Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Clêr"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Enw torfol a ddefnyddid am ddosbarth o feirdd a difyrwyr israddol nad oeddynt wedi derbyn hyfforddiant tebyg i’r penceirddiaid yn yr Oes...')
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
Enw torfol a ddefnyddid am ddosbarth o feirdd a difyrwyr israddol nad oeddynt wedi derbyn hyfforddiant tebyg i’r penceirddiaid yn yr Oesoedd Canol. Yn wreiddiol, golygai ‘clerwyr’ fân feirdd a cherddorion neu finstreliaid a geid mewn ffeiriau yn y trefydd, a chysylltid hwy’n aml â thafarndai. Perthynent i’r traddodiad answyddogol ac islenyddol. Cyfeirid atynt yn ddirmygus gan y beirdd hyfforddedig a’u galw’n ‘glêr y dom’ (beirdd y domen dail), ‘beirdd y blawd’ (am eu bod yn begera blawd), ac yn ‘glêr ofer’ (beirdd disylwedd), sy’n awgrymu bod cynnwys eu cerddi’n aml yn fwy amrwd ac anweddus. Beirniadai’r gramadeg barddol waith y glêr ar y sail ei fod yn anfoesol.  
 
Honnai’r beirdd swyddogol eu bod yn uwch eu statws na’r glêr am eu bod wedi graddio o fewn y gyfundrefn farddol. Er enghraifft, canodd Iolo Goch (fl. 1345‒97) gywydd i ddychanu clerwr o’r enw Y Gwyddelyn lle y mae’n honni ei fod ef, Iolo, a dau fardd arall, sef Ithel Ddu a Madog Dwygraig, yn rhagori ar hwnnw am iddynt gael eu hyfforddi:
+
Honnai’r beirdd swyddogol eu bod yn uwch eu statws na’r glêr am eu bod wedi graddio o fewn y gyfundrefn farddol. Er enghraifft, canodd Iolo Goch (''fl.'' 1345‒97) gywydd i ddychanu clerwr o’r enw Y Gwyddelyn lle y mae’n honni ei fod ef, Iolo, a dau fardd arall, sef Ithel Ddu a Madog Dwygraig, yn rhagori ar hwnnw am iddynt gael eu hyfforddi:
  
:Nid synnwyr ffôl wrth ddolef,
 
:Nid synnwyr ffôl wrth ddolef,
Llinell 23: Llinell 23:
 
Johnston, D. (2005), ''Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300‒1525'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
 
GPC Ar Lein, http://gpc.cymru/, ‘clêr’ [Cyrchwyd: 8 Tachwedd 2016).
+
Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein, http://gpc.cymru/, ‘clêr’ [Cyrchwyd: 8 Tachwedd 2016).

Diwygiad 17:56, 11 Tachwedd 2016

Enw torfol a ddefnyddid am ddosbarth o feirdd a difyrwyr israddol nad oeddynt wedi derbyn hyfforddiant tebyg i’r penceirddiaid yn yr Oesoedd Canol. Yn wreiddiol, golygai ‘clerwyr’ fân feirdd a cherddorion neu finstreliaid a geid mewn ffeiriau yn y trefydd, a chysylltid hwy’n aml â thafarndai. Perthynent i’r traddodiad answyddogol ac islenyddol. Cyfeirid atynt yn ddirmygus gan y beirdd hyfforddedig a’u galw’n ‘glêr y dom’ (beirdd y domen dail), ‘beirdd y blawd’ (am eu bod yn begera blawd), ac yn ‘glêr ofer’ (beirdd disylwedd), sy’n awgrymu bod cynnwys eu cerddi’n aml yn fwy amrwd ac anweddus. Beirniadai’r gramadeg barddol waith y glêr ar y sail ei fod yn anfoesol.

Honnai’r beirdd swyddogol eu bod yn uwch eu statws na’r glêr am eu bod wedi graddio o fewn y gyfundrefn farddol. Er enghraifft, canodd Iolo Goch (fl. 1345‒97) gywydd i ddychanu clerwr o’r enw Y Gwyddelyn lle y mae’n honni ei fod ef, Iolo, a dau fardd arall, sef Ithel Ddu a Madog Dwygraig, yn rhagori ar hwnnw am iddynt gael eu hyfforddi:

Nid synnwyr ffôl wrth ddolef,
Nid clêr lliw’r tryser llawr tref,
Nid beirdd y blawd, brawd heb rym,
Profedig feirdd prif ydym.

Ond yn aml iawn, awgryma’r dystiolaeth fod y glêr yn cydfodoli ac yn cystadlu â’r beirdd hyfforddedig am nawdd. Canent weithiau i’r un noddwyr ac ymwelent â rhai o’r un cartrefi.

Erbyn ail chwarter y 14g., fodd bynnag, defnyddid ‘y glêr’ i olygu beirdd yn gyffredinol, a datblygodd y ferf ‘clera’ i olygu crwydro’r wlad i chwilio am nawdd. Wrth i amgylchiadau’r beirdd newid ar ôl y Goncwest, teneuo a wnaeth y ffin rhwng y gwahanol raddau o feirdd, a’r hyn a oedd yn gyffredin i feirdd swyddogol ac answyddogol fel ei gilydd oedd y rheidrwydd arnynt i chwilio am nawdd drwy grwydro o le i le.

Bleddyn Huws

Llyfryddiaeth

Edwards, H. M. (1996), Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues (Oxford: Clarendon Press).

Johnston, D. R. (gol.) (1988), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), XXXVII.51‒4.

Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300‒1525 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).