Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cyflwynydd newyddion"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Yn ailgyfeirio at Cyflwynydd)
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
 
+
#ail-cyfeirio [[Cyflwynydd]]
''Saesneg: Newsreader/anchorperson''
 
 
 
Y sawl sy’n cyflwyno rhaglenni [[newyddion]] neu’n darllen y bwletinau newyddion. Term sy’n cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig sy’n cymharu ag ''anchorperson'' yn Unol Daleithiau America. Mae’r [[cyflwynydd newyddion]] yn cyflwyno’r newyddion drwy gymorth [[awtociw]] (''autocue/teleprompter'').
 
 
 
Y cynhyrchydd Don Hewitt a oedd yn gweithio i gwmni CBS yn y 1950au cynnar a ddyfeisiodd y term ‘''anchor''’ yn ystod Confensiwn Cenedlaethol y Blaid Weriniaethol (''Republican National Convention'') yn Chicago. Ymdebygodd y darllediad i dîm ras gyfnewid, lle y mae safle’r rhedwr olaf (''anchor'') yn hollbwysig. Enghraifft o gyflwynydd newyddion yn Unol Daleithiau America (UDA) oedd y newyddiadurwr Walter Cronkite a gyflwynodd y newyddion i CBS am flynyddoedd.
 
 
 
Sefydlodd Hewitt baramedrau ar gyfer perfformiad byw er mwyn cadw’r rhaglen newyddion yn y stiwdio i redeg yn esmwyth. Cyflawnwyd hyn trwy fyrfyfyrio, darllen yr [[awtociw]], cyflwyno newyddion yn torri, sgwrsio â gwesteion yn y stiwdio a chydlynu adroddiadau newyddiadurwyr a oedd allan ar leoliad.
 
 
 
Mae cyflwynwyr yn ysgrifennu [[copi]] ac yn aml yn mynd allan ar [[aseiniad]] i gyflwyno’r rhaglen o’r maes er mwyn gweithredu fel llygad dyst i ddigwyddiadau arbennig.
 
 
 
Mae rhai o’r newyddiadurwyr mwyaf adnabyddus yn UDA wedi sefydlu eu hunain fel prif gyflwynwyr, gan gynnwys Cronkite, David Brinkley a Peter Jennings, ac mae ‘''anchors''’ cyfoes UDA yn aml yn bersonoliaethau enwog yn ogystal â chyflwyno’r newyddion. Nid yw sefydliadau newyddion mewn mannau eraill o’r byd yn defnyddio’r term ‘''anchor''’, ond mae’r newyddiadurwyr yn cyflwyno’r rhaglen newyddion yn yr un modd. Mae Bethan Rhys Roberts, Huw Edwards a Garry Owen ymhlith nifer o gyflwynwyr rhaglenni newyddion y Deyrnas Unedig sy’n dod o Gymru.
 
 
 
Mae beirniaid yn dadlau bod y cyflwynwyr Americanaidd – yr ''anchors'' – yn rhoi gormod o bwyslais ar ymddangosiad newyddion darlledu gan eu troi’n ‘selebs’. Gall hyn yn ei dro danseilio rôl draddodiadol newyddiadurwyr.
 
 
 
 
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Newyddiaduraeth]]
 

Y diwygiad cyfredol, am 15:40, 2 Mai 2019

Ailgyfeirio i: