Wiliam Penllyn (bl.c.1550-70)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Roedd Wiliam Penllyn, pencerdd telyn a bardd, yn un o’r nifer fechan o benceirddiaid yr 16g. y gwyddys iddynt ennill cymhwyster ‘athro telyn’, gradd ddyrchafedig y ‘pen hyfforddwr’. Ymddengys ei enw gyntaf ymhlith yr uwch ‘benceirddiaid telyn’ yn hen dalaith farddol Aberffraw mewn rhestr hir o brydyddion a cherddorion a gopïwyd c.1562-4, ac yn ddiweddarach fe’i rhestrir fel un o dri yn unig o ‘Benceirddiaid ac Athrawon’ y delyn yn ail eisteddfod enwog Caerwys yn 1567 (tybir iddo gael ei eni’n rhy hwyr i fod yn y gyntaf o eisteddfodau Caerwys yn 1523).

Ychydig a wyddom am fywyd Wiliam, ond diau ei fod, fel yr awgryma’i enw, yn hanu o hen ardal Penllyn yr oedd Y Bala yn ganolbwynt iddi, ac fe’i cysylltir â sawl noddwr beirdd yng ngogledd a de Cymru. Rhestrir wyth o’i gerddi yn Maldwyn (y gronfa electronig o farddoniaeth Gymraeg mewn llawysgrifau). Yn eu plith y mae englynion i’r copïwr a’r casglwr, yr uchelwr Gruffydd Dwnn (c.1500-c.1570) o Gydweli, ac i Lewis Gwynn, cwnstabl Trefesgob; mae nodyn ysgafn a ychwanegwyd at englyn arall yn awgrymu cymeriad bywiog, gan ei fod yn ei ddisgrifio’n canu ‘with courage when he is a little cupshotte’.

Enwir Wiliam hefyd fel un o naw ‘gwŷr wrth gerdd’ mewn rhestr (yn ei law ei hun, fe ymddengys) a gafwyd mewn llawysgrif deuluol a oedd yn eiddo i deulu Wyn o Foeliwrch (nid nepell o Groesoswallt); bu’r naw gŵr hyn yn diddanu Rhys Wyn un flwyddyn pan oedd y Nadolig ar ddydd Gwener (credir mai yn 1551, 1556 neu 1562 yr oedd hynny). Roedd yn arferol i feirdd a cherddorion ymgynnull yn nhai’r uchelwyr dros ŵyl y Nadolig i ddiddanu eu noddwyr.

Erbyn hyn cofir am Wiliam yn bennaf oherwydd ei gysylltiad â llyfr coll o gerddoriaeth y mae’n bosibl iawn mai ef ei hun a’i lluniodd. Honnir bod y llyfr hwnnw’n sail i ran helaeth o ‘lawysgrif Robert ap Huw’. Nid yw tabl nodiant unigryw y llawysgrif yn debyg iawn i unrhyw fath arall o nodiant a ddefnyddiwyd ym Mhrydain nac yn Ewrop, er y gall ei luniwr fod wedi defnyddio sawl model gwahanol. Pan ailddarganfuwyd llawysgrif Robert ap Huw gan Lewis Morris, yn ystod yr 1720au, ychwanegodd yr hynafiaethydd o Fôn sylw ar t. 23 yn nodi bod yr adran a ddilynai (tt. 24-32) yn dod o lyfr Wiliam Penllyn ei hun: ‘Yma Canlyn y Pedwar Kwlwm Kydgerdd ar Hugain wedi ei prikio allan o Lyfr Wiliam Penllyn’. Mae nodyn arall ar ddiwedd yr un adran yn honni, ‘This is in Mr Meyrick’s manuscript’ (cyfeiriad at Owen Meyrick (1682-1760) o Fodorgan, lle’r oedd Morris ei hun wedi gweithio fel syrfëwr yn yr 1720au), ac mae’r dudalen deitl newydd a ychwanegwyd gan Lewis yn nodi ‘This Manuscript was wrote by Robert ap Huw of Bodwigen in Anglesey ... Some Part of it Copied then, out of Wm. Penllyn’s Book’.

Mae’n ymddangos yn debygol, felly, i’r Lewis Morris ifanc weld llyfr Wiliam Penllyn ym Modorgan: gall yn wir fod wedi bod yno am beth amser, gan fod nai Lewis, John Owen, hefyd wedi clywed bod ‘more [books] of the sort’ yno. Mae diwyg adran ‘Wiliam Penllyn’ ar y dudalen yn sicr ychydig yn wahanol i weddill deunydd Robert ap Huw - mae’n defnyddio saith neu wyth o systemau i’r ddalen yn hytrach na’r chwech arferol; efallai felly fod llyfr coll Wiliam ychydig yn fwy o ran maint y dudalen.

Mae cryn bwysigrwydd felly i Wiliam Penllyn. Mae’n debygol mai ef ei hun, fel athro beirdd, a fu’n gyfrifol am greu’r ‘clymau cytgerdd’ sy’n ffurfio’r adran arbennig hon o lawysgrif Robert ap Huw: i bob pwrpas, cyfres ydynt o ymarferion technegol ailadroddus yn seiliedig ar bedwar mesur ar hugain cerdd dant, yr union fath o ddeunydd a fyddai wedi bod yn addas i ddisgyblion barddol wrth ddysgu eu crefft.

Ond at hynny, mae’n bosibl hyd yn oed mai Wiliam oedd awdur y tabl nodiant Cymreig unigryw ar gyfer y delyn, gan ein bod yn dal yn ansicr sut y daeth hwnnw i fodolaeth. Byddai i’r tabl nodiant nid yn unig swyddogaeth addysgol, ond gallai hefyd fod wedi ateb angen brys i lunio ffordd o nodiannu corff o gerddoriaeth farddol a oedd yn ddiau’n ymddangos fel petai mewn perygl enbyd yn ystod yr 1560au o gael ei foddi gan fathau mwy ffasiynol o gerddoriaeth o’r tu allan i Gymru.

Sally Harper



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.