Awdl

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:40, 28 Mawrth 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Cerdd hir neu gymharol hir ar rai o fesurau Cerdd Dafod yw awdl. Yr un gair yw awdl ac odl, a phennill unodl oedd awdl yn wreiddiol, megis yn Y Gododdin, lle ceir cyfresi o benillion unodl a phenillion eraill wedi eu hasio ynghyd i greu un gerdd fawr. Yn llawysgrif wreiddiol Llyfr Aneirin cyfeirir at ‘bob awdl o’r Gododdin’, hynny yw, pob pennill unigol yn Y Gododdin. Nid awdl yw Y Gododdin; y penillion unodl a geir ynddi yw’r awdlau. Yr un yw’r patrwm a geir mewn cerddi cynnar eraill, fel ‘Marwnad Cynddylan’, lle ceir naw pennill neu naw awdl yn ffurfio un gerdd. Cerdd a berthyn i’r 7g. yw ‘Marwnad Cynddylan’, ac y mae pob awdl yn agor â’r cymeriad ‘Mawredd gyminedd:

Mawredd gyminedd a feddyliais
Myned i Fenai, cyn ni’m bai fais?
Caraf a’m ennairch o dir Cemais,
Gwerling Dogfeiling, Cadelling drais.
Ef cwynif oni fwyf i’m derw llednais
O leas Cynddylan, colled anofais.

A dyna un o awdlau’r gerdd. Y mae nifer o gerddi’r cyfnod cynharaf hwn yn dilyn yr un patrwm, sef ailadrodd ymadrodd ar ddechrau pob pennill (cymeriad), canu’r pennill yn unodl trwyddo (awdl), ac asio’r penillion unigol hyn ynghyd i greu cerdd swmpus. Cyhydedd nawban yw’r mesur. Un arall o gerddi cynharaf y Gymraeg yw ‘Edmig Dinbych Penfro’, cerdd a berthyn i ddiwedd y 9g. Y mae pob un o benillion unodl y gerdd yn agor â’r cymeriad ‘Addwyn Gaer y sydd’, ac, unwaith yn rhagor, cyhydedd nawban yw’r mesur.

Erbyn y 9g. yr oedd y mesurau englynol wedi ymffurfio ac ennill eu tir yn y Gymraeg, englyn milwr ac englyn penfyr yn bennaf, ac, i raddau llai, englyn unodl union. Englynion milwr ac englynion penfyr a geir yn y ddau gorff o ganu elegeiog, Cylch Heledd a Chylch Llywarch Hen, a luniwyd yn y 9g. neu’r 10g.

Yng nghyfnod y Gogynfeirdd, neu Feirdd y Tywysogion, y dechreuodd yr awdl ddod i’w theyrnas. Yn ystod oes y Tywysogion, sef, yn fras, y cyfnod rhwng ail hanner yr 11g. a diwedd y 13g., ar ôl lladd Llywelyn ap Gruffudd yn 1282, a chwymp Tywysogaeth Gwynedd. O ystyried y Gogynfeirdd pwysicaf, gellir canfod y newidiadau a wnaed i’r awdl a’r modd yr esblygodd ac y datblygodd y cyfrwng dan eu dwylo hwy.

Ymhlith y Gogynfeirdd cynharaf y mae Meilyr Brydydd (bl. 1081-1137), er mai ychydig iawn o’i waith sydd wedi goroesi. Yn ei farwnad i Ruffudd ap Cynan ceir pedair awdl, neu bedwar caniad unodl, 40 o linellau ar yr odl –awd, 52 o linellau ar yr odl –awg, 64 ar yr odl -ydd, ac 16 o linellau ar yr odl –ed, gan lunio cerdd sylweddol o 172 o linellau. Cenir y cyfan ar yr un mesur, sef cyhydedd nawban. Dyna oedd ystyr awdl o hyd, sef caniad unodl yn ffurfio awdl fer neu nifer o ganiadau neu awdlau unodl yn ffurfio cerdd hir, a chanwyd ugeiniau lawer o gerddi o’r fath gan Feirdd y Tywysogion.

Yn raddol, fodd bynnag, dechreuwyd cymhlethu a helaethu’r awdl draddodiadol. Yn hytrach na llunio cerddi ar un mesur yn unig, y cyhydedd nawban yn bennaf, dechreuodd y Gogynfeirdd lunio cerddi hir ar fwy nag un mesur. Mab Meilyr Brydydd oedd Gwalchmai ap Meilyr (bl. 1132-80), ac yn ei farwnad i Fadog ap Maredudd ceir dau fesur yn unig, sef clogyrnach ac englyn unodl union (ond heb odl yn y llinell gyntaf); ond gan fod clogyrnach yn gyfuniad o ddau fesur arall, traeanog a chyhydedd fer, gellid dweud bod y farwnad yn cynnwys mwy na dau fesur. Ceir sawl amrywiad o’r fath yn ei ganu. Yn ei gerdd fechan [‘Calan Hyddfre’] ceir dwy linell o gyhydedd fer ar y dechrau, yna pedwar englyn unodl union, a chwe llinell o draeanog yn ei chloi.

Datblygiad arwyddocaol arall yng nghyfnod y Gogynfeirdd oedd y modd y derbyniwyd yr englyn unodl union yn un o’u prif fesurau gan y Gogynfeirdd. Nid fel mesur annibynnol y meddylid am yr englyn gan y beirdd hyn, ond fel pennill a oedd yn ei hanfod yn rhan o gyfres. Daethpwyd i synio amdano fel mesur a oedd yn ddigon urddasol i goffáu gwŷr mwyaf blaenllaw’r gymdeithas. Defnyddid cyrch-gymeriad yn aml i gadwyno’r englynion ynghyd. O safbwynt yr awdl, cenid nifer o benillion o fesur arbennig ar yr un odl cyn troi at fesur arall a chanu swp arall o benillion ar yr un odl, ac felly yn y blaen gan droi’r cyfan yn un gerdd sylweddol. Y mesurau mwyaf poblogaidd gan y Gogynfeirdd oedd englyn unodl union, cyhydedd nawban a chyhydedd hir, toddaid a byr-a-thoddaid. Unwaith y dechreuodd rhai o’r Gogynfeirdd gynnwys mwy nag un mesur yn eu cerddi hir, yr oedd yr awdl aml-fesurog wedi ei geni.

Erbyn ail hanner y 14g., gydag Oes y Tywysogion bellach wedi dirwyn i ben, roedd y gynghanedd wedi datblygu cryn dipyn, a byddai olynwyr y Gogynfeirdd, Beirdd yr Uchelwyr, yn rhoi iddi ei gwedd orffenedig, derfynol, mwy neu lai, trwy sefydlogi egwyddor yr acen yn bennaf. Yr awdl yn ôl diffiniad ac esiampl y Gogynfeirdd diweddar a etifeddwyd gan Feirdd yr Uchelwyr. Aeth y rhain ati i’w mireinio a’i chywreinio eto fyth. Bellach yr oedd yr awdl yn cynnwys amryw byd o fesurau, er bod tuedd i lynu wrth yr un set o fesurau. Cadwynid rhai awdlau drwyddynt draw drwy ddefnyddio cyrch-gymeriad. Cymerer awdl foliant Lewys Glyn Cothi i Siaspar Tudur, er enghraifft. Agorir â dau englyn unodl union, gyda’r englyn cyntaf yn cadwyno â’r ail englyn trwy gyrch-gymeriad. Y mae llinell olaf yr ail englyn, ‘un fron yw hwn â’i frenin’, yn cydio wrth y llinell gyntaf o blith 42 o linellau o gyhydedd nawban, ‘Henri frenin ffordd ydd êl hinon’; y mae llinell olaf yr adran ar fesur y cyhydedd nawban, ‘a’r tir gwenith a’r tyrau gwynion’, yn cydio wrth linell gyntaf yr englyn cyntaf o ddau sydd yn ei dilyn, ‘Ar dyrau gwynion, ar dai urael - mawr’. Mae’r ddau englyn hefyd yn cadwyno â’i gilydd, ac y mae llinell olaf yr ail englyn, ‘ei lu hardd dan wiail hwn’, yn cydio wrth linell gyntaf y pennill cyntaf o’r chwe phennill ar fesur y tawddgyrch cadwynog sy’n cloi’r awdl, ‘Irion wial o ran Owain’. Y mae llinell olaf yr awdl, ‘iddo yr êl y ddaear ir’, yn cydio wrth linell gyntaf yr awdl, ‘Y tir a’r dŵr ir ar dro’, gan greu undod crwn. A dyna enghraifft o grefft Beirdd yr Uchelwr wrth gyfansoddi awdlau.

Pan chwalwyd y gyfundrefn nawdd yn raddol ar ôl i’r Tuduriaid hawlio gorsedd Lloegr, ac wedi i’r Ddeddf Uno uno Cymru a Lloegr, aeth y ddysg a’r grefft hefyd ar goll i raddau. Gwarchodai’r beirdd eu crefft a’u cyfrinachau yn eiddigeddus dynn rhag ofn i ymhonwyr gael gafael ar reolau’r gynghanedd a pheryglu eu statws hwy fel gwŷr wrth grefft. Wedi i’r gyfundrefn nawdd ddirwyn i ben, ofer mwyach oedd gwarchod cyfrinion a chyfrinachau’r beirdd.

Fel yr oedd cynrychiolwyr olaf yr hen gyfundrefn, fel Wiliam Llŷn, Simwnt Fychan a Wiliam Cynwal, yn graddol dewi, dechreuwyd cyhoeddi llyfrau a oedd yn trafod dirgelion Cerdd Dafod. Ym 1567 cyhoeddwyd Dosparth Byrr ar y rhan gyntaf i ramadeg cymraeg gan Gruffydd Robert Milan. Trafodaeth ar y cynganeddion a geid yn nhrydedd ran Gramadeg Gruffydd Robert, ac fe’i cyhoeddwyd tua 1584, gyda phedwaredd ran ar y mesurau yn ymddangos cyn 1594. Ddwy flynedd cyn hynny, yn 1592, cyhoeddodd Siôn Dafydd Rhys (John Davies) ei ramadeg yntau, Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutions et Rudimenta, ac ynddo drafodaeth ar y gynghanedd ac ar y mesurau ymhlith pynciau eraill a oedd yn ymwneud â’r Gymraeg ac â Cherdd Dafod y Cymry. Flwyddyn yn ddiweddarach wedyn, yn 1593, cyhoeddwyd Bardhoniaeth neu Brydydhiaeth gan Wiliam Midleton, morwr a gŵr bonheddig a ganai ar ei fwyd ei hun. Ysgrifennodd Siôn Dafydd Rhys ei ramadeg, neu ei ‘ddwned’ ef, yn Gymraeg a Lladin, yn bennaf ar gyfer ysgolheigion. Tybiai Wiliam Midleton y byddai ei esboniad ef ar Gerdd Dafod y Cymry yn llawer mwy hygyrch i’r beirdd, ac yn llawer mwy defnyddiol ac ymarferol iddynt. Ac felly, o ddiwedd yr 16g. roedd cyfrinachau’r beirdd yn llyfr agored i bawb ar drothwy canrif newydd a chyfnod newydd. Yn 1728 wedyn, cyhoeddwyd Grammadeg Cymraeg Siôn Rhydderch (John Roderick). Cynhwysodd Siôn Rhydderch chwe awdl enghreifftiol yn ei lyfr, a chamarweiniwyd y beirdd i dybio mai ystyr awdl oedd awdl enghreifftiol, cerdd hir gynganeddol a gynhwysai bob un o’r pedwar mesur ar hugain. Roedd Siôn Dafydd Rhys yntau wedi cynnwys awdlau enghreifftiol o waith Gwilym Tew, Lewys Morgannwg, Simwnt Fychan a Wiliam Midleton yn ei lyfr, a chan Wiliam Midleton y cafodd yr awdlau enghreifftiol hyn, yn ogystal â sawl peth arall. Roedd Wiliam Midleton wedi nodi’n ddiamwys o glir beth oedd awdl: ‘Owdl yw kaniad o amryw fesurau (yn ol yr arfer sathredig) eithr wrth gerdh y tri phrifardh, a dull Kyndelw, ag arfer oll ieithoeth Europa: ni dhyly onyd vn mesur fod yn yr vn caniad, a pha fesur y dechreuer; kynhal hwnnw trwy’r owdl pe gorchestid beirdh fai ag os hir fydhai’r kaniad; mae’n rhydh newy, y brifodl’. A noda wedyn mai ‘Wyth mesur owdl ysydh, Kyhydedh, Todhaid, gwawdodyn, Hupynt, kadwynfesur, kyrch a chwtta, klogyrnach, a gorchest y beirdh’.

Canlyniad hyn oll oedd mai trwy lyfrau y dysgid rheolau’r gynghanedd a’r mesurau bellach, nid wrth draed unrhyw athro barddol a oedd yn wir awdurdod ar Gerdd Dafod; yn sgil hynny, roedd cynghanedd beirdd gwerinol fel Twm o’r Nant a Jonathan Hughes, a beirdd llai adnabyddus, yn bur anafus. Prin oedd y trafodaethau ar y beiau gwaharddedig yn y gramadegau newydd hyn.

Ni wyddai Goronwy Owen, er ei holl ddysg, beth yn union oedd awdl nes iddo gael gafael ar ramadegau’r ddau Siôn. Anfonodd Huw Williams, Periglor Aberffraw ym Môn, gopi o Ramadeg Siôn Rhydderch ato yn 1753. Meddai mewn llythyr at Richard Morris ddechrau Ionawr 1754: ‘Nid yw’r Gramadeg hwnnw (e ŵyr Duw) ond un o’r fath waelaf; eto y mae’n well na bod heb yr un, canys y mae ynddo engraffau o’r pedwar mesur ar hugain; ac y mae hynny’n fwy nag a welswn i erioed o’r blaen’. Cael ei siomi gan y rhan fwyaf o’r mesurau a wnaeth Goronwy, ond, er hynny, fe’i cyffrowyd ddigon gan Ramadeg Siôn Rhydderch i lunio awdl i Gymdeithas y Cymmrodorion ar y pedwar mesur ar hugain. Yr oedd ganddo eisoes yn ei feddiant gopi o Ramadeg Siôn Dafydd Rhys, wedi i’w gyfaill Thomas Ellis o Gaergybi, roi copi ohono iddo ryw naw mis ynghynt, ac ar ôl ei ddarllen, sylweddolodd Goronwy fod gwall yn yr awdl, ac anfonodd fersiwn newydd o’r llinellau tramgwyddus at Richard Morris. Lluniodd Goronwy awdl arall, er cof am John Owen, o’r Plas yng Ngheidio yn Llŷn, ar ôl darllen Gramadeg Siôn Dafydd Rhys, ac awdl ar y pedwar mesur ar hugain oedd honno hefyd. Ym mis Gorffennaf 1767, cwblhaodd ei awdl farwnad i Lewis Morris yn Virginia bell, ac ar y pedwar mesur ar hugain y canodd honno yn ogystal.

Y weithred o sefydlu’r eisteddfod fel cyfarfod cystadleuol (yn hytrach nag fel cyfarfodydd i raddio’r beirdd, fel dwy Eisteddfod Caerwys, 1523 a 1567) ar ddiwedd y 18g. a esgorodd ar yr awdl eisteddfodol. Yn 1780 cynigiodd Cymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain wobr am farwnad i Richard Morris, sylfaenydd y Gymdeithas, ac awdl ar y pedwar mesur ar hugain gan Richard Jones o Drefdraeth a ddyfarnwyd yn fuddugol. Cynhaliwyd eisteddfod gyntaf Cymdeithas y Gwyneddigion yn y Bala yn 1789, a gofynnwyd am awdl ar y testun ‘Ystyriaeth ar Oes Dyn’. Gwallter Mechain a enillodd y gamp ac awdl enghreifftiol oedd ail ran ei awdl. Awdlau enghreifftiol a anfonwyd i’r gystadleuaeth gan Ddafydd Ddu Eryri a Thwm o’r Nant yn ogystal. Pan fu farw Goronwy Owen yn America yn 1769, lluniodd Twm o’r Nant awdl ar y pedwar mesur ar hugain er cof amdano. Dilyn Gramadegau Siôn Dafydd Rhys a Siôn Rhydderch, yn ogystal ag awdlau enghreifftiol Goronwy Owen, a wnâi’r cystadleuwyr cyntaf hyn, ond ar gyfer eisteddfodau dilynol, anfonodd Cymdeithas y Gwyneddigion gyfarwyddyd at y beirdd i ofyn iddynt ‘ethol y mesurau gorau’ wrth ganu awdlau, nid llunio awdlau a gynhwysai bob un o’r pedwar mesur ar hugain.

Am flynyddoedd lawer yn ystod yr 20g. gofynnwyd am awdl ar y nifer a fynnid o fesurau Dafydd ab Edmwnd ar gyfer cystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef a enillodd y gadair arian yn Eisteddfod Caerfyrddin oddeutu 1450 am roi trefn ar yr hen fesurau ac aildrefnu’r pedwar mesur ar hugain. Ond nifer detholedig iawn o fesurau Dafydd ab Edmwnd a ddefnyddid gan feirdd eisteddfodol yr 20g. Roedd rhai o’r mesurau a ddyfeisiodd Dafydd ei hun, fel gorchest y beirdd a chadwynfyr, yn gwbl ddiwerth.

Ymhlith awdlau mawr yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr 20g. y mae ‘Ymadawiad Arthur’, T. Gwynn Jones (1902), ‘Gwlad y Bryniau’, T. Gwynn Jones (1909), ‘Yr Haf’, R. Williams Parry (1910), ‘Awdl Foliant i’r Amaethwr’, Geraint Bowen (1946), ‘Cynhaeaf’, Dic Jones (1966) a ‘Cilmeri’, Gerallt Lloyd Owen (1982).

Alan Llwyd

Llyfryddiaeth

Johnston, D. (1995), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).

Parry, T. (1953), ‘Hanes yr Awdl’, Awdlau Cadeiriol Detholedig 1926-1950 (Dinbych: Gwasg Gee).

Wiliam, D. W. (gol.) (2014), Llythyrau Goronwy Owen: Cyfrolau Cenedl 9 (Aberystwyth: Dalen Newydd).

Williams, G. J. (gol.) (1930), Barddoniaeth neu Brydyddiaeth gan Wiliam Midleton yn ôl argraffiad 1593, gyda chasgliad o’i awdlau a’i gywyddau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Caerwyn Williams, J. E. (gol.), gyda chymorth Lynch, P. I. (1994), Gwaith Meilyr Brydydd a’i Ddisgynyddion (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.