Jazz

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae ceisio diffinio jazz yn gymhleth gan fod nifer o elfennau gwahanol yn perthyn i’r grefft. Ni ellir galw jazz yn gerddoriaeth werin, bop neu roc, nac ychwaith yn gerddoriaeth gelfyddydol, er ei fod yn ymrannu oddi wrthynt i gyd ar brydiau. Gwelir fod jazz yn dylanwadu mewn ffyrdd gwahanol ar bob un o’r categorïau hyn wrth gwrs, ond efallai mai’r hyn sy’n ei wneud yn anodd i’w gategoreiddio yw’r ffaith ei fod yn ffurf amryfal sy’n gyfuniad o elfennau Affricanaidd, Ewropeaidd ac Affro-Americanaidd.

Er mor lluosog yw gwreiddiau jazz, gellir adnabod rhai nodweddion generig. Er enghraifft, mae’r pwyslais canolog ar berfformio’n fyrfyfyr yn bwysig, ac mae iaith harmonig a melodig jazz yn ddigon adnabyddus hefyd – y naill yn aml yn seiliedig ar gordiau estynedig (megis seithfedau a nawfedau) tra bod y llall gyda chysylltiadau agos â’r blues. Mae’r pwyslais ar rythm cyson yn nodwedd hefyd, un ai drwy gyfrwng y ‘bas araf’ (walking bass) neu’r defnydd o ‘swing’.

Yn ei hanfod, mae jazz yn wahanol i gerddoriaeth ‘glasurol’ neu ‘boblogaidd’ yn y rhyddid a roddir i berfformwyr i gynnig eu dehongliad eu hunain o gyfansoddiadau. O fewn jazz ceir ystod eang o wahanol fathau o berfformiad, ar y naill law grwpiau bychain ac ar y llaw arall gerddorfeydd mawr, a’r dulliau’n ymestyn o chwarae’n gwbl fyrfyfyr i gyflwyno trefniant gofalus a disgybledig. Yn fras, ceir dosraniad amlwg rhwng ffurf ‘draddodiadol’ a dulliau a elwir yn ‘ganolog’ neu ‘fodern’, ond ar draws y rhaniad hwn ceir y blues, swing, bebop a dulliau arbrofol, ‘rhydd’. Ceir enghreifftiau o bob un o’r dulliau hyn yng Nghymru a hynny ers yr 1930au hyd y cyfnod presennol. Ar yr un pryd, gwnaeth cerddorion o Gymru gyfraniad pwysig i feysydd jazz y tu hwnt i’r ffin.

Ymhlith gwreiddiau amlycaf jazz y mae canu crefyddol, efengylaidd yn ogystal â chanu’r caethweision ym meysydd cotwm taleithiau deheuol yr Unol Daleithiau. Awgrymir bod diddordeb y Cymry yn y datblygiadau cerddorol hyn wedi’i ysgogi trwy wrando ar grwpiau teithiol megis y Fisk Jubilee Singers ar ddiwedd y 19g. Yn ddiweddarach, oddeutu 1919, yr ymddangosodd y gair ‘jazz’ yn y wasg Gymreig, tua’r adeg pan gyrhaeddodd y band jazz cyntaf Ynysoedd Prydain, yr Original Dixieland Jazz Band o’r Unol Daleithiau. Mae’n annhebyg fod y band hwnnw wedi ymweld â Chymru ond yn sgil y Rhyfel Mawr roedd Cymru yn dechrau arbrofi â ffasiynau newydd o ran dillad a cherddoriaeth. Yn ddiweddar, bu twf sylweddol yn hanesyddiaeth jazz yng Nghymru, yn enwedig trwy ymchwil a chyhoeddiadau Jen Wilson (g.1944), pianydd jazz nodedig a sefydlodd y gymdeithas Menywod Mewn Jazz yn 1986. O’r gymdeithas hon, ac o dan gyfarwyddyd Wilson, yr esblygodd Treftadaeth Jazz Cymru yn Abertawe, canolfan unigryw yn cynnwys adnoddau clyweledol amrywiol a rhai o’r dillad lliwgar a wisgwyd gan berfformwyr jazz gynt, gan dystio i bwysigrwydd gwragedd yn nhwf jazz yng Nghymru.

Ar gyfer dawnsfeydd y chwaraeid jazz yn bennaf yn yr 1920au ac o ganlyniad ceid brwdfrydedd mawr yng Nghymru dros jazz ‘poeth’ (hot jazz). Gyda chynifer o geisiadau am drwydded cerdd wedi eu derbyn gan yr awdurdodau lleol roedd celfyddyd y café yn ffynnu. Rhwng 1919 ac 1926 roedd dros gant ac ugain o fandiau ‘jazz’ yn Abertawe yn unig, dan enwau fel y Kentucky Syncopators neu’r Sintsinazzie Syncopated Orchestra, yn chwarae yn y Café Chantant a mannau tebyg, ond hefyd mewn neuaddau ysgol, gerddi o fewn siopau, parciau ac, wrth gwrs, siop adrannol David Evans. Roedd bandiau carnifal yn ffenomen gymunedol a geid yng nglofeydd de Cymru ac yn nhrefi bach gogledd Lloegr, gyda’u gwreiddiau yn streiciau’r glowyr a Streic Gyffredinol 1926. Prif ‘offeryn’ y bandiau hyn oedd y kazoo, tebyg i’r hyn a welid ym mhlanigfeydd de’r Unol Daleithiau, ynghyd â drymiau o bob math. Gwisgai aelodau’r bandiau hyn ddillad unffurf cywrain, a cheid nifer o gystadlaethau ledled Prydain, gyda bandiau o Gymru, yn enwedig o Bort Talbot, Llansawel (Briton Ferry) a’r Gilfach Goch yn enillwyr mynych. Parhaodd y traddodiad hwn hyd yr 1970au ond bu dirywiad amlwg ar ôl i’r diwydiant glo ddiflannu.

Yn yr 1930au, sefydlwyd jazz fel ffurf neilltuol. Yn gyfochrog â chychwyn cylchgronau fel Melody Maker (1926–) a Rhythm (1927–), agorwyd nifer fawr o glybiau rhythm ar draws y wlad. Sefydlwyd y cyntaf yn Llundain yn 1933, ond o fewn blwyddyn ceid rhai yng Nghasnewydd, Caerdydd ac Abertawe, a’r flwyddyn ddilynol sefydlwyd Ffederasiwn Prydeinig Clybiau Rhythm. Ar draws de Cymru, ac i raddau’r gogledd hefyd, ymddangosodd bandiau a cherddorfeydd swing, a cheid adroddiad ar eu hynt a’u helynt mewn colofn ar Gymru yn y Melody Maker, o dan y teitl ‘South Wales Look You’. Yng Nghaerdydd, roedd y cysylltiadau â’r Caribî wedi rhoi naws arbennig i ymddangosiad cyntaf cerddorion croenddu, yn bennaf y gitaryddion Frank a Joe Deniz a Victor Parker.

Harry Parry (1912–56) oedd yr amlycaf ymhlith cerddorion jazz Cymreig y cyfnod. Yn enedigol o Fangor, dechreuodd ei yrfa broffesiynol yn ugain oed wrth chwarae sacsoffon ym mand Eddie Shaw yn Llandudno. Ar ôl symud i Lundain arbenigodd yn y clarinet gan chwarae gyda bandiau adnabyddus yn y Locarno yn Streatham a mannau tebyg. Tyfodd ei enwogrwydd drwy gyfrwng ei ymddangosiadau gyda’r Jackdaws a recordiau mynych o’r Coconut Grove. Yn 1940, ar dro’r rhyfel, fe’i gwahoddwyd gan y BBC i ddarlledu fel rhan o driawd a oedd yn cynnwys y pianydd hynaws George Shearing (1919–2011). Wedi hyn cafodd gyfnod llwyddiannus yn arwain Chwechawd Clwb Rhythm y BBC. Yn dilyn cyfnod o wasanaeth milwrol, ailgydiodd yn ei yrfa gan arwain nifer o fandiau mawr ym Mhrydain a thramor, ond o dipyn i beth newidiodd chwaeth y cyhoedd, ac effeithiodd hynny ar y math o waith a gâi Harry Parry. Erbyn canol yr 1950au fe’i cafwyd yn chwarae mewn gwersylloedd gwyliau. Yn Hydref 1956 cafodd drawiad ar y galon a bu farw, yn ddim ond pedair a deugain oed.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd rhoddwyd cryn bwys ar adloniant gan y lluoedd arfog a chafodd amryw o gerddorion brofiad o chwarae a pherfformio, yn eu plith y cerddor jazz Cymreig mwyaf amlwg yn niwedd yr 1940au a thrwy gydol yr 1950au, Dillwyn Owen (Dill) Jones (1923–84). Yn frodor o Gastellnewydd Emlyn, ei dad yn oruchwyliwr banc a’i fam yn bianydd, bu’n ddisgybl yng Ngholeg Llanymddyfri, ac yno y’i cyflwynwyd i recordiau Fats Waller. Gwasanaethodd yn y llynges rhwng 1942 ac 1946 lle darganfu fwy am jazz, ac ar ôl y rhyfel fe’i hanogwyd i astudio yng Ngholeg Cerdd y Drindod yn Llundain. Trodd yn gerddor proffesiynol yn 1947 a datblygodd ei yrfa yn gyflym mewn bandiau megis rhai Derek Neville, Vic Lewis ac yn 1949–50 fand Harry Parry. Wedi iddo gychwyn fel pianydd dull stride, trodd at ddulliau mwy modern, yn null be-bop, a recordio gyda tho newydd o gerddorion, yn eu mysg Tony Kinsey, Tommy Whittle, Joe Harriot a Ronnie Scott. Yn 1956 cyfeiliodd i Louis Armstrong ar ei daith ym Mhrydain, ac ymddangosodd hefyd gyda’r feiolinydd enwog, Stéphane Grappelli (1908–97).

Ar ôl ennill prif wobrau cylchgronau fel Melody Maker, penderfynodd Jones ledu ei orwelion a mentro ar yrfa ehangach yn yr Unol Daleithiau. Yno, gan ddychwelyd at ddull mwy traddodiadol o chwarae, gweithiodd gydag enwogion megis Gene Krupa, Jimmy McPartland a Bob Wilber, a rhwng 1969 ac 1973 roedd yn aelod o Bedwarawd JPJ dan arweiniad y sacsoffonydd Budd Johnson (1910–84). Wrth ymweld â Phrydain o bryd i’w gilydd cydweithiodd yn bennaf gyda’r clarinetydd Wyn Lodwick (g.1927), cerddor amlwg mewn cylchoedd Cymreig am dros drigain mlynedd; a’r ddau a recordiodd y casgliad o gerddoriaeth jazz Cymreig ei hosgo, The Welsh Connection (SoSo, 1982). Yn yr 1980au cynnar cafodd Dill Jones afiechyd difrifol a bu farw yn Efrog Newydd ar 22 Mehefin 1984 yn 60 oed.

Tua diwedd yr 1940au ymrannodd jazz yn ddwy ‘ysgol’ heb fawr ddim cyswllt rhyngddynt. Jazz traddodiadol a ddenai’r gynulleidfa fwyaf, fel yn wir o hyd, yn bennaf am fod y ffurf yn hygyrch a’r tonau’n adnabyddus. Yn Llanelli, er enghraifft, y band jazz cyntaf oedd Paul Vincent a’r Rhythm Boys lle bwriodd Wyn Lodwick ei brentisiaeth ac erbyn 1954 roedd Cymdeithas Jazz Traddodiadol Orleans Newydd yn ffynnu yn y dref. Bu cynnydd mawr ym mhoblogrwydd ‘Trad’ ac erbyn diwedd yr 1950au a’r 1960au cynnar roedd bandiau ar gael ym mhob cwr o Gymru: y Memphis Seven yn y dwyrain, Mike Potts a’r Five Pennies yn y gogledd, ac yng Nghaerdydd y Speakeasy Band, Phillip/Hawkes All Stars, y Riverside Band ac yn bennaf, efallai, y canwr a’r trombonydd Mike Harries o Gaerdydd a’i amryw fandiau.

Cafodd Mike Harries yrfa lewyrchus dros gyfnod o hanner canrif; yn 1987, er enghraifft, ffurfiodd y Root Doctors, band y mae’r dylanwadau arno mor amrywiol â Bunk Johnson, Allen Toussaint a Dr John, ac sy’n dal i gyfareddu a difyrru. Am chwarter canrif bu’r Riverside Jazz Band yn llwyddiant mawr yn y brifddinas gan alluogi amryw gerddorion i ddatblygu gyrfa broffesiynol, fel y pianydd Keith Little a symudodd i Loegr i ymuno â Colin Dawson a’r Onward Jazz Band. Bu hefyd yn gysylltiedig â Gŵyl Jazz Aberhonddu.

Parhaodd yr ymlyniad i jazz ‘Trad’ am flynyddoedd, ond o dipyn i beth roedd ffurfiau newydd jazz yn ennill eu plwyf. Y rhwydwaith o glybiau jazz lleol a oedd yn gyfrifol am hyn i raddau, gan gynnig llwyfan i gerddorion lleol dawnus megis Russ Jones yn Abertawe neu Austin Davies ym Morgannwg, a hwythau’n cyfeilio i berfformwyr enwog o Brydain neu’r Unol Daleithiau a fynychai’r clybiau hynny. Yn aml, roedd y clybiau hyn o fewn gwestai neu glybiau aelodaeth, fel y Quebec, New Continental, Ghana Club a’r Great Western Hotel yng Nghaerdydd.

Un o’r rhai mwyaf llwyddiannus oedd Cymdeithas Jazz Abertawe a sefydlwyd yn yr 1950au yn y Colombo Club. Y trefnwyr, dros ddegawdau pellach, oedd Derek Morgan, drymiwr jazz proffesiynol a pherchennog siop gerdd, a Derek Gabriel, ffotograffydd a oedd yn arbenigo mewn tynnu lluniau perfformwyr jazz; llwyddodd y ddau i ddenu nifer fawr o sêr y byd jazz i’w cymdeithas, yn enwedig ar ôl symud i’r Glanmor Club ac yna St James’ Club. Un arall a gyfrannodd at y gweithgarwch a’r bwrlwm yn yr ardal oedd perchen siop gerdd arall, John Ham, a ddaeth yn ffigwr amlwg yn y Gymdeithas Jazz Gymreig a’r Gerddorfa Jazz Gymreig, a arweinid gan aelod blaenllaw o’r BBC, Eric Wetherell (g.1925).

Brwdfrydedd a chefnogaeth perchnogion gwestai oedd yn bennaf gyfrifol am lwyddiant clybiau jazz mewn lleoliadau annisgwyl, fel y Coach and Horses yn y Fenni. Yno y cafodd y drymiwr John Gibbon yr ysbrydoliaeth i sefydlu Gibb’s Club yn 1981; yn ôl George Melly (1926–2007), y canwr jazz enwog a groesawodd y clwb i’r ardal, ‘does dim byd arall i’w wneud yn y dref ar wahân i yfed neu chwarae Bingo!’ Ac eto, yma y daeth rhai o enwogion y dydd, Ronnie Scott o Lundain, Sonny Stitt o’r Unol Daleithiau a llu o rai eraill, gan gynnwys hyd yn oed Robert Plant o’r band roc trwm, Led Zeppelin.

Ar y llaw arall, disgwylid i Gaerdydd, fel prifddinas Cymru, fod yn flaenllaw yn y ddarpariaeth. Yn 1976 rhestrodd y Jazz Centre Society Guide nifer o ganolfannau jazz yn y ddinas, yn cynnwys gwestai fel y Quebec neu’r Great Western, ond hefyd Clwb y BBC a Theatr y Sherman. Yn 1978 penderfynodd nifer o selogion sefydlu Cymdeithas Jazz Cymru a’r gymdeithas honno a fu’n gyfrifol, tan 2001, am gynnal y Cwrs Haf Jazz hynod lwyddiannus ym Mro Morgannwg. Cyfarwyddwr cyntaf y gymdeithas oedd y trwmpedwr o Gaerdydd, Chris Hodgkins (g.1950); ef hefyd, gyda Geoff Palser (1939–2001), a sefydlodd yr Ŵyl Jazz Gymreig yn 1974.

Yn yr 1980au cynnar symudodd Hodgkins i Lundain i ymestyn ei yrfa broffesiynol. Ar yr un pryd, datblygodd fel trefnydd jazz; bu am flynyddoedd lawer yn gyfarwyddwr Jazz Services, prif wasanaeth trefnu jazz ym Mhrydain a enillodd amryw o wobrau pwysig, a hefyd yn gadeirydd yr Archif Jazz Genedlaethol yn Loughton, Essex. Olynydd Chris Hodgkins fel rheolwr Cymdeithas Jazz Cymru oedd John Ellis Dowell (Jed) Williams (1952–2003), drymiwr a newyddiadurwr a sefydlodd y cylchgrawn Jazz UK yn 1981, cylchgrawn sydd bellach dan olygyddiaeth Chris Hodgkins.

Yn 1987, gyda chefnogaeth gan y bragwyr lleol S. A. Brain and Co., ac ar ran y Gymdeithas, agorodd Jed Williams y Four Bars Inn yn Heol y Castell, Caerdydd, fel canolfan ar gyfer cerddorion lleol ac ymwelwyr. Yn 2009 fe’i henwyd yn un o’r dwsin o ganolfannau mwyaf dylanwadol yn y byd jazz ym Mhrydain. Erbyn hynny roedd y Gymdeithas wedi symud ei gweithgaredd i’r Café-Jazz yng ngwesty’r Sandringham, Heol y Santes Fair, lle mae’n dal i gynnig perfformiadau jazz drwy’r flwyddyn, ynghyd â’r Preservation Jazz Society a Chymdeithas Jazz Caerdydd.

Yn ne Cymru, oherwydd maint y boblogaeth, y ceid y rhan fwyaf o’r gweithgarwch ym myd jazz ond cafwyd digon hefyd yn y gogledd trwy weithgaredd pobl fel Trefor Owen (g.1941), gitarydd ac addysgwr amryddawn a fu’n cyd- drefnu Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru o 1990 ymlaen gan hybu perfformiadau mewn gwestai fel y Fictoria ym Mhorthaethwy, y Farmers’ Arms yn Llanelwy a chanolfan y Lleng Brydeinig yn Wrecsam. Cynhaliodd Trefor Owen Ŵyl Ryngwladol Gitâr ac Ysgol Haf jazz am flynyddoedd lawer, ac mae’n dal i gynnal cyrsiau penwythnos jazz ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

O’r 1980au ymlaen cynyddodd y nifer o wyliau jazz yng Nghymru yn dilyn yr ŵyl gyntaf yng Nghaerdydd yn 1975. Yr amlycaf o’r rhain yw Gŵyl Jazz Aberhonddu, a gychwynnodd trwy wahoddiad oddi wrth selogion y dref i Jed Williams a Chymdeithas Jazz Cymru i geisio efelychu gŵyl jazz hynod lwyddiannus yn Breda yn yr Iseldiroedd. Dan oruchwyliaeth Williams, datblygodd Gŵyl Aberhonddu yn un o achlysuron enwocaf y byd jazz, yn rhyngwladol ei naws ond hefyd yn cynnig cyfleoedd i gerddorion o Gymru ymddangos o flaen cynulleidfaoedd mawr a brwd. Yno, mewn safleoedd o bob math, neuaddau cyngerdd a gwestai, yn yr awyr agored ac ar y stryd, darperir pob math o jazz gan ddenu rhai o enwau mawr y byd.

Ar ôl marwolaeth annhymig Williams yn 2003 collodd yr ŵyl beth o’i hegni, yn enwedig ar ôl tywydd garw 2008. Ar yr un pryd, roedd elfennau gwrthgymdeithasol wedi dechrau amharu ar yr ŵyl gan fygwth ei henw da. Er hynny, diolch i gefnogaeth hael gan Gyngor y Celfyddydau, Llywodraeth Cymru ac am gyfnod trefnwyr Gŵyl Lenyddol y Gelli, mae’r ŵyl yn dal i gael ei chynnal bob mis Awst. Ceisiodd nifer o drefi eraill efelychu’r model yma mewn gwyliau amrywiol o ran hyd a ffurf, a chyda gwahanol raddau o lwyddiant. Yn 1993 cynhaliwyd Gŵyl Jazz Bae Caerdydd am y tro cyntaf. Roedd Llangollen eisoes wedi cynnal Gŵyl Jazz, ac ar ôl hyn ceid gwyliau yn Ninbych-y-pysgod, Abersoch, Aberystwyth, Porth-cawl a Llandeilo, a chyflwynwyd cyngherddau jazz o fewn achlysuron cerddorol ehangach, megis Gŵyl Gerdd Abertawe.

Ar wahân i gefnogaeth fasnachol, cafodd jazz gefnogaeth gan Gyngor y Celfyddydau a’r cynghorau celfyddydol rhanbarthol, ac roedd hynny’n galluogi neuaddau bach ledled Cymru i gynnig, o bryd i’w gilydd, gyngerdd jazz neu ddigwyddiad tebyg, yn enwedig lle’r roedd canolfan gelfyddydol yn bodoli eisoes, fel Theatr Taliesin yn Abertawe, Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, Theatr Gwynedd (ac yn fwy diweddar Canolfan Pontio dan ofal ei chyfarwyddwr artistig, y gantores Elen ap Robert) ym Mangor, Canolfan Chapter yng Nghaerdydd, Galeri yng Nghaernarfon a Theatr Ardudwy yn Harlech. Yng Nghaerdydd cynhelid cyngerdd jazz bob mis yn Neuadd Dewi Sant, dan yr enw ‘Jazz ar y Lefel’.

O’r dechrau chwaraeodd y cyfryngau torfol rôl allweddol wrth gyflwyno jazz i gynulleidfaoedd ehangach. Aeth gyrfa Harry Parry o nerth i nerth ar ôl iddo ddarlledu ar y radio, a daeth Dill Jones yn wyneb cyfarwydd yn sgil ei waith fel cyflwynydd Clwb Jazz y BBC, y sioe radio What’s New a’i ymddangosiadau ar y teledu. Bu Wyn Lodwick a’i fand yn perfformio yn rheolaidd ar raglen materion cyfoes a ddarlledwyd ar S4C yn ystod yr 1980au, Y Byd yn ei Le, ac esgorodd hynny ar record hir, Y Band yn ei Le (Recordiau 123, 1984). Cyflwynwyd jazz yn gyson ar yr orsaf leol Sain Abertawe, yn y rhaglen Awr Jazz ac o bryd i’w gilydd bu rhaglenni jazz ar BBC Radio Cymru a Radio Wales. Yn yr 1970au, yn wir, teithiodd y seren rygbi Cliff Morgan a’i wraig Nuala ar draws Cymru yn darlledu o glybiau jazz lleol. Ar y llaw arall, digon dethol yw maint y gynulleidfa ar gyfer jazz a phrin yw’r sylw a gaiff ar y cyfryngau bellach.

Un rheswm am dwf a datblygiad jazz, yn enwedig jazz modern, fu’r cynnydd mewn darpariaeth addysgol yn y colegau a’r prifysgolion, yn adeiladu ar gynhaliaeth gerddorol yn yr ysgolion a thrwy’r amryw gerddorfeydd ieuenctid. Er na fu cwrs penodol ar jazz yng Nghymru am nifer o flynyddoedd roedd digon o gyfle i gerddorion arbrofi a datblygu yn anffurfiol. Yn Aberystwyth roedd y Clwb Rhythm wedi esgor ar nifer o gerddorion brwdfrydig. Ym Mangor roedd dylanwad yr Athro William Mathias yn bwysig yn hybu cerddorion fel Howard Riley (g.1943), sydd bellach yn un o gerddorion ‘jazz-rhydd’ amlycaf y byd, gŵr a ddatblygodd ei yrfa gynnar gyda’r cerddorion amryddawn John McLaughlin, Evan Parker, Tony Oxley a Keith Tippett, ac a fu hefyd yn addysgwr blaenllaw, yn enwedig yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain.

Yn yr un cyfnod, roedd disgybl cerddoriaeth arall yn dechrau ar yrfa ddisglair. Ym Mhen-clawdd y ganwyd Karl Jenkins (g.1944) ac yno y cafodd ei addysg gerddorol gynnar dan nawdd ei dad, a oedd yn ysgolfeistr ac yn arweinydd côr. Ar ôl astudio dan Alun Hoddinott yng Nghaerdydd, ac ar ôl hynny yn yr Academi Gerdd Frenhinol, bu’n aelod o fandiau jazz pwysig Graham Collier, Ronnie Scott ac Ian Carr cyn ymuno a’r band jazz-roc blaengar Nucleus, a chydweithiodd gyda Keith Tippett ac amryw eraill. Yn bennaf, rhwng 1972 ac 1981 bu’n aelod o’r band dylanwadol Soft Machine ond ers hynny fel cyfansoddwr ar lwyfan ehangach y bu’n fwyaf cyfarwydd, yn enwedig yn sgil y prosiect nodedig Adiemus (1995) a’r gwaith pwysig The Armed Man: A Mass for Peace (1999).

Yn 1990, dechreuodd Prifysgol Abertawe gyrsiau undydd ar jazz a pherfformiadau Band Mawr dan nawdd yr Adran Efrydiau Allanol, gydag amryw diwtoriaid rhan-amser dan arweinyddiaeth Jen Wilson. Yn 2004, dechreuodd y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd gwrs arloesol ar Astudiaethau Jazz. Mae’r cyfarwyddwr, Paula Gardiner (g.1961), yn enedigol o Landeilo Ferwallt (Bishopston), yn gynnyrch y Coleg ac yn adnabyddus fel perfformiwr ar y bas dwbl. Yn ei mebyd, roedd Gardiner yn aelod o Ysgol Haf Wavendon, dan oruchwyliaeth chwaer John Dankworth, y sacsoffonydd enwog, ac yn 1984 ymunodd â’r grwpiau Bomb and Dagger a Jazzuki. Yn ystod yr 1990au recordiodd gyda nifer o artistiaid pop Cymraeg, gan gynnwys Meic Stevens, Bryn Fôn ac Iwcs a Doyle, ynghyd â rhyddhau albwm unawdol ei hun o’r enw Tales of Inclination (Sain, 1995) oedd yn cynnwys cerddorion megis y gitarydd John Parricelli a Mark Edwards ar yr allweddellau. Mae Gardiner wedi cyfansoddi amryw ddarn comisiwn, yn aelod o Gerddorfa Cyfansoddwyr Jazz Cymreig ac wedi recordio cerddoriaeth yn seiliedig ar farddoniaeth Dylan Thomas ynghyd â grŵp jazz Jen Wilson.

Mae Gardiner yn eithriad o fewn maes sydd wedi cael ei ddominyddu gan ddynion dros y blynyddoedd, ond heb amheuaeth mae artistiaid benywaidd wedi gwneud cyfraniadau pwysig. Er enghraifft, mae Deborah Glenister o Lanelli yn arwain y Women in Jazz Allstars Swing Band, ac yn cynnal dosbarthiadau a gweithdai i annog menywod i ymgymryd â ffurf ar gerddoriaeth a oedd yn gymaint rhan o fywyd gwragedd ar un cyfnod.

Artist arall fu’n weithgar iawn yn y maes yw’r gantores Nia Lynn (g.1981). Yn enedigol o Bont- y-pŵl, ac yn ferch i Gregg Lynn gynt o Shwn a’r grŵp gwerin Yr Hwntws, aeth Nia Lynn i Lundain i astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama’r Guildhall, gan ennill gradd meistr gydag anrhydedd yno yn 2007, cyn mynd yn hyfforddwraig leisiol yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Ffurfiodd driawd Y Bannau gyda’r ffliwtydd Gareth Lockrane a’r pianydd Ross Stanley a rhyddhawyd tri albwm ganddynt, Nia Lynn & Bannau Trio (2006), Bannau Trio (33Jazz, 2009), a Points of View (Whirlwind, 2013) gyda’r olaf yn cael derbyniad arbennig o ffafriol gan y wasg gerddorol Brydeinig.

Un o gydweithwyr mwyaf sefydlog Paula Gardiner yw’r sacsoffonydd amryddawn Lee Goodall, sy’n dysgu ar y cwrs jazz yn y Coleg Cerdd a Drama (Caerdydd) ond sydd hefyd yn berchen ar Stiwdios Oakfield ger Casnewydd, fu’n gyfrifol am recordio rhai o gerddorion jazz gorau Cymru. Bu Goodall yn gweithio am flynyddoedd yn yr Unol Daleithiau gyda cherddorion fel Sahib Sarbib a Jess Roden, a bu’n rhan o fand teithiol Van Morrison am gyfnod. Yn 2009 fe enillodd bleidlais i ddewis y sacsoffonydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Un arall o gyn-fyfyrwyr y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama (Caerdydd), sydd eisoes wedi gwneud enw iddo’i hun ledled Prydain, yw’r pianydd Dave Stapleton, a astudiodd gerddoriaeth glasurol i ddechrau cyn ffurfio pumawd jazz gyda Gardiner ac eraill. Y mae Stapleton hefyd yn gyfansoddwr ac yn gyfarwyddwr recordiau, ac mae’r cwmni a ffurfiodd, Edition Records, wedi cynhyrchu amryw record nodedig gan Keith Tippett, Tom Cawley a’r pianydd Cymreig Geoff Eales (g.1951).

O Aberbargoed y daw Eales, a’i dad, Horace, pianydd amlwg yn ei fro, a’i hanogodd i ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ar y corn Ffrengig. Ar ôl graddio ac ennill doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, dechreuodd Eales ei yrfa mewn bandiau masnachol enwog fel Cerddorfa Joe Loss a Band Mawr y BBC, lle bu’n gyfarwyddwr cerdd am flynyddoedd. Bu’n byw ac yn gweithio yn yr Unol Daleithiau am gyfnod cyn dychwelyd i Brydain ac ailgydio mewn jazz; yn 1998 ymddangosodd ei albwm nodedig Mountains of Fire (Black Box, 1998) ac fe’i dilynwyd gan sawl albwm clodfawr arall, yn cynnwys albwm solo, Synergy (Basho, 2004).

Bu llawer o gerddorion Cymreig yn gweithio yn bennaf yn Lloegr. Un o’r rhain yw’r gitarydd bas a bas dwbl Laurence Cottle, sy’n enedigol o Abertawe lle mae ei frawd, Dave Cottle, yn un o hoelion wyth jazz y cylch. Treuliodd Laurence gyfnod cynnar ei yrfa ym myd cerdd ymdoddol (fusion); roedd yn aelod o’r band The Fents yn Los Angeles a bu’n perfformio a chyfansoddi gyda’r band roc metel trwm Black Sabbath. Bu’n rhan o Bill Bruford’s Earthworks – band cyn-ddrymiwr y grŵp roc blaengar King Crimson – ac wedi ennill clod am ei waith gydag amryfal grwpiau bach a’i gyfansoddiadau ar gyfer sioeau teledu fel Oprah Winfrey Show a Friend.

Cydweithiwr mynych i Laurence Cottle yw’r drymiwr hunanddysgedig o Gaerdydd, Ian Thomas (g.1963). Yn aelod blaenllaw o Gerddorfa Jazz Genedlaethol Ieuenctid Prydain (NYJO), gadawodd Gymru am Lundain yn 1984 a bu galw mawr amdano fel drymiwr sesiwn, gan berfformio gydag artistiaid amlwg fel Cilla Black, Paul McCartney, Sting, Elton John, Mick Jagger a Tom Jones. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer teledu a ffilm; bu’n aelod o’r grŵp Blind Faith ac mae’n ddrymiwr rheolaidd gydag Eric Clapton, ond gan gynnal gyrfa ym myd jazz hefyd.

Pianydd a ymddangosodd yn rheolaidd dros y blynyddoedd gyda Laurence Cottle a’r drymiwr Ian Thomas yw Gareth Williams (g.1968). Daw o deulu cerddorol, gyda’i dad-cu, a oedd yn Gymro Cymraeg, yn ganwr proffesiynol a fabwysiadodd yr enw Harcourt Meadows, ar ôl dwy stryd yn ei gartref yn Llandudno. Ar ôl graddio mewn Saesneg yng Nghaergrawnt ac mewn cerddoriaeth yn y Guildhall, Llundain, ymfudodd Gareth Williams am gyfnod i’r Unol Daleithiau i ymuno â’r band hip-hop enwog Us3. Yn ôl yn Llundain, roedd yn gyfeilydd cyson yng Nghlwb Jazz Ronnie Scott gan chwarae gyda rhai o artistiaid gorau’r byd, a hefyd yn drefnydd i’r gantores Claire Martin. Yn ei ail record gyda Laurence Cottle ac Ian Thomas, ceir cyfansoddiad ac ynddo gyfeiriadau uniongyrchol at farddoniaeth Hedd Wyn ac Alun Lewis.

Mae gogledd Cymru wedi cynhyrchu rhai o’r artistiaid jazz gorau. Daw Ian Shaw (g.1962) o Lanelwy ac fe gafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd y Fflint. Ar ôl graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Llundain dechreuodd fel pianydd ond buan y trodd at ganu, a bellach fe’i cyfrifir yn un o’r cantorion jazz gorau, yn perfformio ar draws Prydain, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Ymhlith amryw recordiau llwyddiannus, rhyddhaodd un nodedig ar y cyd â’r pianydd byd-enwog Americanaidd Cedar Walton (1934–2013). Yn y gogledd hefyd ceir un o’r cerddorion mwyaf arbrofol ym Mhrydain.

Er ei fod yn enedigol o Abertawe, mae Huw Warren (g.1963) wedi ymgartrefu yn Llŷn. Ar ôl graddio yng Ngholeg Goldsmiths ac Ysgol Gerdd y Guildhall bu’n aelod o’r gerddorfa arloesol Loose Tubes. Bu hefyd yn recordio gyda’r gantores werin June Tabor. Yn yr 1990au, roedd yn aelod o Perfect Houseplants ac amryw fandiau eraill, ond yn y blynyddoedd ers hynny mae wedi ehangu ei orwelion, fel yn ei albwm Hermeto + (Basho, 2009), teyrnged i gerddoriaeth Sbaenaidd Hermeto Pascoal, a’i gasgliad o emynau Cymraeg ar y cyd â’r gantores Lleuwen Steffan a’r sacsoffonydd Mark Lockheart, Duw A Ńyr (Sain, 2005).

Yr amlycaf o’r genhedlaeth ifanc o Gymry yw’r pianydd talentog Gwilym Simcock (g.1981). Yn enedigol o Fangor, aeth i Goleg y Drindod, Llundain, fel disgybl ifanc ac yna astudio yn Ysgol Gerdd Chetham’s ym Manceinion cyn graddio yn yr Academi Gerdd Frenhinol (Llundain) lle’r enillodd radd dosbarth cyntaf a Gwobr y Llywydd ar gyfer myfyriwr gorau’r flwyddyn.

Yn feistr ar y piano ond hefyd y corn Ffrengig, mae Simcock wedi ennyn edmygedd mawr fel cerddor a chyfansoddwr clasurol yn ogystal â jazz. Fe’i disgrifiwyd fel ‘athrylith’ gan neb llai na’r cawr jazz Chick Corea (g.1941), ac mae ei amryw recordiau wedi derbyn canmoliaeth uchel iawn; mae wedi ennill gwobr Perrier, wedi’i enwi ymhlith y cyntaf o Genhedlaeth Newydd y BBC ac wedi’i enwebu am Wobr Mercury. Bu’n aelod o grŵp jazz y drymiwr Bill Bruford, Earthworks, rhwng 2004 a 2007. Fe’i cyflwynwyd fel cyfansoddwr clasurol yn y Proms yn 2008, ac yn 2013 roedd yn unawdydd yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Montreal, sy’n anrhydedd o’r mwyaf. Er 2010, bu’n aelod o’r grŵp rhyngwladol disglair Impossible Gentlemen, gyda Steve Swallow, Adam Nussbaum a Mike Walker, a nhw oedd enillwyr Gwobr yr Ensemble Jazz Gorau yng Ngwobrau Jazz y Senedd yn 2013. Yn 2016 rhyddhaodd albwm o drefniannau’r grŵp King Crimson ar y cyd gyda phedwarawd sacsoffon Delta, o’r enw Crimson (Basho, 2016) ac ers hynny mae wedi bod yn perfformio gyda’r gitarydd amryddawn o’r Unol Daleithiau, Pat Metheny (g.1954).

Mae Cymru yn dal i gynhyrchu doniau jazz eithriadol, megis y sacsoffonydd Osian Roberts (g.1976) o Gaerdydd a enillodd wobr jazz ieuenctid y Daily Telegraph yn 1992, ac yntau’n un ar bymtheg oed. Tra roedd yn astudio yn yr Academi Frenhinol cyfarfu â’r trwmpedwr Steve Fishwick a’i efaill Matt, a ffurfio pumawd llwyddiannus. Ar ôl astudio yn Efrog Newydd gyda’r sacsoffonydd byd-enwog Joe Lovano (g.1952), dychwelodd i Brydain, a bu’n un o’r chwaraewyr ar albwm y pianydd Richard Fairhurst, Hungry Ants (Babel, 1996), a enillodd wobr Perrier am albwm gorau’r flwyddyn. Ers hynny ymgartrefodd ym Mhrâg, lle bu’n gweithio gyda rhai o gerddorion jazz gorau’r Weriniaeth Tsiec. Parhaodd ei gysylltiad â Chymru wrth gydweithio gyda Catrin Finch a’i cherddorfa a dysgu yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama.

Un arall a fu’n dysgu yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama (Caerdydd) wrth wneud enw iddo’i hun yn rhyngwladol yw’r gitarydd Dylan Fowler (g.1956), sydd wedi cyfuno gyrfa lewyrchus fel perfformiwr gyda rhedeg Stiwdio Felin Fach yn y Fenni a’r label Taith Records. Cydweithiodd gydag artistiaid o bob cwr o’r byd, rhai a gynrychiolai amrywiaeth coeth o gerddoriaeth, megis Richard Thompson a Julie Murphy ym Mhrydain, Husna Arslan yn Nhwrci, Don Ross yng Nghanada ac Akash Deep yn Rajasthan, yn ogystal â cherddorfa’r bardd Ian McMillan. Yn 2004, ffurfiodd driawd Cymreig- Ffinnaidd o’r enw Taith, gyda Timo Väänänen a Gillian Stevens, a bu’n ddyfal yn ceisio archwilio’r berthynas rhwng jazz a barddoniaeth, er enghraifft trwy brosiect Brân gyda’r bardd Jeff Rees a chan gydweithio gyda’r feiolinydd Oliver Wilson-Dickson i ymchwilio i draddodiadau cyffelyb ym Mwlgaria a chanoldir Ewrop.

Bu’r berthynas rhwng jazz a cherddoriaeth draddodiadol Gymreig o ddiddordeb i nifer o gerddorion dros y blynyddoedd. Yn ystod yr 1980au, roedd Wyn Lodwick a’i fand yn datgan caneuon Cymreig mewn dull jazz ar y teledu. Ymhlith cerddorion cyfoes sy’n dilyn y trywydd hwn y mae’r band Burum dan arweinyddiaeth y sacsoffonydd a’r ysgolhaig Daniel Williams a’i frawd, y trwmpedwr Tomos Williams. Caneuon cyfan gwbl Gymreig sydd yn eu halbwm Alawon (Fflach, 2007). Bu’r gantores werin Siân James hefyd yn cynnwys elfennau o jazz yn rhai o’i chaneuon, megis ‘Gwyliwch y ferch’ allan o Distaw (Sain, 1993).

Ffrwyth cydweithio rhwng Tomos Williams a’r delynores Llio Rhydderch yw Carn Ingli (Fflach, 2011) ac mae llawer o gerddorion eraill, megis Dylan Fowler, Huw Warren ac Osian Roberts, yn ymgyrchu yn yr un maes arbrofol. Un rheswm am hyn yw fod cynifer o’r to ifanc wedi eu haddysgu’n ffurfiol ac felly’n awyddus i gyfuno arddulliau cerddorol, traddodiadau a thechnegau perfformio gwahanol yn eu gwaith. Gwelir nifer o enghreifftiau o gysylltiadau rhwng jazz a roc cyfoes, megis recordiau’r gitarydd Dave Stephen o Wolverhampton – a ymgartrefodd yn ardal Bethesda yn yr 1990au a recordio dau albwm gyda’i grŵp, Hex, yn stiwdio Les Morrison, gan gynnwys Big Bang Theory (Label One, 1995) – neu’r albwm Bysgars (Ros, 2005), ffrwyth cydweithio rhwng y canwr Neil Rosser a Gareth Roberts, trombonydd sy’n hanu o Aberystwyth.

Yn ail ddegawd yr 21g. mae jazz yn dal i gael ei gyflwyno ledled Cymru, er nad yw efallai yn denu’r un cynulleidfaoedd ag a wnâi gynt. Mae Café Jazz yng Nghaerdydd yn cynnig jazz amrywiol drwy gydol y penwythnos ac mae cyn-aelodau’r Riverside Band, fel y pianydd Keith Little a’r trombonydd Pete Lock, yn chwarae’n gyson ym Mhenarth ond hefyd yn dal i berfformio dramor.

Yn Abertawe mae Dave Cottle yn cynnal Jazzland ac mae Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru yn dal i ffynnu. Yn y cyfamser, mae cerddorion Cymreig yn barod iawn i gydweithio fel y gwelir yn yr albwm Journeys (DJT, 2010), a drefnwyd gan bianydd rheolaidd y band Burum, Dave Jones, ynghyd â Lee Goodall, Tomos Williams, Gareth Roberts a phedwarawd llinynnol Mavron; mae amryw ohonynt yn perthyn i sawl band gwahanol ond yn dod at ei gilydd yn gyson ar brosiectau penodol.

Amlinellir hynt a helynt jazz yng Nghymru ar wefan y BBC gan y newyddiadurwr a’r cerddor Dave Roberts, ac yn y cylchgrawn Jazz UK dan olygyddiaeth Chris Hodgkins, ac mae hyn oll yn arwydd o fywiogrwydd y maes, a chymaint o berfformiadau a chyngherddau sy’n digwydd hyd yn oed os yw’r ffrwd o gefnogaeth ariannol gyhoeddus a masnachol wedi lleihau. Ar y llaw arall, mae datblygiadau technolegol a dulliau cyfathrebu modern yn golygu bod mwy o gyfle nag erioed i flasu jazz ac i ymestyn y gynulleidfa, boed yn fyw neu’n rhithiol.

Deian Hopkin

Disgyddiaeth

  • Harry Parry, Radio Rhythm Club Sextet, Crazy Rhythm (Sunflower SUN2162, 2004 [1955])
  • Dill Jones Trio, BBC Jazz Club Rare Recordings, 1959, Vol. 1 (Vocalion CDEA6235 [1959])
  • Karl Jenkins [gyda Nucleus] Elastic Rock/We’ll Talk About It Later (BGO BGOCD47, 1970)
  • Dill Jones, Up Jumped You with Love (Hep Hep2025, 1986)
  • Paula Gardiner, Tales of Inclination (Sain SCD2103, 1995)
  • Ian Shaw, The Echo of a Song (Ronnie Scott’s Jazz House, JHCD048, 1996)
  • Huw Warren, A Barrel Organ Far from Home (Babel BDV9718, 1997)
  • Ian Shaw, In a New York Minute (Milestone Records MCD9297, 1999)
  • Ian Shaw, Soho Stories (Milestone Records MCD9316, 2001)
  • Gwilym Simcock, Perception (Basho SRCD24-2, 2007)
  • Paula Gardiner, Hot Lament (Edition Records EDN1004, 2008)
  • Geoff Eales, Master of the Game (Edition Records EDN1011, 2009)
  • Huw Warren, Hermeto+ (Basho SRCD30-2, 2009)
  • Osian Roberts, The Osian Roberts/Steve Fishwick Quintet... with Cedar Walton (Hard Bop Records HBR33006, 2009)
  • Gwilym Simcock, Good Days at Schloss Elmau (Act 9501- 2, 2011)
  • Gwilym Simcock [gyda Tim Garland ac Asaf Sirkis], Lighthouse (Act 9525-2, 2012)
  • Burum, Caniadau (Bopa Bopa001, 2012)
  • Chris Hodgkins, Present Continuous (Bell CD511, 2014)
  • Osian Roberts, When Night Falls (Hard Bop Records HBR33009, 2014)
  • Burum, Llef (Bopa Bopa002, 2016)
  • Burum, Transience (Fuzzy Moon FUZ008, 2016)
  • Ian Shaw, The Theory of Joy (Jazz Village JV550001, 2016)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.