Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Davies, Pennar"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Polymath oedd y gair a ddefnyddiwyd yn aml i ddisgrifio Pennar Davies (1911-96), un a wnaeth gyfraniad nodedig i lên a chrefydd Cymru yn ...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__
Polymath oedd y gair a ddefnyddiwyd yn aml i ddisgrifio Pennar Davies (1911-96), un a wnaeth gyfraniad nodedig i lên a chrefydd Cymru yn y degawdau a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd. Yn frodor o Aberpennar, Morgannwg, a faged yn ddi-Gymraeg, cafodd yrfa academaidd ddisglair ym mhrifysgolion Cymru (Caerdydd), Rhydychen (Colegau Balliol a Mansfield) ac Iâl yn yr Unol Daleithiau. Yn agnostig o ran crefydd, cafodd dröedigaeth pan yn fyfyriwr yn  Iâl, a dychwelodd er mwyn dilyn galwedigaeth fel gweinidog Ymneilltuol ac yn athro ac yn brifathro mewn colegau diwinyddol. Ni fygodd ei alwedigaeth ei asbri chwareus fel bardd, a mynegwyd hyn yn ei gyfrolau cynnar ''Cinio’r Cythraul'' (1946), ''Naw Wfft!'' (1957) a’i gyfran o’r casgliad cyfansawdd ''Cerddi Cadwgan'' (1953). (Ynghyd â’i gyfeillion J. Gwyn a Käthe Bosse Griffiths a Rhydwen Williams, bu’n aelod o Gylch Cadwgan, y cylch blaengar o lenorion ifainc a gyfarfu yn y Rhondda yn ystod blynyddoedd y rhyfel). Chwareus ac ysgafn eironig yw tôn llawer o’i gerddi cynnar, ond ceir yn ''Yr Efrydd o Lyn Cynon'' (1961) ac ''Y Tlws yn y Lotws'' (1971) weithiau aeddfetach sy’n cyfuno deallusrwydd llym, cyfoeth mynegiant a chanfyddiad ysbrydol anarferol. Er na ddenodd y sylw haeddiannol, deil ei ‘Gathl i’r Almonwydden’ o’r ''Efrydd o Lyn Cynon'' ei chymharu â rhai o gerddi mwyaf nodedig y Gymraeg canol yr 20g.  
+
Polymath oedd y gair a ddefnyddiwyd yn aml i ddisgrifio Pennar Davies (1911-96), un a wnaeth gyfraniad nodedig i lên a chrefydd Cymru yn y degawdau a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd. Yn frodor o Aberpennar, Morgannwg, a faged yn ddi-Gymraeg, cafodd yrfa academaidd ddisglair ym mhrifysgolion Cymru (Caerdydd), Rhydychen (Colegau Balliol a Mansfield) ac Iâl yn yr Unol Daleithiau. Yn agnostig o ran crefydd, cafodd dröedigaeth pan yn fyfyriwr yn  Iâl, a dychwelodd er mwyn dilyn galwedigaeth fel gweinidog Ymneilltuol ac yn athro ac yn brifathro mewn colegau diwinyddol. Ni fygodd ei alwedigaeth ei asbri chwareus fel bardd, a mynegwyd hyn yn ei gyfrolau cynnar, ''Cinio’r Cythraul'' (1946), ''Naw Wfft!'' (1957) a’i gyfran o’r casgliad cyfansawdd ''Cerddi Cadwgan'' (1953). (Ynghyd â’i gyfeillion J. Gwyn Griffiths a Käthe Bosse-Griffiths a Rhydwen Williams, bu’n aelod o Gylch Cadwgan, y cylch blaengar o lenorion ifainc a gyfarfu yn y Rhondda yn ystod blynyddoedd y rhyfel). Chwareus ac ysgafn eironig yw tôn llawer o’i gerddi cynnar, ond ceir yn ''Yr Efrydd o Lyn Cynon'' (1961) ac ''Y Tlws yn y Lotws'' (1971) weithiau aeddfetach sy’n cyfuno deallusrwydd llym, cyfoeth mynegiant a chanfyddiad ysbrydol anarferol. Er na ddenodd y sylw haeddiannol, deil ei ‘Gathl i’r Almonwydden’ o’r ''Efrydd o Lyn Cynon'' ei chymharu â rhai o gerddi mwyaf nodedig y Gymraeg canol yr 20g.  
  
Ynghyd â’i farddoniaeth cyhoeddodd nofelau a straeon byrion. Disgrifiodd Saunders Lewis ei nofel rhyfel oer apocalyptig ''Anadl o’r Uchelder'' (1958) fel ‘the strangest, perhaps the most phoney of the new novels’, a mynnu ei bod ‘as learned as Joyce’s ''Ulysses''; it is comic and fantastic and melodramatic and brilliant’. Digrifwch sy’n nodweddu ''Meibion Darogan'' (1968), sy’n seiliedig ar brofiadau a throeon trwstan Cylch Cadwgan, tra ailafaelodd yn themâu a chymeriadau ''Anadl o’r Uchelder'' yn y nofelau diweddarach, llai llachar o lawer, ''Mabinogi Mwys'' (1979) a ''Gwas y Gwaredwr'' (1991). Cododd i dir uchel iawn yn ei gasgliad straeon byrion ''Caregl Nwyf'' (1966), ond ei gampwaith diamheuol o ran rhyddiaith greadigol oedd ''Cudd fy Meiau'' (1958), dyddiadur enaid sy’n seriol yn ei onestrwydd ac yn dwys-ddeniadol ei ysbrydolrwydd. Yn ôl Bobi Jones roedd yn ‘un o glasuron y cyfnod wedi’r rhyfel ... ac yn fy marn i, campwaith bach yn anialwch defosiwn y ganrif hon’.  
+
Ynghyd â’i farddoniaeth cyhoeddodd nofelau a straeon byrion. Disgrifiodd Saunders Lewis ei nofel rhyfel oer apocalyptig, ''Anadl o’r Uchelder'' (1958), fel ‘the strangest, perhaps the most phoney of the new novels’, a mynnu ei bod ‘as learned as Joyce’s ''Ulysses''; it is comic and fantastic and melodramatic and brilliant’. Digrifwch sy’n nodweddu ''Meibion Darogan'' (1968), sy’n seiliedig ar brofiadau a throeon trwstan Cylch Cadwgan, tra ailafaelodd yn themâu a chymeriadau ''Anadl o’r Uchelder'' yn y nofelau diweddarach, llai llachar o lawer, ''Mabinogi Mwys'' (1979) a ''Gwas y Gwaredwr'' (1991). Cododd i dir uchel iawn yn ei gasgliad o straeon byrion, ''Caregl Nwyf'' (1966), ond ei gampwaith diamheuol o ran rhyddiaith greadigol oedd ''Cudd fy Meiau'' (1958), dyddiadur enaid sy’n seriol yn ei onestrwydd ac yn dwys-ddeniadol ei ysbrydolrwydd. Yn ôl Bobi Jones roedd yn ‘un o glasuron y cyfnod wedi’r rhyfel ... ac yn fy marn i, campwaith bach yn anialwch defosiwn y ganrif hon’.  
  
Ar hyd ei yrfa mawrygodd Pennar Belagiws, y diwinydd Prydeinig o’r 5g., fel y dengys ei astudiaeth ddysgedig os ecsentrig ''Rhwng Chwedl a Chredo'' (1966), sy’n gyfraniad cynnar at bwnc a ddaeth yn ffasiynol ddegawdau yn ddiweddarach, sef Cristionogaeth Geltaidd. Eclectig ac unigolyddol oedd ei safbwynt diwinyddol, math ar ryddfrydiaeth efengylaidd iwtopaidd ei naws, a oedd yn canoli’n addolgar ar ddilyn Person Crist. Fe’i mynegwyd yn fwyaf cyflawn yn ei gyfrol ''Y Brenin Alltud'' (1974).  
+
Ar hyd ei yrfa mawrygodd Pennar Belagiws, y diwinydd Prydeinig o’r 5g., fel y dengys ei astudiaeth ddysgedig os ecsentrig, ''Rhwng Chwedl a Chredo'' (1966), sy’n gyfraniad cynnar at bwnc a ddaeth yn ffasiynol ddegawdau yn ddiweddarach, sef Cristionogaeth Geltaidd. Eclectig ac unigolyddol oedd ei safbwynt diwinyddol, math ar ryddfrydiaeth efengylaidd iwtopaidd ei naws, a oedd yn canoli’n addolgar ar ddilyn Person Crist. Fe’i mynegwyd yn fwyaf cyflawn yn ei gyfrol, ''Y Brenin Alltud'' (1974).  
  
 
Cyhoeddodd ysgrifau dysgedig ar ei briod faes, sef Hanes yr Eglwys, ac ymroi yn gydwybodol i’r byd cyhoeddus, yn grefyddol ac yn wleidyddol – ymladdodd am sedd seneddol yn enw Plaid Cymru yn 1959 a 1964, ac, ynghyd â Ned Thomas a Meredydd Evans, cafodd ei ddwyn gerbron brawdlys Caerfyrddin yn 1979 am dorri i mewn i orsaf trosglwyddo Pen-carreg fel rhan o’r ymgyrch o blaid sianel deledu Gymraeg. Ond fel llenor creadigol y gwnaeth ei gyfraniad arhosol. O holl feddylwyr crefyddol Cymru’r 20g., ef oedd biau’r dychymyg mwyaf bywiog athrylithgar, tra mynnai pawb a’i hadnabu fod ei gyneddfau deallusol pwerus wedi’u tymheru â naws sancteiddrwydd.
 
Cyhoeddodd ysgrifau dysgedig ar ei briod faes, sef Hanes yr Eglwys, ac ymroi yn gydwybodol i’r byd cyhoeddus, yn grefyddol ac yn wleidyddol – ymladdodd am sedd seneddol yn enw Plaid Cymru yn 1959 a 1964, ac, ynghyd â Ned Thomas a Meredydd Evans, cafodd ei ddwyn gerbron brawdlys Caerfyrddin yn 1979 am dorri i mewn i orsaf trosglwyddo Pen-carreg fel rhan o’r ymgyrch o blaid sianel deledu Gymraeg. Ond fel llenor creadigol y gwnaeth ei gyfraniad arhosol. O holl feddylwyr crefyddol Cymru’r 20g., ef oedd biau’r dychymyg mwyaf bywiog athrylithgar, tra mynnai pawb a’i hadnabu fod ei gyneddfau deallusol pwerus wedi’u tymheru â naws sancteiddrwydd.

Diwygiad 22:21, 4 Hydref 2016

Polymath oedd y gair a ddefnyddiwyd yn aml i ddisgrifio Pennar Davies (1911-96), un a wnaeth gyfraniad nodedig i lên a chrefydd Cymru yn y degawdau a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd. Yn frodor o Aberpennar, Morgannwg, a faged yn ddi-Gymraeg, cafodd yrfa academaidd ddisglair ym mhrifysgolion Cymru (Caerdydd), Rhydychen (Colegau Balliol a Mansfield) ac Iâl yn yr Unol Daleithiau. Yn agnostig o ran crefydd, cafodd dröedigaeth pan yn fyfyriwr yn Iâl, a dychwelodd er mwyn dilyn galwedigaeth fel gweinidog Ymneilltuol ac yn athro ac yn brifathro mewn colegau diwinyddol. Ni fygodd ei alwedigaeth ei asbri chwareus fel bardd, a mynegwyd hyn yn ei gyfrolau cynnar, Cinio’r Cythraul (1946), Naw Wfft! (1957) a’i gyfran o’r casgliad cyfansawdd Cerddi Cadwgan (1953). (Ynghyd â’i gyfeillion J. Gwyn Griffiths a Käthe Bosse-Griffiths a Rhydwen Williams, bu’n aelod o Gylch Cadwgan, y cylch blaengar o lenorion ifainc a gyfarfu yn y Rhondda yn ystod blynyddoedd y rhyfel). Chwareus ac ysgafn eironig yw tôn llawer o’i gerddi cynnar, ond ceir yn Yr Efrydd o Lyn Cynon (1961) ac Y Tlws yn y Lotws (1971) weithiau aeddfetach sy’n cyfuno deallusrwydd llym, cyfoeth mynegiant a chanfyddiad ysbrydol anarferol. Er na ddenodd y sylw haeddiannol, deil ei ‘Gathl i’r Almonwydden’ o’r Efrydd o Lyn Cynon ei chymharu â rhai o gerddi mwyaf nodedig y Gymraeg canol yr 20g.

Ynghyd â’i farddoniaeth cyhoeddodd nofelau a straeon byrion. Disgrifiodd Saunders Lewis ei nofel rhyfel oer apocalyptig, Anadl o’r Uchelder (1958), fel ‘the strangest, perhaps the most phoney of the new novels’, a mynnu ei bod ‘as learned as Joyce’s Ulysses; it is comic and fantastic and melodramatic and brilliant’. Digrifwch sy’n nodweddu Meibion Darogan (1968), sy’n seiliedig ar brofiadau a throeon trwstan Cylch Cadwgan, tra ailafaelodd yn themâu a chymeriadau Anadl o’r Uchelder yn y nofelau diweddarach, llai llachar o lawer, Mabinogi Mwys (1979) a Gwas y Gwaredwr (1991). Cododd i dir uchel iawn yn ei gasgliad o straeon byrion, Caregl Nwyf (1966), ond ei gampwaith diamheuol o ran rhyddiaith greadigol oedd Cudd fy Meiau (1958), dyddiadur enaid sy’n seriol yn ei onestrwydd ac yn dwys-ddeniadol ei ysbrydolrwydd. Yn ôl Bobi Jones roedd yn ‘un o glasuron y cyfnod wedi’r rhyfel ... ac yn fy marn i, campwaith bach yn anialwch defosiwn y ganrif hon’.

Ar hyd ei yrfa mawrygodd Pennar Belagiws, y diwinydd Prydeinig o’r 5g., fel y dengys ei astudiaeth ddysgedig os ecsentrig, Rhwng Chwedl a Chredo (1966), sy’n gyfraniad cynnar at bwnc a ddaeth yn ffasiynol ddegawdau yn ddiweddarach, sef Cristionogaeth Geltaidd. Eclectig ac unigolyddol oedd ei safbwynt diwinyddol, math ar ryddfrydiaeth efengylaidd iwtopaidd ei naws, a oedd yn canoli’n addolgar ar ddilyn Person Crist. Fe’i mynegwyd yn fwyaf cyflawn yn ei gyfrol, Y Brenin Alltud (1974).

Cyhoeddodd ysgrifau dysgedig ar ei briod faes, sef Hanes yr Eglwys, ac ymroi yn gydwybodol i’r byd cyhoeddus, yn grefyddol ac yn wleidyddol – ymladdodd am sedd seneddol yn enw Plaid Cymru yn 1959 a 1964, ac, ynghyd â Ned Thomas a Meredydd Evans, cafodd ei ddwyn gerbron brawdlys Caerfyrddin yn 1979 am dorri i mewn i orsaf trosglwyddo Pen-carreg fel rhan o’r ymgyrch o blaid sianel deledu Gymraeg. Ond fel llenor creadigol y gwnaeth ei gyfraniad arhosol. O holl feddylwyr crefyddol Cymru’r 20g., ef oedd biau’r dychymyg mwyaf bywiog athrylithgar, tra mynnai pawb a’i hadnabu fod ei gyneddfau deallusol pwerus wedi’u tymheru â naws sancteiddrwydd.

D. Densil Morgan

Llyfryddiaeth

Morgan, D. D. (2003), Pennar Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Morgan, D. D. (2003), ‘Celts and Christians in the work of Pennar Davies’, yn Pope, R. (gol.), Respecting the Past and Shaping the Future: Festschrift for Gareth Lloyd Jones (Leominster: Gracewing), tt. 113-35.

Morgan, D. D. (2005), ‘ “Mae gen i gred, mae gen i gân”: rhai themâu ym marddoniaeth Pennar Davies, Llên Cymru, 28, 160-77.

Morgan, D. D. (2007), ‘Spirit and flesh in twentieth century Welsh poetry: a comparison of the work of D Gwenallt Jones and Pennar Davies’, Christianity and Literature, 56, 423-36.

Rees, I. T. (2011), Saintly Enigma: a Biography of Pennar Davies (Talybont: Y Lolfa).

Williams, R. (2011), rhagair i Diary of a Soul, cyfieithiad Herbert Hughes o Cudd Fy Meiau (Talybont: Y Lolfa).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.