Bandana, Y

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:10, 7 Chwefror 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Grŵp roc Cymraeg o Gaernarfon a fu’n un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru oddi fewn i’r sîn Gymraeg rhwng 2010 a 2016. Ffurfiwyd y band yn 2007 a’r aelodau oedd Gwilym Bowen Rhys (prif lais, gitâr), Robin Jones (drymiau), a’r ddau frawd Tomos Owens (allweddellau) a Siôn Owens (gitâr fas).

Gan ddatblygu set o ganeuon egnïol ac uniongyrchol a roddai bwyslais ar alawon canadwy a threfniannau di-lol a di-addurn, rhyddhaodd y grŵp eu record hir gyntaf eponymaidd ar label Copa yn 2011. Roedd yn cynnwys ‘Cân y Tân’ ac ‘Wyt ti’n nabod Mr Pei’, dwy gân a dderbyniodd wobrau yng nghategori y gân orau yng ngwobrau blynyddol cylchgrawn Y Selar yn 2010 ac 2011. Y Bandana hefyd dderbyniodd gategori band gorau’r flwyddyn yng Ngwobrau’r Selar yn 2010, 2011 a 2012. Roedd eu hail record hir, Bywyd Gwyn (Copa, 2013) yn cynnwys yr anthemig ‘Heno yn yr Anglesey’, cân arall a fu’n fuddugol yng ngwobrau’r Selar (y tro hwn yn 2012), un a oedd yn ymgorfforiad arbennig o ddawn y grŵp i leoli eu caneuon ym mhrofiadau trefol Cymry Cymraeg yn eu harddegau yn negawdau cyntaf yr 21g., mewn modd gonest, plaen a diffuant.

Rhyddhaodd y band eu record hir olaf, Fel Tôn Gron, yn 2016. Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd y band eu bod yn chwalu, gan berfformio yng Nghaernarfon am y tro olaf ym mis Hydref 2016. Mae’r aelodau yn parhau i recordio a pherfformio’n gyson gydag amryw brosiectau eraill, gyda Gwilym Bowen Rhys yn ryddhau deunydd fel artist unigol ac fel aelod o Plu, grŵp gwerin-bop amgen a sefydlodd ar y cyd gyda’i ddwy chwaer Elan a Marged yn 2012.

Gethin Griffiths a Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

Y Bandana (Copa CD013, 2010)
Bywyd Gwyn (Copa CD018, 2013)
Fel Tôn Gron (Copa CD024 2016)