Caerdydd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Cyfres saith bennod am griw o ffrindiau yn eu hugeiniau sy'n byw mewn fflatiau crand ym Mae Caerdydd. Dilynna'r gyfres y criw - Peter, Emyr, Osian, Ceri, Lea & Elen - wrth eu gwaith (amrywiol) bob dydd a'u bywydau personol, cyffrous, gyda'r nos.

Cawn weld ochr broffesiynol ac uchelgeisiol y prif gymeriadau: Peter â'i fusnes adeiladu/contractio; Emyr â'i siop recordiau; Osian sy'n gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol; Ceri sy'n rhedeg ei bwyty nwdls yn y Bae; mae Lea yn cychwyn ei swydd newydd yn y Cynulliad; ac Elen yw'r fyfyrwraig newyddiaduraeth ddisglair.

Ond gyda'r nos daw eu cymeriadau eang i'r golwg: Peter a'i garwriaethau diri, sy'n troi'n chwerw pan yw'n ymhél â Sian sy'n hyderus, cynllwyngar a phenderfynol; Emyr sy'n hoyw ac yn byw yn ôl ei 'life rules' ond sy'n disgyn mewn cariad â Gareth yr heddwas; Osian yw'r dyn ifanc, gwylaidd, sy'n rhannu fflat gyda'i dad (anllad) ac sydd mewn cariad â Lea; Ceri yw'r fenyw hyderus, ffasiynol sy'n arbrofi gyda chyffuriau ond yn darganfod ei bod yr un mor fregus â phawb arall er gwaetha'i chymeriad cryf; Lea sy'n symud o Lundain ac sy'n cuddio cyfrinach fawr, cyfrinach y mae Rob y cyfreithiwr yn dyheu am gael clywed a'i chysuro; ac Elen sy'n gorfod gweithio am ddim i Ceri yn y bwyty er mwyn gwneud iawn am beidio â thalu rhent llawn iddi yn y fflat moethus, ond sy'n llwyddo i gael perthynas gudd gyda'i darlithydd - Yr Athro Mike Powell.

Sylwebaeth Arbenigol

Drama gyfres wedi ei lleoli yn Nulyn oedd Big Bow Wow gan Trevor Colgan, Gerry Gregg, Eoghan Harris, Tim Palmer a Daivd Blake-Knox. Cafodd ei darlledu ar RTÉ yn 2004. Big Bow Wow yw enw'r dafarn lle mae'r ffrindiau yn cyfarfod gyda'r nos i ymlacio/bartïo. Yn y gyfres Caerdydd, y Cantîn yw'r lleoliad cyfatebol. Pan addaswyd y gyfres i'r Gymraeg fe newidiwyd rhai enwau i'w Cymreigio a trosglwyddwyd y lleoliad o Ddulyn i Fae Caerdydd. Un cyfres fu o Big Bow Wow.

Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Caerdydd

Blwyddyn: 2006 (Cyfres 1)

Hyd y Ffilm: 7 pennod

Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 11 Ion 2006

Cyfarwyddwr: Ed Thomas, Ed Talfan (pennodau 5-7)

Sgript gan: Ian Staples

Addasiad o: Big Bow Wow gan Trevor Colgan, Gerry Gregg, Eoghan Harris, Tim Palmer a Daivd Blake-Knox

Cynhyrchydd: Fizzy Oppé & Ed Thomas

Cwmnïau Cynhyrchu: Fiction Factory

Genre: Addasiad, Drama

Cast a Chriw

Prif Gast

  • Alys Thomas (Lea Kennedy)
  • Ryland Teifi (Peter Marshall)
  • Iola Hughes (Sian Edwards)
  • Lee Haven-Jones (Emyr Tomos)
  • Gareth Pierce (Osian James)
  • Siwan Morris (Ceri Price)
  • Rhian Green (Elen Aaron)
  • Julian Lewis Jones (Yr Athro Mike Powell)
  • Mali Harries (Kate Ford)
  • Matthew Gravelle (Gareth Pritchard)
  • Huw Rhys (Danny Ford)
  • Daniel Hope (Damien Charles (Damo))
  • Dewi Rhys Williams (Stephen James)
  • Rachel Isaac (Shwna)
  • Llew Davies (Sion Marshall)
  • Bradley Freegard (Robert Lewis)

Cast Cefnogol

  • Jennie Lucey - Kylie Byrne
  • Rhodri Meilir - Rhys Johnstone
  • Patrick Brennan - Barry Welsh
  • Jason May - Jason
  • Judith Humphries - Rhian James
  • Sharon Morgan - Anne Davies
  • Jâms Thomas - Mick Thomas
  • Ela Hâf Gravelle - Ela Ford

Ffotograffieth

  • Rory Taylor & Warren Orchard

Dylunio

  • Hayden Pearce & Tom Pearce

Cerddoriaeth

  • Ian Cottrell & Gareth Potter

Sain

  • Ray Parker

Golygu

  • Kevin Jones

Castio

  • Leigh-Ann Regan (Regan-Rimmer)

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Golygydd Sgript - Rhian Davies
  • Rheolwr Lleoliadau - Chris Hill
  • Coluro - Nel Bat, Vikki Owen (cynorthwy-ydd)
  • Gwisgoedd - Jakki Winfield, Susie Lewis (cynorthwy-ydd)
  • Adnoddau - Tinopolis, Derwen, Soundworks

Manylion Technegol

Lliw: Lliw


Manylion Atodol

Adolygiadau

Mike Parker, 'Still Dreaming', Planet, 176 (Ebrill/Mai 2006), 112-114.

Erthyglau

'Actorion newydd yn y ddinas', Y Cymro (18 Ionawr 2006), 19.

'Caerdydd - Drama yn y ddinas', Y Cymro (4 Ionawr 2006), 19.

'Caerdydd yn ddrama am Ddulyn', Golwg, 18/19 (19 Ionawr 2006), 6.

'Caerdydd - tebyg i ni?', Golwg, 18/19 (19 Ionawr 2006), 13.

'Cariad at Gaerdydd a Cheredigion', Y Cymro (11 Ionawr 2006), 18.