Midleton, Wiliam
Yn sgil ei fagu yn Llansannan, sir Ddinbych yn fab i deulu o fân uchelwyr daeth Midleton yn gyfarwydd â’r diwylliant barddol Cymraeg. Ond aeth ei yrfa ag ef i Loegr ac i gyswllt â bywyd llenyddol tra gwahanol. Bu’n ysgrifennydd i William Herbert, Iarll Penfro (m. 1570) yn ei gartref yn Wilton ger Caersallog, gan wasanaethu ei fab, Henry Herbert, wedyn. Tebyg iddo ddod i adnabod y bardd Syr Philip Sidney, brawd Mary, gwraig Henry Herbert, a ymwelai â Wilton, un o brif ganolfannau llenyddol y Dadeni yn Lloegr. Ymwelodd Midleton â Chaerdydd ar ran Herbert a dod yn gyfaill yno i’r dyneiddiwr Siôn Dafydd Rhys. Yn 1586 bu Midleton yn milwrio yn yr Iseldiroedd; ef a gludai faner Syr Philip Sidney pan glwyfwyd ef hyd angau ym mrwydr Zutphen. Ar ôl ymladd ym Mhortiwgal yn 1589 bu’n ysbeilio llongau Sbaen, yn gapten ar longau ei gefnder Thomas Myddelton, masnachwr yn Llundain, a rhai George Clifford, Iarll Cumberland. Yn 1595 bu’n gapten ar long yn ymgyrch aflwyddiannus Syr Francis Drake a Syr John Hopkins i Banama; ar ynys Escudo yno y gorffennodd ei fydryddiad Cymraeg o’r Salmau. Bu farw yn Falmouth yng ngwanwyn 1596 wrth i’w long ddychwelyd o’r fordaith. Cadwyd peth o hanes ei anturiaethau morwrol gan Richard Robinson, awdur Seisnig a gyflwynodd gyfieithiad o esboniad o’r Salmau i Midleton.
Cyhoeddiad cyntaf Midleton oedd Bardhoniaeth, neu brydydhiaeth (1594), gwaith yn cynnwys gwybodaeth dechnegol gryno am hanfodion cerdd dafod. Anelid ef at foneddigion, clerigwyr ac eraill a ddymunai wybod digon i ganu cerddi i’w difyrru eu hunain a’u cydnabod. Cynrychiolai’r gwaith ymgais eangfryd i ledaenu gwybodaeth o grefft y canu caeth, mewn cyferbyniad ag agwedd y beirdd proffesiynol a dueddai i warchod eu crefft yn gyfrinach alwedigaethol. Gwaith tebyg ei gymhelliad oedd yr adran ar ‘donyddiaeth’ yn nhrydedd ran (?1584) Gramadeg Gruffydd Robert, a dichon hefyd i lyfrau Seisnig megis The Arte of English Poesie George Puttenham (1589) ysgogi Midleton.
Prif waith Midleton oedd ei fydryddiad Cymraeg o’r Salmau. Cyhoeddodd rai Salmau cyn hwylio i Banama yn 1595, a chyhoeddwyd y cyfan – Psalmae y Brenhinol Brophwyd Dafydh – yn 1603, wedi ei farw. Yn wahanol i Salmau Edmwnd Prys (1621) nid Salmau ar gyfer canu cynulleidfaol oedd rhai Midleton. Yn ogystal â bod yn ddeunydd myfyrdod ysbrydol personol roedd iddynt hefyd amcan esthetig amlwg, sef arddangos amrywiaeth mydryddiaeth Gymraeg (cymharer yr atodiad ar y mesurau a gyfrannodd Midleton i Ramadeg Siôn Dafydd Rhys yn 1592). Defnyddiodd Midleton dros 40 o fesurau – y rhai caeth arferol yn bennaf – ond arbrofodd weithiau â’i fesurau ei hun a hen rai a hepgorwyd o 24 mesur canonaidd Dafydd ab Edmwnd. Trawiadol o debyg o ran amrywiaeth y mydru oedd Salmau mydryddol Saesneg Philip Sidney: mydryddodd ef 43 o Salmau, pob un ar fesur gwahanol. Barna rhai ysgolheigion i Sidney weithio ar ei fydryddiad yn yr Iseldiroedd; efallai nad cyd-ddigwyddiad yw’r amrywiaeth mydryddol a welir yn ei Salmau ef ac yn rhai diweddarach ei fanergludydd yn Zutphen. Yn ei waith beirniadol enwog An Apology for Poetry (1582–3) cyfeiriodd Sidney at draddodiad barddol hirhoedlog Cymru, traddodiad y gall fod Midleton wedi ei oleuo amdano.
Gruffydd Aled Williams
Llyfryddiaeth
Duncan-Jones, K. (1991), Sir Philip Sidney: Courtier Poet (New Haven and London: Yale University Press).
Ringler, Jr., W. A. (1962), The Poems of Sir Philip Sidney (Oxford: Oxford University Press).
Williams, G. J. (gol.) (1930), Barddoniaeth neu Brydyddiaeth gan Wiliam Midleton yn ôl argraffiad 1593, gyda chasgliad o’i awdlau a’i gywyddau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Williams, G. J. (1969), ‘Wiliam Midleton (Gwilym Ganoldref)’, yn Lewis, A. (gol.), Agweddau ar Hanes Dysg Gymraeg: Detholiad o Ddarlithiau G. J. Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 157–70.
Williams, G. A. (1975), ‘Wiliam Midleton, Bonheddwr, Anturiwr a Bardd’, Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 24, 74–116.
Williams, G. A. (1990), ‘Psalmae Wiliam Midleton’, yn Williams, J. E. C. (gol.), Ysgrifau Beirniadol XVII (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 93–113.
Williams, G. A. (2012), ‘Hanes Wiliam Midleton: Tystiolaeth Richard Robinson’, Llên Cymru, 35, 19–31.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.