Eidyl

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cerdd yn darlunio bywyd delfrydol (o’r Groeg eidulion), a cheir yr ansoddair ‘eidylig’ yn disgrifio’r bywyd hwnnw. Mewn traddodiad hirhoedlog sy’n tarddu o Eidylia’r hen fardd Groeg Theocritos, bywyd y bugail a gymerir yn batrwm o’r bywyd dedwydd. Gweler Arcadia, Bugeilgerdd. Mewn math arall o eidyl, bywyd o anrhydedd, dewrder ac uchel amcanion yw’r bywyd delfrydol, a dyna a rydd Tennyson yn ei gerddi Arthuraidd Idylls of the King.

Dafydd Glyn Jones


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.