Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Canu Cocosaidd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Wedi gwacáu'r dudalen yn llwyr)
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
 
Canu yn null John Evans (1827?-95), ‘Y Bardd Cocos’ o Borthaethwy, Môn. Trwy estyniad aed i ddefnyddio’r term am unrhyw brydyddiaeth gloff. Cymeriad diniwed oedd y Bardd Cocos gwreiddiol, ag uchelgais farddol fawr ond heb unrhyw amgyffred o fesur nac aceniad, dim ond obsesiwn ag odl, honno’n cael ei harfer yn brennaidd ailadroddus. Testunau ei ganu oedd damweiniau a thrychinebau’r oes, teyrngedau i wŷr enwog, a’i fyfyrdodau ei hun ar fywyd. Weithiau drwy’r cyfan fe drawai’r Bardd ar ambell gwpled cofiadwy:
 
  
:Fydd yr awen ddim yn fflash
 
:Heb fwstash;
 
 
neu ambell wirionedd sy’n ein hoelio:
 
 
:Mae Prince of Wales wedi priodi
 
:A miloedd heddiw’n byw mewn tlodi.
 
 
Cafwyd ‘beirdd cocosaidd’ eraill, a daeth y ‘gerdd gocosaidd’ yn eitem mewn adloniant. Ond pethau amhur yw cerddi cocos modern, yn tueddu at ergydion ffraeth a diweddglo trawiadol. Carbwleidd-dra diniwed yw hanfod y cocoswaith gwreiddiol, – ac eto nid yn yr iaith, sy’n hollol gywir.
 
 
Yn William McGonagall (‘The Great McGonagall’) (1830-1902) cafodd yr Alban ei henwog fardd cocos ei hun. Ie, ‘gwŷr o athrylith’ chwedl bardd arall, ond nad oedd ‘mesur eu llathen hwy yr un hyd â llath’.
 
 
'''[[Dafydd]] Glyn Jones'''
 
 
==Llyfryddiaeth==
 
 
Jones, D. G. (2014), ''Hen Lyfr Bach y Bardd Cocos'' (Bangor: Dalen Newydd).
 
 
Ceiriog, H. ac Ap [[Dafydd]], M. (1998), ''Perlau Cocos. Casgliad o Waith Beirdd Cocosaidd'' (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch).
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 

Y diwygiad cyfredol, am 09:28, 4 Ebrill 2018