Caerdydd

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:39, 5 Rhagfyr 2013 gan Elis Glynne (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Cyfres saith bennod am griw o ffrindiau yn eu hugeiniau sy'n byw mewn fflatiau crand ym Mae Caerdydd. Dilynna'r gyfres y criw - Peter, Emyr, Osian, Ceri, Lea & Elen - wrth eu gwaith (amrywiol) bob dydd a'u bywydau personol, cyffrous, gyda'r nos.

Cawn weld ochr broffesiynol ac uchelgeisiol y prif gymeriadau: Peter â'i fusnes adeiladu/contractio; Emyr â'i siop recordiau; Osian sy'n gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol; Ceri sy'n rhedeg ei bwyty nwdls yn y Bae; mae Lea yn cychwyn ei swydd newydd yn y Cynulliad; ac Elen yw'r fyfyrwraig newyddiaduraeth ddisglair.

Ond gyda'r nos daw eu cymeriadau eang i'r golwg: Peter a'i garwriaethau diri, sy'n troi'n chwerw pan yw'n ymhél â Sian sy'n hyderus, cynllwyngar a phenderfynol; Emyr sy'n hoyw ac yn byw yn ôl ei 'life rules' ond sy'n disgyn mewn cariad â Gareth yr heddwas; Osian yw'r dyn ifanc, gwylaidd, sy'n rhannu fflat gyda'i dad (anllad) ac sydd mewn cariad â Lea; Ceri yw'r fenyw hyderus, ffasiynol sy'n arbrofi gyda chyffuriau ond yn darganfod ei bod yr un mor fregus â phawb arall er gwaetha'i chymeriad cryf; Lea sy'n symud o Lundain ac sy'n cuddio cyfrinach fawr, cyfrinach y mae Rob y cyfreithiwr yn dyheu am gael clywed a'i chysuro; ac Elen sy'n gorfod gweithio am ddim i Ceri yn y bwyty er mwyn gwneud iawn am beidio â thalu rhent llawn iddi yn y fflat moethus, ond sy'n llwyddo i gael perthynas gudd gyda'i darlithydd - Yr Athro Mike Powell.

Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Caerdydd

Blwyddyn: 2006 (Cyfres 1)

Hyd y Ffilm: 7 pennod

Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 11 Ion 2006

Cyfarwyddwr: Ed Thomas, Ed Talfan (pennodau 5-7)

Sgript gan: Ian Staples

Addasiad o: Big Bow Wow gan Trevor Colgan, Gerry Gregg, Eoghan Harris, Tim Palmer a Daivd Blake-Knox

Cynhyrchydd: Fizzy Oppé & Ed Thomas

Cwmnïau Cynhyrchu: Fiction Factory

Genre: Addasiad, Drama