Testun

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Daw’r gair testun o’r Lladin testimōnium, ‘tystiolaeth; prawf, amlygiad, arwyddocâd’. Diau ei fod yn fenthyciad cynnar (cf. Hen Gernyweg tistuni, glos ar testimonium), ond mae’r enghreifftiau cynharaf a ddyfynnir yn Geiriadur Prifysgol Cymru i gyd yn dod o waith beirdd y 14g. Yn ddieithriad, defnyddiant y gair fel term technegol gan olygu ‘Dychan (barddonol), gwatwar, (cyff) gwawd, sen; ffraetheb, cellwair’. Ceir un enghraifft o’r 12g., fodd bynnag, a honno o waith y bardd o Ynys Môn, Gwalchmai ap Meilyr, lle mae’n ymddangos fel petai’n golygu ‘esiampl; enw da’, sy’n nes o dipyn at ystyr y gair Lladin. Hwyrach bod ‘testun’ wedi datblygu mewn modd tebyg i ‘gwawd’, a aeth o olygu ‘(canu) mawl’ i ‘gwatwar’. Gwelir yr ystyr gwreiddiol o hyd mewn ymadroddion fel ‘testun pryder’.

Erbyn hyn, fodd bynnag, defnyddir y gair amlaf i gyfateb i’r Lladin textus, Saesneg text. Ymddengys mai William Salesbury oedd y cyntaf i ddefnyddio’r gair yn yr ystyr hwn, a hyn o bosibl oherwydd y camsyniad digon naturiol bod cysylltiad etymolegol rhyngddo a’r gair Lladin. Daw textus o’r ferf textere ‘gwehyddu, plethu’, felly yr ystyr llythrennol yw ‘geiriau neu frawddegau wedi’u plethu ynghyd’. Nid casgliad mympwyol o eiriau ydyw, gan hynny, ond rhywbeth a grewyd yn bwrpasol gan awdur at ryw ddiben neu’i gilydd. Defnyddiwyd y gair textus yn gyntaf i gyfeirio at rannau o’r Beibl a astudiwyd gan ysgolheigion, a dyna ystyr ‘testun’ yng ngwaith Salesbury. Heddiw, fe’i defnyddir yn gyffredin fel term niwtral i gyfeirio at ddarn o fynegiant ysgrifenedig neu lafar. Yn aml, fodd bynnag, mae bron yn gyfystyr â ‘gwaith llenyddol’.

Mae beirniaid llenyddol megis Roland Barthes, ar y llaw arall, yn gwahaniaethu rhwng ‘testun’ a ‘gwaith’. Gellir dal y ‘gwaith’ yn y llaw, ond delir y ‘testun’ yn yr iaith, a defnyddio diffiniad Barthes. Mewn geiriau eraill, y strwythur ieithyddol yw’r ‘testun’, y cynnyrch cyfan yw’r ‘gwaith’. Mae hyn yn rhoi tipyn o bellter rhwng ‘testun’ a ‘llenyddiaeth’, ac yn osgoi’r cwestiwn o ‘awduraeth’. Yn wir, gellir estyn y diffiniad o destun i olygu unrhyw beth y gellir ei ‘ddarllen’, gan gynnwys, yn ogystal â thestunau ysgrifenedig neu lafar, lluniau, hysbysebion, hyd yn oed y byd ei hunan.

Simon Rodway

Llyfryddiaeth

Barthes, R. (1977), Image Music Text, cyf. S. Heath (London: Fontana Press).

Hunter, J. (1995), ‘Testun Dadl’, Tu Chwith, 3, 81-85.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.