Awdl-gywydd

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:56, 19 Hydref 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mesur cwpledol fel y cywydd deuair hirion yw’r awdl-gywydd, gyda phob cwpled yn cynnwys dwy linell seithsill, ond, yn wahanol i’r cywydd, gall y llinellau ddiweddu’n acennog neu’n ddiacen. Yn ogystal, y mae diwedd y llinell gyntaf yn odli â gorffwysfa’r ail linell, a diwedd yr ail linell yn cynnal y brifodl. Dyma linellau agoriadol ‘Awdl-gywydd i Ddewi Sant’ gan Lewys Glyn Cothi:


Mae ’mhwys, mewn crwys, lle croesant,
ar un sant o’r ynys hon,
Dewi gâr, lle dug urael,
Dogwael o Geredigion,
ac ŵyr ydiw i Geredig
a drig ymyl dŵr eigion ...


Alan Llwyd

Llyfryddiaeth

Johnston, D. (1995), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).

Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).