Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bugeilgerdd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cerdd am fywyd bugail, a thrwy estyniad am y bywyd gwledig. Bu ynddi’n wastad duedd gref iawn i ddelfrydu’r bywyd hwnnw, ac o’r herwydd fe berthyn i...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
 
Cerdd am fywyd bugail, a thrwy estyniad am y bywyd gwledig. Bu ynddi’n wastad duedd gref iawn i ddelfrydu’r bywyd hwnnw, ac o’r herwydd fe berthyn i’r tylwyth llenyddol sy’n cynnwys Arcadia a’r Eidyl.
 
Theocritos, bardd Groeg (c. 310-250 CC), yw’r bugeilfardd cyntaf y gwyddom amdano. Ganddo ef yn ei ‘Eidylia’, sefydlir y patrwm o ddau fugail yn ymryson canu ac yn trin a thrafod materion serch a bywyd yn gyffredinol; rhagdybir drwy’r cyfan fod y defaid yn eu bihafio’u hunain yn o lew ac nad oes gormod llafur gyda’r rheini. Yn y man daeth prifardd y Rhufeinwyr, Fyrsil, i barhau’r traddodiad hwn yn ei ''Eclogae''. Canodd ef hefyd ei ''Georgica'', sy’n darlunio dyletswyddau diosgoi yr amaethwr drwy’r flwyddyn. Dyna sefydlu’r cyferbyniad rhwng y Fugeilgerdd, [[lle]] mae hamdden i brydyddu, caru a seiadu, a’r Hwsmongerdd, [[lle]] mae’r rhaid cadw’r llaw uchaf ar Natur os am fyw.
+
Theocritos, bardd Groeg (c. 310-250 CC), yw’r bugeilfardd cyntaf y gwyddom amdano. Ganddo ef yn ei ‘Eidylia’, sefydlir y patrwm o ddau fugail yn ymryson canu ac yn trin a thrafod materion serch a bywyd yn gyffredinol; rhagdybir drwy’r cyfan fod y defaid yn eu bihafio’u hunain yn o lew ac nad oes gormod llafur gyda’r rheini. Yn y man daeth prifardd y Rhufeinwyr, Fyrsil, i barhau’r traddodiad hwn yn ei ''Eclogae''. Canodd ef hefyd ei ''Georgica'', sy’n darlunio dyletswyddau diosgoi yr amaethwr drwy’r flwyddyn. Dyna sefydlu’r cyferbyniad rhwng y Fugeilgerdd, <nowiki>lle</nowiki> mae hamdden i brydyddu, caru a seiadu, a’r Hwsmongerdd, [[lle]] mae’r rhaid cadw’r llaw uchaf ar Natur os am fyw.
  
‘Diofal yw bywyd y bugail da’i awen’, canodd Richard Hughes o Gefn Llanfair, gwasanaethwr yn Llys Elizabeth I. Yn y 18g. daeth Edward Richard, yr ysgolfeistr o Ystrad Meurig, i ganu ‘Bugeilgerdd Gruffudd a Meurig’ a ‘Bugeilgerdd Hywel ac Iwan’, y ddwy’n cynnwys llawer o fyfyrio ar fywyd a chyfnewid profiad. Erbyn y cyfnod Rhamantaidd ac wedyn mae cryn fynd ar fugeilgerddi byrion, gwaith Ceiriog, Glasynys, Ieuan Glan Geirionydd, Talhaiarn ac eraill, hyd at Eifion Wyn. ‘Alun Mabon’ gan Ceiriog yw bugeilgerdd hwyaf y Gymraeg, ac un o’r enwocaf, yn rhannol oherwydd y telynegion sy’n rhannau ohoni – ‘Y Gwcw’, ‘Bugail Aberdyfi’ ac ‘Aros Mae’r Mynyddau Mawr’. Ffaith drawiadol am awduron bugeilgerddi yw mai prin yw bugeiliaid yn eu plith.  Cyfrol nad yw’n cynnwys yr un fugeilgerdd yw ''Cerddi’r Bugail'', [[Hedd Wyn]].
 
Diwygiad 19:52, 6 Mehefin 2016

Cerdd am fywyd bugail, a thrwy estyniad am y bywyd gwledig. Bu ynddi’n wastad duedd gref iawn i ddelfrydu’r bywyd hwnnw, ac o’r herwydd fe berthyn i’r tylwyth llenyddol sy’n cynnwys Arcadia a’r Eidyl.

Theocritos, bardd Groeg (c. 310-250 CC), yw’r bugeilfardd cyntaf y gwyddom amdano. Ganddo ef yn ei ‘Eidylia’, sefydlir y patrwm o ddau fugail yn ymryson canu ac yn trin a thrafod materion serch a bywyd yn gyffredinol; rhagdybir drwy’r cyfan fod y defaid yn eu bihafio’u hunain yn o lew ac nad oes gormod llafur gyda’r rheini. Yn y man daeth prifardd y Rhufeinwyr, Fyrsil, i barhau’r traddodiad hwn yn ei Eclogae. Canodd ef hefyd ei Georgica, sy’n darlunio dyletswyddau diosgoi yr amaethwr drwy’r flwyddyn. Dyna sefydlu’r cyferbyniad rhwng y Fugeilgerdd, lle mae hamdden i brydyddu, caru a seiadu, a’r Hwsmongerdd, lle mae’r rhaid cadw’r llaw uchaf ar Natur os am fyw.

‘Diofal yw bywyd y bugail da’i awen’, canodd Richard Hughes o Gefn Llanfair, gwasanaethwr yn Llys Elizabeth I. Yn y 18g. daeth Edward Richard, yr ysgolfeistr o Ystrad Meurig, i ganu ‘Bugeilgerdd Gruffudd a Meurig’ a ‘Bugeilgerdd Hywel ac Iwan’, y ddwy’n cynnwys llawer o fyfyrio ar fywyd a chyfnewid profiad. Erbyn y cyfnod Rhamantaidd ac wedyn mae cryn fynd ar fugeilgerddi byrion, gwaith Ceiriog, Glasynys, Ieuan Glan Geirionydd, Talhaiarn ac eraill, hyd at Eifion Wyn. ‘Alun Mabon’ gan Ceiriog yw bugeilgerdd hwyaf y Gymraeg, ac un o’r enwocaf, yn rhannol oherwydd y telynegion sy’n rhannau ohoni – ‘Y Gwcw’, ‘Bugail Aberdyfi’ ac ‘Aros Mae’r Mynyddau Mawr’. Ffaith drawiadol am awduron bugeilgerddi yw mai prin yw bugeiliaid yn eu plith. Cyfrol nad yw’n cynnwys yr un fugeilgerdd yw Cerddi’r Bugail, Hedd Wyn.

Math neilltuol ar fugeilgerdd yw’r hyn a adwaenir wrth yr enw Ffrangeg Pastourelle. Yma mae gŵr bonheddig yn ceisio ennyn serch bugeiles ifanc, ac yn methu. Enghraifft Gymraeg yw ‘Bugeiles yr Wyddfa’ gan John Jones (Eos Bradwen).

Aeth elfennau bugeiliol ar led drwy ffuglen a’r ddrama, ac enghraifft adnabyddus yw As You Like It, Shakespeare, lle ceir y cyferbyniad clasurol rhwng y ‘bugeiliaid delfrydol’ a’r ‘bugeiliaid go iawn’.

Dafydd Glyn Jones

Llyfryddiaeth

Bowen, Euros (1975), Bugeilgerddi Fyrsil (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jones, Dafydd Glyn, (gol.) (2016), Hen Lyfr Bach y Bugeilgerddi (Bangor: Dalen Newydd).

Empson, William (1935), Some Versions of Pastoral. A Study of the Pastoral Poem in Literature (Llundain: Chatto and Windus).

Lerner, Laurence (1972), The Uses of Nostalgia. Studies in Pastoral Poetry (Llundain: Chatto and Windus).

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.

[[Categori:Beirniadaeth a Theori]