Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Barbier, Lucie (1875-1963)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 4: Llinell 4:
 
Bu dyfodiad Lucie Barbier (née Hirsch) i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1909 yn gyfrwng i arallgyfeirio gweithgarwch ymarferol Adran Gerdd y Coleg ac i ddwyn sylw rhyngwladol i gerddoriaeth draddodiadol y genedl. Wedi blynyddoedd o drefnu cyngherddau o weithiau gan gyfansoddwyr o Ffrainc ar ran La Société des Concerts Français a hybu cynnyrch cerddorion mwyaf blaenllaw’r wlad, gan gynnwys Fauré, Debussy a D’Indy ym Manceinion a Llundain, ymgartrefodd André a Lucie Barbier yn Aberystwyth (yn dilyn cyfnod byr ym Mangor) gan fentro i sefydlu’r University of Wales Musical Club yn 1910 gyda chefnogaeth ariannol Gwendoline a Margaret Davies (Gregynog), yn bennaf er mwyn cyfoethogi’r ddarpariaeth gerddorol yn y dref ac ennyn gwell dealltwriaeth o’r traddodiad Ffrengig.
 
Bu dyfodiad Lucie Barbier (née Hirsch) i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1909 yn gyfrwng i arallgyfeirio gweithgarwch ymarferol Adran Gerdd y Coleg ac i ddwyn sylw rhyngwladol i gerddoriaeth draddodiadol y genedl. Wedi blynyddoedd o drefnu cyngherddau o weithiau gan gyfansoddwyr o Ffrainc ar ran La Société des Concerts Français a hybu cynnyrch cerddorion mwyaf blaenllaw’r wlad, gan gynnwys Fauré, Debussy a D’Indy ym Manceinion a Llundain, ymgartrefodd André a Lucie Barbier yn Aberystwyth (yn dilyn cyfnod byr ym Mangor) gan fentro i sefydlu’r University of Wales Musical Club yn 1910 gyda chefnogaeth ariannol Gwendoline a Margaret Davies (Gregynog), yn bennaf er mwyn cyfoethogi’r ddarpariaeth gerddorol yn y dref ac ennyn gwell dealltwriaeth o’r traddodiad Ffrengig.
  
Wrth i’r hinsawdd wleidyddol yn Ewrop ac yn enwedig y cyswllt â’r Almaen ddirywio, anelwyd at gryfhau’r berthynas rhwng Ffrainc ac Ynysoedd Prydain drwy gefnogi mudiadau a hyrwyddo digwyddiadau diwylliannol o’r fath. Camp fawr Lucie Barbier, fodd bynnag, oedd trefnu cyfres o gyngherddau Cymreig ym Mharis ym mis Mawrth 1911 pan deithiodd pedwar myfyriwr o Aberystwyth – Dora Rowlands ([[Dora Herbert Jones]] yn ddiweddarach), Gwen Taylor, Tudor Williams a Stanley Knight – i’r ddinas i gynnal cyfres o chwe chyngerdd o gerddoriaeth werin Gymreig dan nawdd rhai o gymdeithasau diwylliannol y brifddinas, megis Le Lied en Tous Pays ac Audition d’Élèves. Roedd ymddangosiad y pedwarawd lleisiol hwn yn Ffrainc yn ganlyniad uniongyrchol y gweithgaredd cerddorol a gafwyd yn Aberystwyth y flwyddyn flaenorol dan arweiniad Madame Barbier. Roedd y syniad o gyflwyno [[cerddoriaeth draddodiadol]] Gymreig yn Ffrainc yr adeg honno yn gwbl unigryw.
+
Wrth i’r hinsawdd wleidyddol yn Ewrop ac yn enwedig y cyswllt â’r Almaen ddirywio, anelwyd at gryfhau’r berthynas rhwng Ffrainc ac Ynysoedd Prydain drwy gefnogi mudiadau a hyrwyddo digwyddiadau diwylliannol o’r fath. Camp fawr Lucie Barbier, fodd bynnag, oedd trefnu cyfres o gyngherddau Cymreig ym Mharis ym mis Mawrth 1911 pan deithiodd pedwar myfyriwr o Aberystwyth – Dora Rowlands ([[Jones, Dora Herbert (1890-1974) | Dora Herbert Jones]] yn ddiweddarach), Gwen Taylor, Tudor Williams a Stanley Knight – i’r ddinas i gynnal cyfres o chwe chyngerdd o gerddoriaeth werin Gymreig dan nawdd rhai o gymdeithasau diwylliannol y brifddinas, megis Le Lied en Tous Pays ac Audition d’Élèves. Roedd ymddangosiad y pedwarawd lleisiol hwn yn Ffrainc yn ganlyniad uniongyrchol y gweithgaredd cerddorol a gafwyd yn Aberystwyth y flwyddyn flaenorol dan arweiniad Madame Barbier. Roedd y syniad o gyflwyno [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | cerddoriaeth draddodiadol]] Gymreig yn Ffrainc yr adeg honno yn gwbl unigryw.
  
O safbwynt hanesyddol, dyma’r tro cyntaf erioed i berfformiadau o gerddoriaeth werin Gymreig gael eu clywed yn y wlad ac o safbwynt gwleidyddol, roedd y perfformiadau hyn yn ymgorffori ysbryd a gobeithion yr ''Entente Cordiale'' a lofnodwyd gan lywodraeth Ynysoedd Prydain a Ffrainc yn 1904, wrth i’r peryglon o gyfeiriad yr Almaen gynyddu. Roedd hyn hefyd yn ymgais rhwng y gwledydd i ddod i well dealltwriaeth ac i feithrin heddwch a chyfeillgarwch. Sicrhaodd ymddangosiad y Pedwarawd Cymreig ym Mharis gryn sylw o gyfeiriad y wasg a’r [[cyfryngau]] yn Ffrainc a Lloegr, a chyfeiriwyd at y gyfres o berfformiadau, gan gynnwys un ym Mhrifysgol Paris (y Sorbonne), ar dudalennau ''Le Figaro'' fel ‘yr ''Entente Cordiale'' cerddorol’ – yn yr union fodd y cyfeiriwyd at ymddangosiad rhai o gerddorion a chyfansoddwyr amlwg Ffrainc yn Lloegr a Chymru yr adeg honno (e.e. ymwelodd Gabriel Fauré â Manceinion a’r Fenni a Debussy yn ogystal).
+
O safbwynt hanesyddol, dyma’r tro cyntaf erioed i berfformiadau o gerddoriaeth werin Gymreig gael eu clywed yn y wlad ac o safbwynt gwleidyddol, roedd y perfformiadau hyn yn ymgorffori ysbryd a gobeithion yr ''Entente Cordiale'' a lofnodwyd gan lywodraeth Ynysoedd Prydain a Ffrainc yn 1904, wrth i’r peryglon o gyfeiriad yr Almaen gynyddu. Roedd hyn hefyd yn ymgais rhwng y gwledydd i ddod i well dealltwriaeth ac i feithrin heddwch a chyfeillgarwch. Sicrhaodd ymddangosiad y Pedwarawd Cymreig ym Mharis gryn sylw o gyfeiriad y wasg a’r [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] yn Ffrainc a Lloegr, a chyfeiriwyd at y gyfres o berfformiadau, gan gynnwys un ym Mhrifysgol Paris (y Sorbonne), ar dudalennau ''Le Figaro'' fel ‘yr ''Entente Cordiale'' cerddorol’ – yn yr union fodd y cyfeiriwyd at ymddangosiad rhai o gerddorion a chyfansoddwyr amlwg Ffrainc yn Lloegr a Chymru yr adeg honno (e.e. ymwelodd Gabriel Fauré â Manceinion a’r Fenni a Debussy yn ogystal).
  
Golygodd y chwe pherfformiad dros bedwar diwrnod ym Mharis lawer o waith ymarfer a pharatoi cerddorol i aelodau’r Pedwarawd, i Lucie Barbier (fel cyfarwyddwraig a chyfeilyddes) ac i’r Athro [[J. Lloyd Williams]] (pennaeth yr Adran Fotaneg ym Mhrifysgol Aberystwyth) a luniodd drefniannau o’r alawon, ond golygodd y daith hefyd gryn waith gweinyddol yn trefnu tocynnau, archebu neuaddau a hysbysebu’r cyngherddau. Bu Madame Barbier yn gohebu â rhai o’i chyfeillion ym Mharis ers misoedd yr haf 1910 ond ymdrechodd y Ffrancwyr hefyd i sicrhau bod ymweliad y ‘Welsh Quartet’ yn llwyddiant ysgubol. Roedd cael bod yn aelod o’r pedwarawd yn golygu prentisiaeth hynod werthfawr a phrofiad amheuthun i’r pedwar canwr gan fod Madame Lucie Barbier yn mynd ati gyda’r un difrifoldeb ac yn mynnu’r un safon wrth i’r ''ensemble'' berfformio caneuon gwerin o Gymru a chyfansoddiadau clasurol rhai fel César Franck a Franz Schubert fel ei gilydd. Ond roedd dyrchafu cerddoriaeth frodorol Gymreig i’r fath statws yn Ffrainc yn gwbl groes i’r hyn a ddigwyddai yng Nghymru, fodd bynnag.
+
Golygodd y chwe pherfformiad dros bedwar diwrnod ym Mharis lawer o waith ymarfer a pharatoi cerddorol i aelodau’r Pedwarawd, i Lucie Barbier (fel cyfarwyddwraig a chyfeilyddes) ac i’r Athro [[Williams, J. Lloyd (1854-1945) | J. Lloyd Williams]] (pennaeth yr Adran Fotaneg ym Mhrifysgol Aberystwyth) a luniodd drefniannau o’r alawon, ond golygodd y daith hefyd gryn waith gweinyddol yn trefnu tocynnau, archebu neuaddau a hysbysebu’r cyngherddau. Bu Madame Barbier yn gohebu â rhai o’i chyfeillion ym Mharis ers misoedd yr haf 1910 ond ymdrechodd y Ffrancwyr hefyd i sicrhau bod ymweliad y ‘Welsh Quartet’ yn llwyddiant ysgubol. Roedd cael bod yn aelod o’r pedwarawd yn golygu prentisiaeth hynod werthfawr a phrofiad amheuthun i’r pedwar canwr gan fod Madame Lucie Barbier yn mynd ati gyda’r un difrifoldeb ac yn mynnu’r un safon wrth i’r ''ensemble'' berfformio caneuon gwerin o Gymru a chyfansoddiadau clasurol rhai fel César Franck a Franz Schubert fel ei gilydd. Ond roedd dyrchafu cerddoriaeth frodorol Gymreig i’r fath statws yn Ffrainc yn gwbl groes i’r hyn a ddigwyddai yng Nghymru, fodd bynnag.
  
 
Ar wahân i weithgaredd Madame Barbier yn ei ‘Musical Club’ yn Aberystwyth, anaml iawn y byddai myfyrwyr a chynulleidfaoedd y cyfnod yn clywed perfformwyr o Gymru, heb sôn am gerddoriaeth Gymreig, gan fod tuedd i ''repertoire'' cyngherddau cyhoeddus y cyfnod ddod o’r tu hwnt i’r wlad. Fel aelod o [[Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru]], perfformwraig, athrawes leisiol a beirniad, bu Lucie Barbier yn frwd iawn ei chefnogaeth i draddodiadau cerddorol Cymru’r cyfnod a gadawodd waddol gyfoethog ar ei hôl yn dilyn ei hymadawiad ag Aberystwyth yn 1918.
 
Ar wahân i weithgaredd Madame Barbier yn ei ‘Musical Club’ yn Aberystwyth, anaml iawn y byddai myfyrwyr a chynulleidfaoedd y cyfnod yn clywed perfformwyr o Gymru, heb sôn am gerddoriaeth Gymreig, gan fod tuedd i ''repertoire'' cyngherddau cyhoeddus y cyfnod ddod o’r tu hwnt i’r wlad. Fel aelod o [[Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru]], perfformwraig, athrawes leisiol a beirniad, bu Lucie Barbier yn frwd iawn ei chefnogaeth i draddodiadau cerddorol Cymru’r cyfnod a gadawodd waddol gyfoethog ar ei hôl yn dilyn ei hymadawiad ag Aberystwyth yn 1918.
Llinell 15: Llinell 15:
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 15:30, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Bu dyfodiad Lucie Barbier (née Hirsch) i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1909 yn gyfrwng i arallgyfeirio gweithgarwch ymarferol Adran Gerdd y Coleg ac i ddwyn sylw rhyngwladol i gerddoriaeth draddodiadol y genedl. Wedi blynyddoedd o drefnu cyngherddau o weithiau gan gyfansoddwyr o Ffrainc ar ran La Société des Concerts Français a hybu cynnyrch cerddorion mwyaf blaenllaw’r wlad, gan gynnwys Fauré, Debussy a D’Indy ym Manceinion a Llundain, ymgartrefodd André a Lucie Barbier yn Aberystwyth (yn dilyn cyfnod byr ym Mangor) gan fentro i sefydlu’r University of Wales Musical Club yn 1910 gyda chefnogaeth ariannol Gwendoline a Margaret Davies (Gregynog), yn bennaf er mwyn cyfoethogi’r ddarpariaeth gerddorol yn y dref ac ennyn gwell dealltwriaeth o’r traddodiad Ffrengig.

Wrth i’r hinsawdd wleidyddol yn Ewrop ac yn enwedig y cyswllt â’r Almaen ddirywio, anelwyd at gryfhau’r berthynas rhwng Ffrainc ac Ynysoedd Prydain drwy gefnogi mudiadau a hyrwyddo digwyddiadau diwylliannol o’r fath. Camp fawr Lucie Barbier, fodd bynnag, oedd trefnu cyfres o gyngherddau Cymreig ym Mharis ym mis Mawrth 1911 pan deithiodd pedwar myfyriwr o Aberystwyth – Dora Rowlands ( Dora Herbert Jones yn ddiweddarach), Gwen Taylor, Tudor Williams a Stanley Knight – i’r ddinas i gynnal cyfres o chwe chyngerdd o gerddoriaeth werin Gymreig dan nawdd rhai o gymdeithasau diwylliannol y brifddinas, megis Le Lied en Tous Pays ac Audition d’Élèves. Roedd ymddangosiad y pedwarawd lleisiol hwn yn Ffrainc yn ganlyniad uniongyrchol y gweithgaredd cerddorol a gafwyd yn Aberystwyth y flwyddyn flaenorol dan arweiniad Madame Barbier. Roedd y syniad o gyflwyno cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn Ffrainc yr adeg honno yn gwbl unigryw.

O safbwynt hanesyddol, dyma’r tro cyntaf erioed i berfformiadau o gerddoriaeth werin Gymreig gael eu clywed yn y wlad ac o safbwynt gwleidyddol, roedd y perfformiadau hyn yn ymgorffori ysbryd a gobeithion yr Entente Cordiale a lofnodwyd gan lywodraeth Ynysoedd Prydain a Ffrainc yn 1904, wrth i’r peryglon o gyfeiriad yr Almaen gynyddu. Roedd hyn hefyd yn ymgais rhwng y gwledydd i ddod i well dealltwriaeth ac i feithrin heddwch a chyfeillgarwch. Sicrhaodd ymddangosiad y Pedwarawd Cymreig ym Mharis gryn sylw o gyfeiriad y wasg a’r cyfryngau yn Ffrainc a Lloegr, a chyfeiriwyd at y gyfres o berfformiadau, gan gynnwys un ym Mhrifysgol Paris (y Sorbonne), ar dudalennau Le Figaro fel ‘yr Entente Cordiale cerddorol’ – yn yr union fodd y cyfeiriwyd at ymddangosiad rhai o gerddorion a chyfansoddwyr amlwg Ffrainc yn Lloegr a Chymru yr adeg honno (e.e. ymwelodd Gabriel Fauré â Manceinion a’r Fenni a Debussy yn ogystal).

Golygodd y chwe pherfformiad dros bedwar diwrnod ym Mharis lawer o waith ymarfer a pharatoi cerddorol i aelodau’r Pedwarawd, i Lucie Barbier (fel cyfarwyddwraig a chyfeilyddes) ac i’r Athro J. Lloyd Williams (pennaeth yr Adran Fotaneg ym Mhrifysgol Aberystwyth) a luniodd drefniannau o’r alawon, ond golygodd y daith hefyd gryn waith gweinyddol yn trefnu tocynnau, archebu neuaddau a hysbysebu’r cyngherddau. Bu Madame Barbier yn gohebu â rhai o’i chyfeillion ym Mharis ers misoedd yr haf 1910 ond ymdrechodd y Ffrancwyr hefyd i sicrhau bod ymweliad y ‘Welsh Quartet’ yn llwyddiant ysgubol. Roedd cael bod yn aelod o’r pedwarawd yn golygu prentisiaeth hynod werthfawr a phrofiad amheuthun i’r pedwar canwr gan fod Madame Lucie Barbier yn mynd ati gyda’r un difrifoldeb ac yn mynnu’r un safon wrth i’r ensemble berfformio caneuon gwerin o Gymru a chyfansoddiadau clasurol rhai fel César Franck a Franz Schubert fel ei gilydd. Ond roedd dyrchafu cerddoriaeth frodorol Gymreig i’r fath statws yn Ffrainc yn gwbl groes i’r hyn a ddigwyddai yng Nghymru, fodd bynnag.

Ar wahân i weithgaredd Madame Barbier yn ei ‘Musical Club’ yn Aberystwyth, anaml iawn y byddai myfyrwyr a chynulleidfaoedd y cyfnod yn clywed perfformwyr o Gymru, heb sôn am gerddoriaeth Gymreig, gan fod tuedd i repertoire cyngherddau cyhoeddus y cyfnod ddod o’r tu hwnt i’r wlad. Fel aelod o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, perfformwraig, athrawes leisiol a beirniad, bu Lucie Barbier yn frwd iawn ei chefnogaeth i draddodiadau cerddorol Cymru’r cyfnod a gadawodd waddol gyfoethog ar ei hôl yn dilyn ei hymadawiad ag Aberystwyth yn 1918.

Wyn Thomas



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.