Bois y Frenni

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:29, 20 Chwefror 2017 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Parti noson lawen o ardal Crymych, Sir Benfro, a gafodd ei ffurfio yn ystod yr Ail Ryfel Byd a hynny’n wreiddiol er mwyn cynnig adloniant yn lleol ac i godi ysbryd y gymdogaeth mewn cyfnod anodd. Cynhaliwyd eu perfformiad cyntaf yn Neuadd Bentref Boncath ar 6 Tachwedd 1940 dan arweiniad sylfaenydd y parti, William Rees Evans (1910–91), a oedd yn awdur cerddi ysgafn a chyfansoddwr caneuon hwyliog. Roedd yn frodor o Fynachlog-ddu; bu’n athro yn Abergwaun a’r Barri ac yna’n drefnydd iaith ac arolygydd ysgolion yn Sir Benfro. Roedd Evans yn adnabyddus fel arweinydd nosweithiau Bois y Frenni am hanner canrif.

O ystyried mai yng nghysgod yr Ail Ryfel Byd y sefydlwyd y grŵp, nid yw’n syndod gweld cyfeiriadaeth at awyrennau a bomiau yn rhai o’u caneuon cynnar, fel ‘Cwtsh Dan Stâr’, a hynny yn nhafodiaeth naturiol yr ardal (‘Mae gennyf loches rhag y bom / Cwtsh dan Stâr, cwtsh dan stâr / Lle rhed y wraig, a fi a’r pom / Cwtsh bach net dan stâr / Caf yno lonydd rhag pob sŵn / Rhag eroplên a chyfarth cŵn’).

Yn wahanol i grwpiau’r ‘Hogiau’, oedd ar y cyfan yn hanu o Ogledd Orllewin Cymru ac aelodaeth cymharol ddigyfnewid yn perthyn iddynt, drwy gadw’r aelodaeth yn fwy hyblyg, llwyddodd grwpiau’r ‘Bois’ i ddatblygu a pharhau am flynyddoedd lawer. Adloniant, hwyl a chwmnïaeth yr aelodau drwy ganu caneuon ysgafn y cyfnod oedd prif amcan sefydlu’r ‘Bois’; yn Nhachwedd 2015, er mwyn nodi 75 mlynedd ers sefydlu Bois y Frenni, cynhaliwyd cyngerdd yn yr un man lle’i clywid am y tro cyntaf.

Sarah Hill/Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

W. R. Evans, Cerddi Bois y Frenni (Llandysul, 2000)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.

Bydd y cofnod hwn yn ymddangos yn Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru.