Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Adolygiad rhent"
Oddi ar WICI
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cymal neu ddarpariaeth mewn prydles yw adolygiad rhent ble mae’r rhent i’w ailystyried ar ddiwedd cyfnodau penodedig, er enghraifft bob 3, 5 neu 7 mly...') |
(Dim gwahaniaeth)
|
Y diwygiad cyfredol, am 08:13, 14 Mehefin 2021
Cymal neu ddarpariaeth mewn prydles yw adolygiad rhent ble mae’r rhent i’w ailystyried ar ddiwedd cyfnodau penodedig, er enghraifft bob 3, 5 neu 7 mlynedd neu ar ddyddiadau penodedig. Mae’r dulliau o adolygu a’r drefn sydd rhaid ymlynu wrthynt wedi'u nodi yn y brydles.
Os na fydd modd i’r prydleswr a’r prydlesai ddod i gytundeb, fel arfer mae darpariaeth er cyfeirio'r mater i drydydd parti a fydd yn derbyn y gorchymyn i ddyfarnu, naill ai cyflafareddwr neu arbenigwr annibynnol er enghraifft.
Owain Llywelyn
Llyfryddiaeth
“Valuation: Principles into Practice”, R. E. H. Hayward ac W. H. Rees, Estates Gazette, pumed argraffiad, tudalennau 5, 146, 149, 150-151, 201, 490 a 516-517
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.