Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Burrows, Stuart (g.1933)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Llinell 7: Llinell 8:
 
Gwnaeth ei ''début'' gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1963 yn ''Nabucco'' Verdi ond y profiad a roddodd yr hwb mwyaf i’w yrfa oedd canu’r unawd tenor yn opera-oratorio Stravinsky, ''Oedipus Rex'' (1927) yn 1965, a hynny ar gais y cyfansoddwr ei hun. Perfformiodd yn fynych yn Covent Garden yn y Tŷ Opera Brenhinol, yn ogystal â thai opera pwysicaf y cyfnod yn San Francisco, Santa Fe, Paris, y Metropolitan yn Efrog Newydd lle bu’n canu’n ddi-dor am ddeuddeg tymor (record i unrhyw ganwr o Brydain), Buenos Aires, Fienna (lle bu’n unawdydd yn y Brahms-Saal), Brwsel, Milan, ac ar hyd a lled Gogledd America ac Awstralia. Canodd y brif ran yn ''La Damnation de Faust'' Berlioz yn La Scala, Milan, yn 1978, a pherfformiodd yn ogystal gyda rhai o brif [[arweinyddion]] cerddorfaol ei gyfnod megis Syr Georg Solti, Leonard Bernstein, Seiji Ozawa, Zubin Mehta ac Eugene Ormandy.
 
Gwnaeth ei ''début'' gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1963 yn ''Nabucco'' Verdi ond y profiad a roddodd yr hwb mwyaf i’w yrfa oedd canu’r unawd tenor yn opera-oratorio Stravinsky, ''Oedipus Rex'' (1927) yn 1965, a hynny ar gais y cyfansoddwr ei hun. Perfformiodd yn fynych yn Covent Garden yn y Tŷ Opera Brenhinol, yn ogystal â thai opera pwysicaf y cyfnod yn San Francisco, Santa Fe, Paris, y Metropolitan yn Efrog Newydd lle bu’n canu’n ddi-dor am ddeuddeg tymor (record i unrhyw ganwr o Brydain), Buenos Aires, Fienna (lle bu’n unawdydd yn y Brahms-Saal), Brwsel, Milan, ac ar hyd a lled Gogledd America ac Awstralia. Canodd y brif ran yn ''La Damnation de Faust'' Berlioz yn La Scala, Milan, yn 1978, a pherfformiodd yn ogystal gyda rhai o brif [[arweinyddion]] cerddorfaol ei gyfnod megis Syr Georg Solti, Leonard Bernstein, Seiji Ozawa, Zubin Mehta ac Eugene Ormandy.
  
Roedd gwaith cyngerdd yn bwysig iddo yn ogystal â llwyfannau opera. Canodd yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, ac yn llawer o neuaddau mawr Prydain ac America. Daeth hefyd yn adnabyddus ar deledu ac roedd ei gyfres ''Stuart Burrows Sings'' i’r BBC yn denu tua deunaw miliwn o wylwyr bob wythnos. Roedd ei gyfres ''Gwlad y Gân'' i S4C yr un mor boblogaidd. Fe’i hanrhydeddwyd â DMus er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1981 ac fe’i gwnaed yn Gymrawd o’i hen goleg yng Nghaerfyrddin yn 1989, coleg lle sefydlodd Gystadleuaeth Llais Ryngwladol. Derbyniodd yr OBE ac mae’n Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth. Beirniadodd yng Nghystadleuaeth  [[BBC Canwr y Byd]], [[Caerdydd]], yn y Sommerakademie yn y Mozarteum yn Salzburg ac yng Nghystadleuaeth Ryngwladol y Frenhines Elisabeth ym Mrwsel. Yn nes adref, bu’n gweithio’n ddiflino dros achosion da ac yn hybu gyrfaoedd cantorion ifanc.
+
Roedd gwaith cyngerdd yn bwysig iddo yn ogystal â llwyfannau opera. Canodd yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, ac yn llawer o neuaddau mawr Prydain ac America. Daeth hefyd yn adnabyddus ar deledu ac roedd ei gyfres ''Stuart Burrows Sings'' i’r BBC yn denu tua deunaw miliwn o wylwyr bob wythnos. Roedd ei gyfres ''Gwlad y Gân'' i S4C yr un mor boblogaidd. Fe’i hanrhydeddwyd â DMus er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1981 ac fe’i gwnaed yn Gymrawd o’i hen goleg yng Nghaerfyrddin yn 1989, coleg lle sefydlodd Gystadleuaeth Llais Ryngwladol. Derbyniodd yr OBE ac mae’n Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth. Beirniadodd yng Nghystadleuaeth  [[BBC Canwr y Byd]], Caerdydd, yn y Sommerakademie yn y Mozarteum yn Salzburg ac yng Nghystadleuaeth Ryngwladol y Frenhines Elisabeth ym Mrwsel. Yn nes adref, bu’n gweithio’n ddiflino dros achosion da ac yn hybu gyrfaoedd cantorion ifanc.
  
 
'''Lyn Davies'''
 
'''Lyn Davies'''

Diwygiad 20:01, 14 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y tenor byd-enwog yn yr un pentref â’i gyd- ganwr a’i gyfaill Syr Geraint Evans, sef Cilfynydd ger Pontypridd; yn wir, deuent o’r un stryd. Wedi derbyn ei addysg yn lleol aeth i’w gymhwyso fel athro ysgol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Gallasai fod wedi dilyn gyrfa fel chwaraewr rygbi ar y lefel uchaf, ond yn dilyn ei fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1959, daeth ei lais llyfn, cywir a melfedaidd rhyfeddol yn gyfarwydd ar draws pedwar cyfandir. Yn wir, fe’i hystyrir yn un o denorion telynegol gorau’r 20g.

O tua chanol yr 1960au ymlaen datblygodd Burrows fel yr olynydd amlycaf i Fritz Wunderlich (1930–66), a fu farw’n gynamserol. Sylwyd yn fynych ar felyster a llyfnder y llais sylfaenol ynghyd â’r dechneg naturiol, ddirodres. Mewn perfformiadau ac ar recordiadau mae geirio eglur y canwr yn ddiguro, nodwedd sy’n adlewyrchu ei gefndir diwylliannol Cymreig yn ddiau. Daeth hyn yn amlwg mewn perfformiadau o brif weithiau Mozart yn fwyaf arbennig, ond hefyd mewn repertoire a oedd yn eang a chatholig. Bu hefyd yn brysur yn y neuadd gyngerdd a pherfformiodd nifer o weithiau newydd gan gynnwys caneuon gan ei gyfaill Alun Hoddinott (1929–2008). Roedd repertoire Burrows yn cwmpasu Berlioz, Britten, Tchaikovsky (roedd ei bortread o Lensky yn Eugene Onegin yn dra nodedig), Stravinsky, Hoddinott, Schubert a’r traddodiad lied yn gyffredinol, ynghyd â baledi Cymreig y 19g.

Gwnaeth ei début gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1963 yn Nabucco Verdi ond y profiad a roddodd yr hwb mwyaf i’w yrfa oedd canu’r unawd tenor yn opera-oratorio Stravinsky, Oedipus Rex (1927) yn 1965, a hynny ar gais y cyfansoddwr ei hun. Perfformiodd yn fynych yn Covent Garden yn y Tŷ Opera Brenhinol, yn ogystal â thai opera pwysicaf y cyfnod yn San Francisco, Santa Fe, Paris, y Metropolitan yn Efrog Newydd lle bu’n canu’n ddi-dor am ddeuddeg tymor (record i unrhyw ganwr o Brydain), Buenos Aires, Fienna (lle bu’n unawdydd yn y Brahms-Saal), Brwsel, Milan, ac ar hyd a lled Gogledd America ac Awstralia. Canodd y brif ran yn La Damnation de Faust Berlioz yn La Scala, Milan, yn 1978, a pherfformiodd yn ogystal gyda rhai o brif arweinyddion cerddorfaol ei gyfnod megis Syr Georg Solti, Leonard Bernstein, Seiji Ozawa, Zubin Mehta ac Eugene Ormandy.

Roedd gwaith cyngerdd yn bwysig iddo yn ogystal â llwyfannau opera. Canodd yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, ac yn llawer o neuaddau mawr Prydain ac America. Daeth hefyd yn adnabyddus ar deledu ac roedd ei gyfres Stuart Burrows Sings i’r BBC yn denu tua deunaw miliwn o wylwyr bob wythnos. Roedd ei gyfres Gwlad y Gân i S4C yr un mor boblogaidd. Fe’i hanrhydeddwyd â DMus er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1981 ac fe’i gwnaed yn Gymrawd o’i hen goleg yng Nghaerfyrddin yn 1989, coleg lle sefydlodd Gystadleuaeth Llais Ryngwladol. Derbyniodd yr OBE ac mae’n Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth. Beirniadodd yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd, Caerdydd, yn y Sommerakademie yn y Mozarteum yn Salzburg ac yng Nghystadleuaeth Ryngwladol y Frenhines Elisabeth ym Mrwsel. Yn nes adref, bu’n gweithio’n ddiflino dros achosion da ac yn hybu gyrfaoedd cantorion ifanc.

Lyn Davies

Disgyddiaeth ddethol

Stuart Burrows Sings Operetta Favourites (L’Oiseau-Lyre DSLO16, 1980)
Emyn o Fawl (Sain SCD8003, 1984)
Hen Gerddi Fy Ngwlad (Sain SCD2032, 1992)
Stuart Burrows: Ffefrynnau Cymraeg a Saesneg (Sain SCD2556, 2009)

Gwefannau dethol

http://www.stuartburrows.f9.co.uk
http://www.bbc.co.uk/wales/music/sites/stuart-burrows
http://www.sainwales.com/en/artists/stuart-burrows



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.