Addasu

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:21, 19 Medi 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r ffin rhwng cyfieithu ac addasu yn amwys, ac yn aml gellir defnyddio'r naill derm neu'r llall i ddisgrifio testun sydd wedi'i drosi i iaith neu i gyfnod neu i genre arall. Fel arfer, serch hynny, y mae addasu yn awgrymu dull mwy hyblyg o drosi testun; mae'r addasiad wedi symud ymhellach oddi wrth y darn gwreiddiol na chyfieithiad. Dadleua Joseph Farell mai'r newid ieithyddol yw cyfieithu ac mai'r cam nesaf yw addasu. Cytuna Sirkku Aaltonen fod rhaid gwahaniaethu rhwng y termau a bod addasu yn cwmpasu newidiadau mwy sylweddol i iaith, cynnwys, cymeriadau a hyd testun na chyfieithu. Y mae gwaith yr addasydd, felly, yn fwy amlwg na'r cyfieithydd gan fod gwahaniaethau clir rhwng y testun gwreiddiol a'r addasiad. Am y rheswm hwn y mae tuedd i addaswyr dderbyn mwy o gydnabyddiaeth na chyfieithwyr. Defnyddir hefyd y termau 'fersiwn' neu 'ddehongliad' i ddisgrifio addasiadau sy'n wahanol iawn i'r testun gwreiddiol.

Ceir elfen o ddehongli mewn unrhyw addasiad. Gall addasydd ymdrechu i amlygu agweddau ar destun sydd wedi'u gwthio i'r cyrion. Caiff testun ei addasu yn aml hefyd er mwyn ei wneud yn fwy perthnasol, er enghraifft drwy ei ddiweddaru ar gyfer cynulleidfa gyfoes neu drwy ei osod mewn diwylliant gwahanol. Mae'r mathau hyn o addasu yn digwydd yn aml yn achos dramâu clasurol megis gweithiau Shakespeare a Molière.

Daeth addasu yn fwy cyffredin yn sgil dyfodiad y cyfryngau newydd megis y radio a'r teledu. Roedd galw am raglenni ar eu cyfer ac fe dröwyd yn aml at ryddiaith a oedd eisoes yn bodoli. Yn yr un modd, chwaraeodd addasu rôl hanfodol yn natblygiad y ddrama fodern yng Nghymru. Rhys Lewis (1885), nofel hunangofiannol Daniel Owen, oedd un o'r testunau cyntaf i gael ei addasu ar gyfer y llwyfan ym 1886 ac eto ym 1887, ac o achos llwyddiant ysgubol yr addasiadau llwyfan lledaenwyd stori Daniel Owen dros Gymru gyfan.

Yng nghyd-destun y llwyfan ceir dau fath ar addasu, sef yr addasu ar bapur a'r addasu ar gyfer y llwyfan, y mise en scène. Yn achos y mise en scène y mae gofyn i'r addasydd ystyried gofynion y perfformiad megis eglurder cyfarwyddiadau llwyfan, cyfyngiadau'r cyfrwng (radio, teledu, theatr), pa mor hawdd yw ynganu'r ddeialog a dealltwriaeth y gynulleidfa o'r cynnwys heb gymorth troednodiadau.

Rhianedd Jewell

Llyfryddiaeth

Aaltonen, S. (2000), Time-Sharing on Stage: Drama Translation in Theatre and Society (Clevedon: Multilingual Matters).

Farrell, J. (1996), ‘Servants of Many Masters’, yn Johnston, D. (gol) (1996), Stages of Translation (Bath: Absolute Press), tt. 45-55.

Lloyd, D. T. (1973), 'Gwir gychwyn y busnes drama 'ma ...', Llwyfan, 8, 5-8.

Sanders, J. (2005), Adaptation and Appropriation (Abingdon: Routledge).

Williams, I. (2006), Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880-1940 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.