Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Archifau"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf sefydlwyd nifer o archifau er mwyn casglu a diogelu deunydd yn ymwneud â cherddoriaeth Cymru. Ymhlith yr hynaf y mae [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], Aberystwyth a sefydlwyd yn 1907. Daeth yn gartref i lawysgrifau nifer o gyfansoddwyr Cymreig dros y blynyddoedd, gan gynnwys [[Joseph Parry]], [[Grace Williams]], [[Alun Hoddinott]] a [[William Mathias]]. Mae hefyd wedi bod yn weithgar iawn y tu hwnt i gerddoriaeth gelfyddydol, gan sefydlu Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn 2001 trwy uno casgliad Sain a Delweddau Symudol y Llyfrgell gydag Archif Ffilm a Theledu Cymru. Mae’r Archif yn cynnwys pob math o gerddoriaeth wedi’i recordio ynghyd â deunydd gweledol perthnasol.
+
Yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf sefydlwyd nifer o archifau er mwyn casglu a diogelu deunydd yn ymwneud â cherddoriaeth Cymru. Ymhlith yr hynaf y mae [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], Aberystwyth a sefydlwyd yn 1907. Daeth yn gartref i lawysgrifau nifer o gyfansoddwyr Cymreig dros y blynyddoedd, gan gynnwys [[Parry, Joseph (1841-1903) | Joseph Parry]], [[Williams, Grace (1906-77) | Grace Williams]], [[Hoddinott, Alun (1929-2008) | Alun Hoddinott]] a [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]]. Mae hefyd wedi bod yn weithgar iawn y tu hwnt i gerddoriaeth gelfyddydol, gan sefydlu Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn 2001 trwy uno casgliad Sain a Delweddau Symudol y Llyfrgell gydag Archif Ffilm a Theledu Cymru. Mae’r Archif yn cynnwys pob math o gerddoriaeth wedi’i recordio ynghyd â deunydd gweledol perthnasol.
  
Cedwid casgliadau pwysig hefyd yng Nghanolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, a sefydlwyd yn 1983 yng Nghaerdydd; ymgorfforwyd Archif Cerddoriaeth Cymru (a sefydlwyd yn 1976) ynddi. Peidiodd y Ganolfan â bod, yn ei ffurf wreiddiol, yn 1997 ar ôl colli nawdd, a throsglwyddwyd ei chasgliadau i’r [[Llyfrgell Genedlaethol]]. Cafodd y Ganolfan yn ei ffurf newydd ei sefydlu yn 2000, fodd bynnag; erbyn heddiw mae’n ffurfio rhan (gyda Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru) o’r corff hyrwyddo Tŷ Cerdd, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Casgliadau o gerddoriaeth gelfyddydol a chyfoes gan gyfansoddwyr o’r 20g. a’r 21g. sydd yma yn bennaf.
+
Cedwid casgliadau pwysig hefyd yng Nghanolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, a sefydlwyd yn 1983 yng Nghaerdydd; ymgorfforwyd Archif Cerddoriaeth Cymru (a sefydlwyd yn 1976) ynddi. Peidiodd y Ganolfan â bod, yn ei ffurf wreiddiol, yn 1997 ar ôl colli nawdd, a throsglwyddwyd ei chasgliadau i’r Llyfrgell Genedlaethol. Cafodd y Ganolfan yn ei ffurf newydd ei sefydlu yn 2000, fodd bynnag; erbyn heddiw mae’n ffurfio rhan (gyda Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru) o’r corff hyrwyddo Tŷ Cerdd, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Casgliadau o gerddoriaeth gelfyddydol a chyfoes gan gyfansoddwyr o’r 20g. a’r 21g. sydd yma yn bennaf.
  
Mae’r [[prifysgolion]] a sefydliadau eraill hefyd wedi gweithredu i ddiogelu deunydd sy’n gysylltiedig ag arddulliau a meysydd penodol. Sefydlwyd Archif [[Cerddoriaeth Draddodiadol]] Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, yn 1986 drwy gyfrwng nawdd a chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru; mae’r Archif yn cynnwys dros 1,200 o eitemau. Mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnwys nifer fawr o eitemau’n ymwneud â cherddoriaeth glasurol Gymreig, yn eu plith archifau personol cyfansoddwyr megis [[Grace Williams]], [[David Wynne]] a [[Morfydd Llwyn Owen]], a chasgliad mawr o faledi Cymraeg, sydd wedi cael eu digideiddio trwy brosiect rhyng-sefydliadol ar y cyd â’r [[Llyfrgell Genedlaethol]] a phrifysgolion Cymreig eraill yn cynnwys Bangor ac Abertawe.
+
Mae’r [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | prifysgolion]] a sefydliadau eraill hefyd wedi gweithredu i ddiogelu deunydd sy’n gysylltiedig ag arddulliau a meysydd penodol. Sefydlwyd Archif [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | Cerddoriaeth Draddodiadol]] Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, yn 1986 drwy gyfrwng nawdd a chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru; mae’r Archif yn cynnwys dros 1,200 o eitemau. Mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnwys nifer fawr o eitemau’n ymwneud â cherddoriaeth glasurol Gymreig, yn eu plith archifau personol cyfansoddwyr megis Grace Williams, [[Wynne, David (1900-83) | David Wynne]] a [[Owen, Morfydd (1891-1918) | Morfydd Llwyn Owen]], a chasgliad mawr o faledi Cymraeg, sydd wedi cael eu digideiddio trwy brosiect rhyng-sefydliadol ar y cyd â’r Llyfrgell Genedlaethol a phrifysgolion Cymreig eraill yn cynnwys Bangor ac Abertawe.
  
Yn fwy diweddar, sefydlwyd Archif Bop Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn 2008, gyda’r bwriad o gasglu eitemau a recordiadau’n ymwneud â hanes cerddoriaeth bop Gymraeg; ceir ynddi dros 3,000 o eitemau. Ceir hefyd gasgliadau preifat pwysig, megis Archif Roc a Phop Cymraeg, sef casgliad o ddeunydd yn ymwneud â maes [[canu poblogaidd]] sy’n eiddo i Gari Melville yn Abertawe. Mae [[Amgueddfa Werin Cymru]] hefyd wedi adeiladu casgliad sylweddol o recordiadau ac yn cynnal arddangosfeydd ar gerddoriaeth bop a cherddoriaeth werin.
+
Yn fwy diweddar, sefydlwyd Archif Bop Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn 2008, gyda’r bwriad o gasglu eitemau a recordiadau’n ymwneud â hanes cerddoriaeth bop Gymraeg; ceir ynddi dros 3,000 o eitemau. Ceir hefyd gasgliadau preifat pwysig, megis Archif Roc a Phop Cymraeg, sef casgliad o ddeunydd yn ymwneud â maes [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu poblogaidd]] sy’n eiddo i Gari Melville yn Abertawe. Mae [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Amgueddfa Werin Cymru]] hefyd wedi adeiladu casgliad sylweddol o recordiadau ac yn cynnal arddangosfeydd ar gerddoriaeth bop a cherddoriaeth werin.
  
 
'''Craig Owen Jones'''
 
'''Craig Owen Jones'''

Y diwygiad cyfredol, am 15:14, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf sefydlwyd nifer o archifau er mwyn casglu a diogelu deunydd yn ymwneud â cherddoriaeth Cymru. Ymhlith yr hynaf y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a sefydlwyd yn 1907. Daeth yn gartref i lawysgrifau nifer o gyfansoddwyr Cymreig dros y blynyddoedd, gan gynnwys Joseph Parry, Grace Williams, Alun Hoddinott a William Mathias. Mae hefyd wedi bod yn weithgar iawn y tu hwnt i gerddoriaeth gelfyddydol, gan sefydlu Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn 2001 trwy uno casgliad Sain a Delweddau Symudol y Llyfrgell gydag Archif Ffilm a Theledu Cymru. Mae’r Archif yn cynnwys pob math o gerddoriaeth wedi’i recordio ynghyd â deunydd gweledol perthnasol.

Cedwid casgliadau pwysig hefyd yng Nghanolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, a sefydlwyd yn 1983 yng Nghaerdydd; ymgorfforwyd Archif Cerddoriaeth Cymru (a sefydlwyd yn 1976) ynddi. Peidiodd y Ganolfan â bod, yn ei ffurf wreiddiol, yn 1997 ar ôl colli nawdd, a throsglwyddwyd ei chasgliadau i’r Llyfrgell Genedlaethol. Cafodd y Ganolfan yn ei ffurf newydd ei sefydlu yn 2000, fodd bynnag; erbyn heddiw mae’n ffurfio rhan (gyda Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru) o’r corff hyrwyddo Tŷ Cerdd, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Casgliadau o gerddoriaeth gelfyddydol a chyfoes gan gyfansoddwyr o’r 20g. a’r 21g. sydd yma yn bennaf.

Mae’r prifysgolion a sefydliadau eraill hefyd wedi gweithredu i ddiogelu deunydd sy’n gysylltiedig ag arddulliau a meysydd penodol. Sefydlwyd Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, yn 1986 drwy gyfrwng nawdd a chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru; mae’r Archif yn cynnwys dros 1,200 o eitemau. Mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnwys nifer fawr o eitemau’n ymwneud â cherddoriaeth glasurol Gymreig, yn eu plith archifau personol cyfansoddwyr megis Grace Williams, David Wynne a Morfydd Llwyn Owen, a chasgliad mawr o faledi Cymraeg, sydd wedi cael eu digideiddio trwy brosiect rhyng-sefydliadol ar y cyd â’r Llyfrgell Genedlaethol a phrifysgolion Cymreig eraill yn cynnwys Bangor ac Abertawe.

Yn fwy diweddar, sefydlwyd Archif Bop Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn 2008, gyda’r bwriad o gasglu eitemau a recordiadau’n ymwneud â hanes cerddoriaeth bop Gymraeg; ceir ynddi dros 3,000 o eitemau. Ceir hefyd gasgliadau preifat pwysig, megis Archif Roc a Phop Cymraeg, sef casgliad o ddeunydd yn ymwneud â maes canu poblogaidd sy’n eiddo i Gari Melville yn Abertawe. Mae Amgueddfa Werin Cymru hefyd wedi adeiladu casgliad sylweddol o recordiadau ac yn cynnal arddangosfeydd ar gerddoriaeth bop a cherddoriaeth werin.

Craig Owen Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.