Ffenomenoleg
Ffenomenoleg yw’r astudiaeth o’r modd y gall amgyffred â ffenomenau, neu’n profiadau o’r byd, esbonio’n adnabyddiaeth ohono. Nid yw ffenomenoleg yn un athroniaeth gaeth, ond yn hytrach caiff ei diffinio gan wahanol feddylwyr sydd yn deall y term mewn ffyrdd gwahanol. Yn wir, ni ellir hawlio un diffiniad clir o ffenomenoleg gan ei bod yn ymgais i archwilio profiad goddrychol.
Edmund Husserl oedd un o’r athronwyr cyntaf i drafod y term. Cred Husserl nad rhywbeth sy’n bodoli ynddo'i hunan yw’r byd o’n hamgylch, ond yn hytrach mai ffenomen ydyw, rhywbeth a ganfyddwn trwy’n profiad ohono. Ni fodola gwrthrychau’n ddiamod; ein canfyddiad a’n hamgyffred ein hunain ohonynt sydd yn eu ffurfio i ni. Cydnebydd Husserl athroniaeth René Descartes fel dechreubwynt wrth ystyried y modd y crëir gwybodaeth, a'i Cogito ergo sum (Rwyf yn meddwl felly rwyf yn bod). I Descartes, fel i Husserl, nid yw’r byd yn bodoli fel endid sydd ar wahân i ni, gan mai ni sydd yn ei ddehongli. Mae Descartes yn grediniol ein bod yn gwneud hyn drwy’r meddwl, ar wahân i brofiadau’r corff (yr hyn y cyfeirir ati fel deuoliaeth corff a meddwl), ond mae Husserl yn mynnu ein bod yn dehongli'r byd trwy brofiadau ymgorfforedig.
Defnyddia Husserl y term ‘lleihad trosgynnol-ffenomenolegol’ er mwyn disgrifio’r modd cylchol y profir y byd. Hynny yw, mae dyn yn profi gwrthrych newydd trwy’r wybodaeth neu brofiadau y mae eisioes yn meddu arnynt, ond wedyn mae ei brofiad o’r gwrthrych hwnnw yn cyfoethogi ei ddealltwriaeth ohono’i hun a’r byd. Mae Husserl o’r farn fod adnabod y byd ac adnabyddiaeth o’r hunan yn gyd-ddibynnol, ac yn cadarnhau ei gilydd; gan hynny, maent yn gylchol. Mae’r modd y digwydda hyn yn lleihad, yn broses a hidla’r gwahanol ffenomenâu at ei gilydd i greu profiad. Yn ei waith yntau, cyfrannai’r athronydd Maurice Merleau-Ponty at syniadaeth ffenomenolegol trwy ddadlau mai profiadau’r corff sydd yn estyn allan er mwyn dehongli’r byd. Awgryma mai ymgorffori profiad o’r byd a wnawn, gan ddefnyddio’n hamgyffred fel mesurydd. Os felly, daw’n ymatebion blaenaf o’r corff, o endid cyflawn (nid o feddwl fel endid ar wahân i’r corff fel y cred Descartes).
Yng nghyd-destun theori esthetaidd, gallwn wrth drafod ffenomenoleg drafod ein hunain mewn perthynas â’n hamgylchedd, a’r modd y gall ymwneud â gwrthrych/goddrych newid ein perthynas gyda’r gwrthrych/goddrych a’n dealltwriaeth o’n hunain yn yr un ennyd (y ‘lleihad trosgynnol-ffenomenolegol’ yr oedd Husserl yn ei drafod). Defnyddir ffenomenoleg bellach mewn sawl maes sydd yn ystyried ymgorfforiad a phrofiad fel gwybodaeth. Er enghraifft, ym maes astudiaethau perfformiad, sydd yn aml yn edrych ar brofiad unigolyn mewn gofod ar adeg penodol, mae ffenomenoleg yn fethodoleg defnyddiol er mwyn ystyried yr hyn a ddigwydd ar foment y perfformiad.
Mae modd dirnad ffenomenoleg fel methodoleg drwy edrych ar y gwahaniaethau rhwng astudio drama’n llenyddol a thrwy berfformiad o’r ddrama. Wrth astudio drama mae modd ei darllen ar lefel destunol, gan adael i’r ymateb gael ei greu yn y meddwl. Ond wrth astudio drwy berfformio gellir gadael i’r corff ac ymateb synhwyrus fod yn rhan o’r ddirnadaeth a’r driniaeth, gan ddeall y ddrama ar sawl lefel yn hytrach na thrwy’r meddwl yn unig.
Rhiannon M. Williams
Llyfryddiaeth
Husserl, E. (1973), Cartesian Meditations: An Introduction to Phenomenology (Dordecht: Kluwer).
Merleau-Ponty, M. (2009), Phenomenology of Perception (London and New York: Routledge).
Moustakas, C. (1994), Phenomenological Research Methods (Thousand Oaks, Llundain, New Delhi: Sage Publications).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.