Diweddglo

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Gair benthyg cerddorol o’r Eidaleg yw’r term Saesneg ‘Finale’ a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i ddisgrifio golygfa olaf opera. Mewn cyd-destun cerddorol, y mae diweddglo yn disgrifio nodau neu nodyn olaf darn o gerddoriaeth. Erbyn hyn mae’r term hefyd yn cyfeirio at gasgliad drama, sef yr olygfa olaf lle mae holl densiynau’r ddrama yn cael eu datrys, a gellir defnyddio'r term yn yr un modd i ddisgrifio casgliad darn o ryddiaith. Gall diweddglo hefyd gyfeirio at epilog, sef casgliad a ddaw ar ffurf naratif, fel arfer ar ôl golygfa olaf drama neu ddarn o ryddiaith.

Yn yr ystyr symlaf, mae diweddglo yn dynodi'r pwynt lle mae'r awdur yn gorffen ysgrifennu, ond wrth wneud hyn y mae gofyn iddo/iddi ddewis sut y bydd y bwriad a gyflwynwyd ar ddechrau'r stori neu'r ddrama yn cael ei gyflawni. At hynny, cysylltir hefyd ddiweddglo â genre drama oherwydd caiff comedi a thrasiedi eu diffinio gan eu diweddgloeon hapus a thrasig.

O ran strwythur mae'n rhaid i ddiweddglo ddilyn cychwyn a chanol stori neu ddrama. Fel arfer daw'r diweddglo ar ôl y peripeteia mewn drama, sef achos o densiwn, tro neu uchafbwynt. Dywed Frank Kermode fod darllenydd neu wyliwr yn ysu am peripeteia gwahanol ym mhob stori, ffordd annisgwyl o gyrraedd y diweddglo, ond nid oes modd osgoi'r diweddglo hwnnw oherwydd "it is one of the great charms of books that they have to end."

Yn ôl Kermode, y mae'r dyhead am ddiweddglo yn gysylltiedig â'r awydd i ddeall y ffordd yr ydym ni'n profi ac yn gweld y byd. Dywed fod ysfa gan y ddynolryw i amgyffred bywyd fel rhywbeth cyflawn a dyma ydy gwraidd apêl darllen llenyddiaeth a gwylio drama. Mae darllenwyr a gwylwyr, felly, yn dymuno gweld diweddglo gan eu bod hefyd yn dymuno deall fel y bydd eu bywydau yn gallu gorffen. Mae diweddgloeon, i Kermode, yn cynrychioli marwolaeth ac apocalyps, pynciau cyffredin iawn mewn llenyddiaeth ac yn y Beibl hyd yn oed.

Mewn dramâu clasurol, dim ond ar ôl i holl wrthdrawiadau’r ddrama gael eu datrys ar ffurf dénouement y gallai'r diweddglo ddigwydd. Rhaid i holl gwestiynau'r gynulleidfa gael eu hateb ac i'r ansicrwydd gael ei ddatrys. Yn ôl Patrice Pavis: "The sense of resolution proceeds from a narrative structure that clearly indicates that the hero has come to the end of his journey reinforced by the impression that all has returned to the comic or tragic order that governed the world before the play began."

Y mae diweddglo credadwy ac effeithiol yn anodd iawn ei lunio, a beirniadwyd hyd yn oed dramodwyr clasurol megis Shakespeare a Molière am eu diweddgloeon artiffisial. Lleisiwyd beirniadaeth debyg o nifer o ddramâu Cymraeg megis Gwaed yr Uchelwyr gan Saunders Lewis. Pan fo diweddglo taclus yn amhosibl, y mae nifer o ddramodwyr yn dewis cyflwyno deus ex machina, techneg lle y mae problem ganolog y plot yn cael ei datrys mewn ffordd annisgwyl. Ar y llaw arall, y mae dramodwyr modern, ôl-fodernaidd, avant-garde ac abswrdaidd yn gwthio ffiniau drama drwy chwarae â disgwyliadau'r gynulleidfa ynghylch diweddglo. Mae dramodwyr fel Brecht, Beckett a Pirandello yn gwrthod datrys y gwrthdaro yn eu dramâu ac yn gwrthod bodloni galw'r gynulleidfa am y gwirionedd ac am ateb i'w cwestiynau. Yn nrama abswrdaidd enwocaf Beckett, En Attendant Godot, mae Vladimir ac Estragon yn parhau i aros am ymddangosiad Godot, ac er bod y gynulleidfa yn disgwyl iddo gyrraedd yn niweddglo’r ddrama, nid yw byth yn dod. Ni chaiff y gynulleidfa wybod beth sy’n digwydd i’r cymeriadau ac ni chynigir esboniad dros eu penderfyniad i aros yn y lle cyntaf.

Rhianedd Jewell

Llyfryddiaeth

Kermode, F. (1967), The Sense of an Ending: Studies in the Theories of Fiction (New York: Oxford University Press).

Schlueter, J. (1995), Dramatic Closure: Reading the End (Madison: Fairleigh Dickinson University Press).