Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Deialog Platonaidd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 6: Llinell 6:
 
Yn yr Oes Glasurol, ysgrifennai nifer o awduron eraill ddeialogau ble roedd Socrates yn brif gymeriad, megis Xenophon, Aristoteles, Plutarch a Lucianos. Diben dychanol oedd i ddeialogau Lucianos. Cyflwynodd Marcus Tullius Cicero’r ffurf i’r Lladin yn rhannol trwy gyfieithu gwaith Platon, a dilynwyd ef gan Tacitus ar areithio a Seneca ar foeseg. Yn y cyfnod ôl-Glasurol a’r Oesoedd Canol, pynciau diwinyddol gâi’r sylw pennaf. Yn ''De Consolatione Philosophiae'' (Ar Gysur Athroniaeth) holir Boethius (tra ei fod yn y carchar) gan y Fonesig Athroniaeth am ei amheuon am gyfiawnder mewn bywyd. Ffurf deialog Platonaidd rhwng Anselm, Archesgob Caergaint a’r mynach Boso yw ''Cur Deus Homo'' (Pam ddaeth Duw yn ddyn?). Ail-ddarganfuwyd gweithiau Platon yn ystod y Dadeni Eidalaidd pan ddaethpwyd â llawysgrifau Groeg o Byzantium i Fenis, ac fe’u cyfieithwyd i’r Lladin yn 1484 gan Marsilio Ficino.   
 
Yn yr Oes Glasurol, ysgrifennai nifer o awduron eraill ddeialogau ble roedd Socrates yn brif gymeriad, megis Xenophon, Aristoteles, Plutarch a Lucianos. Diben dychanol oedd i ddeialogau Lucianos. Cyflwynodd Marcus Tullius Cicero’r ffurf i’r Lladin yn rhannol trwy gyfieithu gwaith Platon, a dilynwyd ef gan Tacitus ar areithio a Seneca ar foeseg. Yn y cyfnod ôl-Glasurol a’r Oesoedd Canol, pynciau diwinyddol gâi’r sylw pennaf. Yn ''De Consolatione Philosophiae'' (Ar Gysur Athroniaeth) holir Boethius (tra ei fod yn y carchar) gan y Fonesig Athroniaeth am ei amheuon am gyfiawnder mewn bywyd. Ffurf deialog Platonaidd rhwng Anselm, Archesgob Caergaint a’r mynach Boso yw ''Cur Deus Homo'' (Pam ddaeth Duw yn ddyn?). Ail-ddarganfuwyd gweithiau Platon yn ystod y Dadeni Eidalaidd pan ddaethpwyd â llawysgrifau Groeg o Byzantium i Fenis, ac fe’u cyfieithwyd i’r Lladin yn 1484 gan Marsilio Ficino.   
  
Yn y cyfnod modern cynnar, adfywiwyd y deialog Platonaidd gan Nicolas Malebranche (1638-1715) gyda’i ''Entretiens sur la Métaphysique'' (1688). Yn Saesneg dadleuon am epistemoleg a natur crefydd hawliodd sylw gyda ''Three Dialogues between Hylas and Philonous'' gan yr athronydd Anglicanaidd Eingl-Wyddelig, George Berkeley (1685-1753), a ''Dialogues Concerning Natural Religion'' gan yr athronydd Albaneg, David Hume (1711-1776). Yn yr 20g. aeth rhai llenorion ati i lunio deialogau ble roedd Socrates ei hun yn gymeriad unwaith eto. Gweler ''Dialogues in Limbo'' gan George Santayana (1926) a ''Acastos'' gan Iris Murdoch (1986), sy’n cynnwys Platon fel cymeriad.
+
Yn y cyfnod modern cynnar, adfywiwyd y deialog Platonaidd gan Nicolas Malebranche (1638-1715) gyda’i ''Entretiens sur la Métaphysique'' (1688). Yn Saesneg dadleuon am epistemoleg a natur crefydd hawliodd sylw gyda ''Three Dialogues between Hylas and Philonous'' gan yr athronydd Anglicanaidd Eingl-Wyddelig, George Berkeley (1685-1753), a ''Dialogues Concerning Natural Religion'' gan yr athronydd Albaneg, David Hume (1711-1776). Yn yr 20g. aeth rhai llenorion ati i lunio deialogau ble roedd Socrates ei hun yn gymeriad unwaith eto. Gweler ''Dialogues in Limbo'' gan George Santayana (1926) ac ''Acastos'' gan Iris Murdoch (1986), sy’n cynnwys Platon fel cymeriad.
 
   
 
   
 
'''Carys Moseley'''
 
'''Carys Moseley'''

Y diwygiad cyfredol, am 22:53, 5 Hydref 2016

Ffurf llenyddol a hanai o Roeg yn yr Oes Glasurol (y 5g. C.C.) yw’r deialog Platonaidd, ac a gyplysir fynychaf gyda Platon, yr athronydd Groegaidd pwysicaf. Deialogau yw bron pob un o weithiau Platon ar wahân i Amddiffyniad Socrates. Trafodaeth athronyddol yw deialog Platonaidd rhwng nifer fechan o gymeriadau. Gall y cymeriadau fynd ar drywyddau amgen fel sy’n digwydd mewn sgwrs arferol. Yn aml, tynnir sylw yn gynnar at leoliad y ddeialog ac fe gynigir darlun o fyd cymdeithasol y cymeriadau, sy’n rhoi awyrgylch ‘gyfoes’ a pherthnasol i’r dadleuon. Mae nifer o ddeialogau Platon yn ceisio denu darllenwyr (neu wrandawyr) i mewn i’r drafodaeth, gyda’r cymeriadau yn beirniadu eu ffyrdd gwahanol o fyw.

Nid yw Platon byth yn annerch ei gynulleidfa’n uniongyrchol yn ei lais ei hun yn y deialogau. Y cymeriadau ac nid Platon sy’n gwneud gosodiadau a’u cadarnhau, amau, cwestiynu, dadlau yn eu cylch ac ati. Cyfathrebu anuniongyrchol sy’n nodweddu llais Platon yn y deialogau. Cwyd y cwestiwn felly a yw hi’n bosib darganfod athroniaeth Platon drwy’r deialogau, neu a ddylid gwerthfawrogi dadleuon y cymeriadau heb geisio canfod undod y tu ôl iddynt. Un ffordd o fynd i’r afael â hyn yw gofyn pam y bu i Platon ysgrifennu athroniaeth ar ffurf deialogau. Cynigiwyd sawl rheswm posib am hyn. Gallai Platon ddatblygu ei ddiddordebau mewn addysg drwy ffurf deialog, e.e. cael cymeriadau i ofyn cwestiynau egwyddorol am sut mae’n bosib dysgu, oddi wrth ba fath o berson y gellir dysgu orau, ac ati. Daw’n amlwg mai creu dryswch, neu o leiaf cymhlethu pwnc, yw bwriad Platon, er mwyn caniatáu i’r cymeriadau fynd ati i egluro sail eu safbwyntiau’n well a chynnig dadleuon mwy trylwyr. Ymddengys rhai pynciau yn y deialogau’n gyson, e.e. dadleuir nad yw’r enaid yn faterol a’i fod yn anfarwol. Pwnc arall o bwys mawr yw bodolaeth y Ffurfiau Platonaidd. I Platon mae gwrthrychau gwybodaeth, boed yn haniaethol (fel daioni) neu yn ddiriaethol, yn endidau real. Ond fel gwrthrychau gwybodaeth fathemategol (fel ffurfiau geometrig delfrydol), dydyn nhw ddim yn bodoli yn y byd arferol a ganfyddir gan y synhwyrau. Rhagdybiai Platon fodolaeth byd arall, sef byd y Ffurfiau neu’r Syniadau, gan honni fod y pethau a welir yn y byd hwn yn atgof o’r Ffurfiau ac yn eu dynwared. Ar y cyfan ceir un siaradwr ym mhob deialog sy’n fwy blaenllaw na’r lleill, gan amlaf yr athronydd Socrates. Anodd yw gwadu’r gred gyffredinol mai diben y deialogau yw denu a darbwyllo’r gynulleidfa i ystyried a derbyn y dadleuon a gynigir gan y prif gymeriad. Wedi dweud hyn, gan nad traethodau ar egwyddorion neu weithiau dogmataidd ydy’r deialogau, dylid rhagdybio mai eu hamcan addysgiadol oedd annog pobl i chwilio am y gwirionedd trwy drafodaeth lafar yn hytrach na dibynnu ar awdurdod sefydliadol.

Yn yr Oes Glasurol, ysgrifennai nifer o awduron eraill ddeialogau ble roedd Socrates yn brif gymeriad, megis Xenophon, Aristoteles, Plutarch a Lucianos. Diben dychanol oedd i ddeialogau Lucianos. Cyflwynodd Marcus Tullius Cicero’r ffurf i’r Lladin yn rhannol trwy gyfieithu gwaith Platon, a dilynwyd ef gan Tacitus ar areithio a Seneca ar foeseg. Yn y cyfnod ôl-Glasurol a’r Oesoedd Canol, pynciau diwinyddol gâi’r sylw pennaf. Yn De Consolatione Philosophiae (Ar Gysur Athroniaeth) holir Boethius (tra ei fod yn y carchar) gan y Fonesig Athroniaeth am ei amheuon am gyfiawnder mewn bywyd. Ffurf deialog Platonaidd rhwng Anselm, Archesgob Caergaint a’r mynach Boso yw Cur Deus Homo (Pam ddaeth Duw yn ddyn?). Ail-ddarganfuwyd gweithiau Platon yn ystod y Dadeni Eidalaidd pan ddaethpwyd â llawysgrifau Groeg o Byzantium i Fenis, ac fe’u cyfieithwyd i’r Lladin yn 1484 gan Marsilio Ficino.

Yn y cyfnod modern cynnar, adfywiwyd y deialog Platonaidd gan Nicolas Malebranche (1638-1715) gyda’i Entretiens sur la Métaphysique (1688). Yn Saesneg dadleuon am epistemoleg a natur crefydd hawliodd sylw gyda Three Dialogues between Hylas and Philonous gan yr athronydd Anglicanaidd Eingl-Wyddelig, George Berkeley (1685-1753), a Dialogues Concerning Natural Religion gan yr athronydd Albaneg, David Hume (1711-1776). Yn yr 20g. aeth rhai llenorion ati i lunio deialogau ble roedd Socrates ei hun yn gymeriad unwaith eto. Gweler Dialogues in Limbo gan George Santayana (1926) ac Acastos gan Iris Murdoch (1986), sy’n cynnwys Platon fel cymeriad.

Carys Moseley

Llyfryddiaeth

Berkeley, G. (1999), Principles of Human Knowledge, and Three Dialogues Between Hylas and Philonous (Oxford: Oxford University Press).

Davies, C. (1995), Welsh Literature and the Classical Tradition (Cardiff: University of Wales Press).

Hume, D. (2008), Dialogues Concerning Natural Religions, and the Natural History of Religion (Oxford: Oxford University Press).

Kraut, R. (1992), The Cambridge Companion to Plato (Cambridge: Cambridge University Press).

Murdoch, I. (1986), Acastos: Two Platonic Dialogues (London: Chatto & Windus).

Platon (1936), Amddiffyniad Socrates. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Platon (1938), Phaedon. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Platon (1943), Ewthuffron: Crito. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Platon (1946), Gorgias. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Platon (1956), Y Wladwriaeth. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.