Davies, Aled Lloyd (g.1930)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:52, 11 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Datgeinydd a hyfforddwr cerdd dant, awdur, arbenigwr ar y grefft o ‘osod’ y gyfalaw ac un o brif ladmeryddion cerdd dant yn yr 20g. Fe’i ganed yn Nhŷ’r Ysgol, Brithdir, ger Dolgellau. Roedd ei dad yn brifathro’r ysgol yno ac yn rhoi llawer o sylw i farddoniaeth, hanes a daearyddiaeth, tri maes a fu’n ddylanwad arhosol arno. Canodd Aled Lloyd Davies osodiadau ‘benthyg’ wedi’u codi o’r llyfr Y Tant Aur (1911) gan Dafydd Roberts, telynor dall Dinas Mawddwy, hyd nes iddo ddechrau gosod y gyfalaw ei hun ar y ceinciau maes o law. Derbyniodd weddill ei addysg yn Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd mewn daearyddiaeth.

Ni fu fawr o gyfle iddo ymhél â cherdd dant yn ystod ei gyfnod o ddwy flynedd yn adran addysg y fyddin, ond y flwyddyn ganlynol, ac yntau’n dysgu ym Mhenbedw, dechreuodd hyfforddi parti o ferched o Aelwyd yr Urdd, Penbedw, a dychwelodd ei awch am y grefft. Ar ôl cael ei benodi’n athro yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, yn 1955 bu’n hyfforddi’r ieuenctid gan ennill llu o wobrau yn y gwyliau cenedlaethol. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, yn 1956, y sefydlodd y parti Meibion Menlli, a fu’n fuddugol sawl gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac a gynhaliodd dros 500 o gyngherddau cyn rhoi’r gorau iddi yn 2004.

Daliodd Aled Lloyd Davies i ddysgu weddill ei yrfa, gan gael ei benodi yn brifathro Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, maes o law; ymddeolodd yn 1985 ar ôl ugain mlynedd yno. Derbyniodd raddau MA a PhD (Prifysgol Bangor) am ei ymchwil i hanes cerdd dant a daeth yn gymrawd o’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2004 am ei gyfraniad i’r sefydliad.

Yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Maes Garmon, bu’n cydweithio’n agos gyda’r cerddor Rhys Jones (1927–2015) gan lunio chwe sgript ar gyfer sioeau cerdd a geiriau ar gyfer caneuon unigol. Ffrwyth llafur y ddau oedd perfformiadau o’r sioeau ym Mhafiliwn Corwen ac mewn Eisteddfodau Cenedlaethol, megis Ciliwch Rhag Olwen (1972) a Ffantasmagoria (1975). Rhyddhaodd y ddau hefyd ddwy gyfrol o ganeuon yn fwy diweddar: Digon i Mi (Gwynn, 2004) a Razzamatazz, caneuon i blant a phobl ifanc (Gwynn, 2007).

Ymhlith ei gyhoeddiadau pwysicaf fel awdur ar gerdd dant y mae’r ddwy gyfrol dan y teitl Canrif o Gân, sy’n olrhain datblygiad y grefft ym Meirionnydd, Dinbych a’r Fflint 1881–1998 (Cyf. 1, 1999) ac ym Môn, Arfon, Llŷn ac Eifionydd, Maldwyn, y De- Orllewin, Cwm Tawe a’r De-Ddwyrain (Cyf. 2, 2000); Cerdd Dant: Llawlyfr Gosod (1983); a thraethawd hir ar ddatblygiad cerdd dant. Dau o’i gyhoeddiadau eraill yw Canu’r werin yng Ngogledd-ddwyrain Cymru (Darlith Goffa Amy Parry-Williams, 1998) a Pwyso ar y Giât (Gwasg y Bwthyn, 2008).

Rhyddhaodd hefyd nifer o recordiau a chryno- ddisgiau fel unawdydd a chyda Meibion Menlli, yn eu plith Hen Win (Sain, 1978), Gwin Hen a Newydd: Wyth canrif o gân ar Gerdd Dant (Sain, 1999), a Cyn Cau’r Drws (Sain, 2007), casgliad o hen draciau Aled Lloyd Davies gyda Meibion Menlli.

Sioned Webb

Llyfryddiaeth

Aled Lloyd Davies, Cerdd Dant: Llawlyfr Gosod (Caernarfon, 1983)
———, Hud a Hanes Cerdd Dannau (Y Bala, 1984)
———, ‘Agweddau ar Gelfyddyd Cerdd Dant’ (traethawd MA Prifysgol Bangor, 1985)
———, ‘Agweddau Pellach o Ddatblygiad Cerdd Dant’ (traethawd PhD Prifysgol Bangor, 1994)
———, Canu’r Werin yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru (Aberystwyth, 1998)
———, Canrif o Gân (Llangwm, 1999)
———, Pwyso ar y Giât (Caernarfon, 2008)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.