Dull parthu
Oddi ar WICI
Defnyddir dull parthu [sef "zoning method"] i gyfrifiannu gwerth rhent gofod adwerthu [gan amlaf ar y llawr gwaelod].
Rhennir arwynebedd y siop i stribedi cyfochrog â’r prif ffryntiad [main frontage]. Priodolir gwerth gwahanol i bob stribed mewn perthnasedd â’r gallu i gynnal gwerthiant/creu elw, gyda’r stribedi mwyaf gwerthfawr fel arfer at y blaen.
Fel arfer y dyfnder cydnabyddedig fydd 20 troedfedd, a bydd yn haneru mewn gwerth fel mae’r parthau yn mynd yn ôl. Felly os yw gwerth parth 1 mewn siop yn £30 bydd parth 2 yn £15 ac yn y blaen.
Owain Llywelyn
Llyfryddiaeth
“Valuation: Principles into Practice”, R. E. H. Hayward ac W. H. Rees, Estates Gazette, pumed argraffiad, tudalennau 192-208 a 432
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.