo ddiddordeb mewn naratif draddodiadol. Dywedodd wrth Kevin Maher o’r Times nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb chwaith mewn trafod pwnc neu thema ei ffilm:

"I always use the word ‘evoke’ rather than ‘about’," meddai Koppel "Because we’re not dealing with plot, but with a world that is evoked. In other words, I don’t give a f*** about plot. I’m not interested in it, and I find it boring. I’m interested in evocation." (Maher, 2009)

Mae’r pwyslais hyn ar naws yn hytrach na naratif yn awgrymu bod Koppel yn gweithio mewn dull o wneud dogfen sydd wedi ei ddisgrifio gan Bill Nichols fel y Dull Barddonol (The Poetic Mode). Yn wahanol i ddulliau eraill o gyfarwyddo ffilmiau dogfen, mae’r Dull Barddonol yn ymwrthod a’r syniad y bod angen i’r cyfarwyddwr a’i griw fod yn ddrych gwrthrychol i’r hyn sydd yn digwydd. Mae ffilmiau dogfen barddonol yn ceisio dehongli’r hyn sydd yn digwydd, yn hytrach na dim ond ei gofnodi, ac yn gwneud hynny drwy ddefnyddio technegau creadigol. (Gweler Nichols, 2001: 99-139).

Serch hynny, mae themâu yn dod i’r amlwg yn Sleep Furiously. Mae’r cyferbyniad rhwng y tirwedd naturiol a’r peirianwaith amaethyddol yn arwain y gwyliwr i ystyried treigl amser, a’r newidiadau sydd wedi digwydd yn Nhrefeurig dros y blynyddoedd. Caiff y newid hwn ei osod ochr-yn-ochr a newidiadau mwy cyfoes. Mae’r ysgol yn ganolog i ffilm Koppel, ac fe gawn ar wybod bod yr Awdurdod Addysg yn bwriadu ei chau. Mewn cyfarfod i drafod hyn cawn glywed rhai o’r trigolion yn trafod newid cymdeithasol o fewn eu hoes eu hun, a diflaniad sefydliadau cymunedol. Mae’r drafodaeth hon yn un gymhleth, aml-haenog, fodd bynnag. Mae nifer o’r rhai sydd yn ymddangos yn y ffilm yn siarad Cymraeg a’u gilydd. Ond yn yr olygfa sydd yn trafod cau’r Ysgol, Saesneg yw cyfrwng y sgwrs; a Saesneg acennog mewnfudwyr o Loegr, gyda hynny. Pan glywn acenion lleol yn siarad Saesneg, maent yn gofyn pam nad yw trefnwyr y cyfarfod wedi ymwneud yn fwy a chyrff lleol. Mae dirywiad diweddar y sefydliadau cymunedol yn cael ei cyferbynnu, felly, â dirywiad yr iaith Gymraeg yn Nhrefeurig, a hynny yn sgil y mewnlifiad o Loegr.

Serch hynny, nid yw neges y ffilm yn cael ei gwthio ar y gwyliwr. Rhaid ymdrechu i chwilio am ystyr, dilyniant a chymeriad yn y ffilm heriol hon. Y mae’n ffilm i’w hastudio a’i harchwilio, yn gymaint a ffilm i’w mwynhau.

Llyfryddiaeth

  • Bruzzi, Stella (2006) New Documentary (2nd Edition). Llundain: Routledge
  • Nichols, Bill (1991) Representing Reality. Bloomington, IN: Indiana University Press
  • Nichols, Bill (2001) Introduction to Documentary. Bloomington, IN: Indiana University Press