Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bevin neu Bevan, Elway (c.1554-1638)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 
{{DISPLAYTITLE:Bevin neu Bevan, Elway (''c''.1554-1638)}}
 
 +
__NOAUTOLINKS__'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
+
Organydd, damcaniaethwr a chyfansoddwr. Ymddengys mai yn Lloegr y treuliodd ei holl yrfa, ond mae’n bosibl fod  ei  enw,  ffurf  Seisnigedig ar Elwy ap Ifan efallai, yn awgrymu cysylltiad teuluol cynharach â Dyffryn Clwyd (trwy Afon Elwy). Honnodd yr hynafiaethydd o Rydychen, Anthony Wood (1623–95) hefyd, mewn ffordd amhenodol, ei fod o dras Gymreig. Yn ddiweddar, darganfuwyd enw Bevin yng nghofnodion eglwys blwyf St Edmund, Caersallog, sy’n cadarnhau iddo gael ei gyflogi yno fel clerc lleyg yn 1576–7; bu hefyd yn gwneud cyfrifon wardeiniaid yr eglwys. Mae’n bosibl fod y trefniant hwn wedi parhau hyd nes iddo gael ei dderbyn i Eglwys Gadeiriol Wells yn ficer corawl ym mis Mai 1579, er iddo gael ei atal dros dro ym mis Ionawr 1580 am esgeuluso cymuno am bedair blynedd (mae dyfalu ei fod efallai’n reciwsant).
 
Organydd, damcaniaethwr a chyfansoddwr. Ymddengys mai yn Lloegr y treuliodd ei holl yrfa, ond mae’n bosibl fod  ei  enw,  ffurf  Seisnigedig ar Elwy ap Ifan efallai, yn awgrymu cysylltiad teuluol cynharach â Dyffryn Clwyd (trwy Afon Elwy). Honnodd yr hynafiaethydd o Rydychen, Anthony Wood (1623–95) hefyd, mewn ffordd amhenodol, ei fod o dras Gymreig. Yn ddiweddar, darganfuwyd enw Bevin yng nghofnodion eglwys blwyf St Edmund, Caersallog, sy’n cadarnhau iddo gael ei gyflogi yno fel clerc lleyg yn 1576–7; bu hefyd yn gwneud cyfrifon wardeiniaid yr eglwys. Mae’n bosibl fod y trefniant hwn wedi parhau hyd nes iddo gael ei dderbyn i Eglwys Gadeiriol Wells yn ficer corawl ym mis Mai 1579, er iddo gael ei atal dros dro ym mis Ionawr 1580 am esgeuluso cymuno am bedair blynedd (mae [[dyfalu]] ei fod efallai’n reciwsant).
 
Yn ddiweddarach, cofnodir bod Bevin yn feistr cantorion côr Eglwys Gadeiriol Bryste o fis Mawrth 1585, ac yna’n organydd yn 1589. Yn ôl pob tebyg byddai wedi adnabod y William Childs ifanc yno; honnai Wood fod y cyfansoddwr a’r organydd yn ddisgybl i Bevin. Ymddengys fod Bevin wedi dal ei swydd yn yr eglwys gadeiriol yr un pryd â’i ddyletswyddau yn y Capel Brenhinol, lle cafodd ei benodi’n Wrda Arbennig ar 3 Mehefin 1605. Cafodd Bevin ei ddiswyddo o’r eglwys gadeiriol yn y pen draw naill ai yn 1637 neu yn 1638, efallai oherwydd llesgedd, ac fe’i claddwyd yn eglwys St Augustine- the-Less, Bryste, lle’r oedd chwech o’i blant wedi eu bedyddio rhwng 1590 ac 1603.
 
Llinell 20: Llinell 19:
  
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 20:26, 11 Ebrill 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Organydd, damcaniaethwr a chyfansoddwr. Ymddengys mai yn Lloegr y treuliodd ei holl yrfa, ond mae’n bosibl fod ei enw, ffurf Seisnigedig ar Elwy ap Ifan efallai, yn awgrymu cysylltiad teuluol cynharach â Dyffryn Clwyd (trwy Afon Elwy). Honnodd yr hynafiaethydd o Rydychen, Anthony Wood (1623–95) hefyd, mewn ffordd amhenodol, ei fod o dras Gymreig. Yn ddiweddar, darganfuwyd enw Bevin yng nghofnodion eglwys blwyf St Edmund, Caersallog, sy’n cadarnhau iddo gael ei gyflogi yno fel clerc lleyg yn 1576–7; bu hefyd yn gwneud cyfrifon wardeiniaid yr eglwys. Mae’n bosibl fod y trefniant hwn wedi parhau hyd nes iddo gael ei dderbyn i Eglwys Gadeiriol Wells yn ficer corawl ym mis Mai 1579, er iddo gael ei atal dros dro ym mis Ionawr 1580 am esgeuluso cymuno am bedair blynedd (mae dyfalu ei fod efallai’n reciwsant).

Yn ddiweddarach, cofnodir bod Bevin yn feistr cantorion côr Eglwys Gadeiriol Bryste o fis Mawrth 1585, ac yna’n organydd yn 1589. Yn ôl pob tebyg byddai wedi adnabod y William Childs ifanc yno; honnai Wood fod y cyfansoddwr a’r organydd yn ddisgybl i Bevin. Ymddengys fod Bevin wedi dal ei swydd yn yr eglwys gadeiriol yr un pryd â’i ddyletswyddau yn y Capel Brenhinol, lle cafodd ei benodi’n Wrda Arbennig ar 3 Mehefin 1605. Cafodd Bevin ei ddiswyddo o’r eglwys gadeiriol yn y pen draw naill ai yn 1637 neu yn 1638, efallai oherwydd llesgedd, ac fe’i claddwyd yn eglwys St Augustine- the-Less, Bryste, lle’r oedd chwech o’i blant wedi eu bedyddio rhwng 1590 ac 1603.

Ychydig o gerddoriaeth a adawodd Bevin, er bod canu o hyd ar ei Wasanaeth Doraidd (Byr), a oedd yn ddigon poblogaidd i gael ei gynnwys yng nghasgliad John Barnard, The First Book of Selected Church Musick (1641). Roedd gan Bevin ddiddordeb mewn canonau a ffurfiau caeth eraill, ac roedd gan sawl cyfansoddwr diweddarach, gan gynnwys Henry Purcell, feddwl uchel ohono. Cyhoeddwyd ei lawlyfr i ddarpar gerddorion, A Briefe and Short Instruction of the Art of Musicke, yn 1631 a’i gyflwyno i esgob Caerloyw, Godfrey Goodman; mae’n bosibl mai Goodman a oedd wedi sicrhau lle i Bevin yn y Capel Brenhinol, a’i fod yntau hefyd yn Babydd.

Sally Harper

Llyfryddiaeth

  • J. G. Hooper, The Life and Work of Elway Bevin (Bristol, 1971)
  • Helen Barlow, ‘Bevin, Elway’, Oxford Dictionary of National Biography, gol. C. Matthew, B. Harrison et al., 60 cyfrol (Rhydychen, 2004; ar-lein http://www.oxforddnb.com/)
  • Elway Bevin, A Briefe and Short Instruction of the Art of Musicke, gol. Denis Collins (Aldershot, 2007)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.