A Run For Your Money

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:43, 17 Rhagfyr 2013 gan Gwydion Jones (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Comedi sy’n dilyn hynt a helynt dau frawd o bentref Cymreig ffuglennol o’r enw Hafoduwchbenceubwllymarchogcoch. Enilla Dai a Twm Jones, sy’n lowyr, drip i Lundain i gasglu £200 a thocynnau i’r gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr yn Twickenham. Dilynir helbulon y ddau yn y ddinas lle mae’r ddau yn cael eu gwahanu, gyda Dai yn cyfarfod merch leol dwyllodrus o’r enw Jo a Whimple y newyddiadurwr sydd wedi’i anfon i adrodd ar drip y brodyr. Daw Twm, ar y llaw arall, ar draws Huw, hen gyfaill o Gymru sy’n delynor. Ar ôl sawl tro trwstan yn Llundain, dychwela’r ddau frawd i Gymru yng nghwmni Huw yn falch o gael cefnu ar y ddinas fawr ddrwg.


Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: A Run For Your Money

Teitl Amgen: Lark

Blwyddyn: 1949

Hyd y Ffilm: 85 munud

Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 23 Tach 1949

Cyfarwyddwr: Charles Frend

Sgript gan: Richard Hughes, Leslie Norman a Charles Frend (deialog ychwanegol gan Diana Morgan)

Stori gan: Clifford Evans

Cynhyrchydd: Michael Balcon

Cwmnïau Cynhyrchu: Ealing Studios

Genre: Comedi

Cast a Chriw

Prif Gast

  • Donald Houston (David 'Dai Number 9' Jones)
  • Meredith Edwards (Thomas 'Twm' Jones)
  • Moira Lister (Jo)
  • Alec Guinness (Whimple)
  • Hugh Griffith (Huw Price)

Cast Cefnogol

  • Clive Morton (Golygydd)
  • Julie Milton (Bronwen)
  • Peter Edwards (Davies Manager)
  • Joyce Grenfell (Mrs Pargiter)
  • Leslie Perrins (Barney)
  • Dorothy Bramhall (Jane Benson)
  • Andrew Leigh (Gwystlwr)
  • Edward Rigby (Beefeater)
  • Desmond Walter-Ellis (Cyhoeddwr yr Orsaf)
  • Mackenzie Ward (Stebbins, Ffotograffydd)
  • Meadows White (Guv'nor)
  • Gabrielle Brune (Cantores)
  • Ronnie Harries (Dan)
  • Diana Hope (Cwsmer)
  • Dudley Jones (Bleddyn)
  • David Davies (Dieithryn Cydnerth)
  • Tom Jones (Hen Löwr)
  • Richard Littledale (Rheolwr Sinema)

Ffotograffiaeth

  • Douglas Slocombe

Dylunio

  • William Kellner

Cerddoriaeth

  • Ernest Irving

Sain

  • Arthur Bradburn, Stephen Dalby, Eric Stockl

Golygu

  • Michael Truman

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Cynhyrchydd Cysylltiol - Leslie Norman
  • Dylunio Gwisgoedd - Anthony Mendleson
  • Adran Goluro - Barbara Barnard (gwallt); Harry Frampton (colur); Ernest Taylor (colur)
  • Rheolwr Cynhyrchu - Ralph D. Hogg
  • Arolygwr Cynhyrchu - Hal Mason
  • Cyfarwyddwr Cynorthwyol [1] - Norman Priggen
  • Cyfarwyddwr Cynorthwyol [2] - Simon Kershaw
  • Cyfarwyddwr Cynorthwyol [3] - Christopher Barry
  • Gweithiwr Camera - Jeff Seaholme
  • Cysonydd - Phyllis Crocker
  • Rheolwr Stiwdio/ Arolygwr Technegol - Baynham Honri


Manylion Technegol

Tystysgrif Ffilm: U

Fformat Saethu: 35mm

Lliw: Du a Gwyn

Gwlad: Y Deyrnas Unedig

Iaith Wreiddiol: Saesneg

Lleoliadau Saethu: Stiwdio Ealing; Llundain; Twickenham

Gwobrau: 1950 - BAFTA - enwebwyd yng nghategori y Ffilm Brydeinig Orau


Manylion Atodol

Llyfrau

Charles Barr, Ealing Studios (2il argraffiad, Studio Vista, 1995)

David Berry, Wales and Cinema: the first hundred years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)

Jim Leach, British Film (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2004)

George Perry, Forever Ealing: A Celebration of the Great British Film Studio (Pavilion, 1981)

Jeffrey Richards, Films and British National Identity (Manceinion, 1997)

Peter Stead, ‘Wales in the Movies’ yn Tony Curtis (gol.), Wales – The Imagined Nation (Penybont ar Ogwr, 1986)

Gwefannau

Ysgrif Mark Duguid ar ‘Ealing Comedy’ ar Screenonline [1]

Ysgrif Lou Alexander ar ‘Ealing Studios’ ar Screenonline [2]

Adolygiadau

Richard Mallett, ‘A Run For Your Money’, Punch, 7 Rhagfyr 1949, t. 632.

H. Raynor, ‘Nothing to Laugh at …’, Sight and Sound, 19:2, Ebrill 1950, tt. 68–74.

Erthyglau

John Ellis, ‘Made in Ealing’, Screen, 16:1, Gwanwyn 1975


Kate Woodward, ‘Gwyrdroi a Gweddnewid: datblygiadau diweddar yn y portread o Gymru ar ffilm’, Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 3 (2006)

Marchnata

Rhyddhawyd y ffilm ar DVD yn 2009 gan Optimum Home Entertainment.