Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "'We'll Keep a Welcome'"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Daeth y gân siwgwraidd hon, sydd yn agor â’r geiriau ‘Far away a voice is calling ...’ yn boblogaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, diolch i’r rhaglen radio ''Welsh Rarebit''. Cynhyrchydd y rhaglen oedd Mai Jones o Gasnewydd, a hi a gyfansoddodd y gerddoriaeth. Awduron y geiriau oedd James Harper a Lyn (Llewelyn) Joshua, mab yr efengylydd Seth Joshua a oedd yn ffigwr amlwg yn Niwygiad 1904-5. [[Delwedd:We'll Keep a Welcome.png|thumb|<small>Brawddeg Agoriadol y gân ‘We’ll Keep a Welcome’.</small>]]
+
Daeth y gân siwgwraidd hon, sydd yn agor â’r geiriau ‘Far away a voice is calling ...’ yn boblogaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, diolch i’r rhaglen radio ''Welsh Rarebit''. Cynhyrchydd y rhaglen oedd Mai Jones o Gasnewydd, a hi a gyfansoddodd y gerddoriaeth. Awduron y geiriau oedd James Harper a Lyn (Llewelyn) Joshua, mab yr efengylydd Seth Joshua a oedd yn ffigwr amlwg yn Niwygiad 1904-5.  
  
Clywyd y gân am y tro cyntaf ar 29 Chwefror 1940 mewn rhaglen ar gyfer y Lluoedd Arfog a gynhyrchwyd gan Mai Jones, ac roedd gan y geiriau ‘We’ll keep a welcome in the hillsides, / We’ll keep a welcome in the vales’ apêl amlwg i filwyr Cymreig oddi cartref. Pan lansiwyd y gyfres ''Welsh Rarebit'' ychydig yn ddiweddarach, deuai’r rhaglen i ben bob tro gyda chytgan ‘We’ll keep a welcome’ sef ‘We’ll kiss away each hour of ''hiraeth'' / When you come again to Wales’ yn cael ei chanu gan y Lyrian Singers o dan arweiniad Idloes Owen o Ynysowen (Merthyr Vale).
+
[[Delwedd:We'll Keep a Welcome.png|thumb|<small>Brawddeg Agoriadol y gân ‘We’ll Keep a Welcome’.</small>]] Clywyd y gân am y tro cyntaf ar 29 Chwefror 1940 mewn rhaglen ar gyfer y Lluoedd Arfog a gynhyrchwyd gan Mai Jones, ac roedd gan y geiriau ‘We’ll keep a welcome in the hillsides, / We’ll keep a welcome in the vales’ apêl amlwg i filwyr Cymreig oddi cartref. Pan lansiwyd y gyfres ''Welsh Rarebit'' ychydig yn ddiweddarach, deuai’r rhaglen i ben bob tro gyda chytgan ‘We’ll keep a welcome’ sef ‘We’ll kiss away each hour of ''hiraeth'' / When you come again to Wales’ yn cael ei chanu gan y Lyrian Singers o dan arweiniad Idloes Owen o Ynysowen (Merthyr Vale).
  
 
Cafodd y gân ei chyhoeddi yn 1949 ac fe’i recordiwyd sawl tro wedi hynny gan unawdwyr fel Harry Secombe a nifer o [[Corau Meibion | gorau meibion]]. Nid oes eiriau Cymraeg iddi ac mae’n deg dweud mai yn ne Cymru y mae’n fwyaf poblogaidd.
 
Cafodd y gân ei chyhoeddi yn 1949 ac fe’i recordiwyd sawl tro wedi hynny gan unawdwyr fel Harry Secombe a nifer o [[Corau Meibion | gorau meibion]]. Nid oes eiriau Cymraeg iddi ac mae’n deg dweud mai yn ne Cymru y mae’n fwyaf poblogaidd.

Y diwygiad cyfredol, am 20:01, 31 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Daeth y gân siwgwraidd hon, sydd yn agor â’r geiriau ‘Far away a voice is calling ...’ yn boblogaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, diolch i’r rhaglen radio Welsh Rarebit. Cynhyrchydd y rhaglen oedd Mai Jones o Gasnewydd, a hi a gyfansoddodd y gerddoriaeth. Awduron y geiriau oedd James Harper a Lyn (Llewelyn) Joshua, mab yr efengylydd Seth Joshua a oedd yn ffigwr amlwg yn Niwygiad 1904-5.

Brawddeg Agoriadol y gân ‘We’ll Keep a Welcome’.
Clywyd y gân am y tro cyntaf ar 29 Chwefror 1940 mewn rhaglen ar gyfer y Lluoedd Arfog a gynhyrchwyd gan Mai Jones, ac roedd gan y geiriau ‘We’ll keep a welcome in the hillsides, / We’ll keep a welcome in the vales’ apêl amlwg i filwyr Cymreig oddi cartref. Pan lansiwyd y gyfres Welsh Rarebit ychydig yn ddiweddarach, deuai’r rhaglen i ben bob tro gyda chytgan ‘We’ll keep a welcome’ sef ‘We’ll kiss away each hour of hiraeth / When you come again to Wales’ yn cael ei chanu gan y Lyrian Singers o dan arweiniad Idloes Owen o Ynysowen (Merthyr Vale).

Cafodd y gân ei chyhoeddi yn 1949 ac fe’i recordiwyd sawl tro wedi hynny gan unawdwyr fel Harry Secombe a nifer o gorau meibion. Nid oes eiriau Cymraeg iddi ac mae’n deg dweud mai yn ne Cymru y mae’n fwyaf poblogaidd.

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.