Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:24, 18 Rhagfyr 2013 gan Gwydion Jones (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

[daw'r grynodeb isod o becyn y wasg ar gyfer y ffilm*]

Caiff Dylan, (pysgotwr deunaw mlwydd oed), a’i gariad, Meleri, (merch fferm hardd), y ddau o Ynys Armor, eu gwahodd am benwythnos meddwol yng Nghaerdydd.

Tridiau yn ddiweddarach, mae Meleri’n dychwelyd ar ei phen ei hun i Ynys Armor wedi gweld Dylan, y ‘sglyfaeth, yn snogio hen slapar Kierdiffaidd, (Alis), mewn clwb nos.

Dan gyfarwyddyd ei ffrinmd gorau, wêster Marc, mae Dylan yn treulio haf cyfan yng Nghaerdydd yn gwirioni ar garu, ar glybio, ar fyw heb ei rieni, heb reolau a heb Meleri...Er, gormod o ddim nid yw dda ac mae Dylan yn dechrau hiraethu am gadernid ei fywyd ar Armor. Pan mae’n digwydd cyfarfod ag Alis mewn bar, mae’n syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad efo hi. Mae hi’n wahanol i Meleri ym mhob ffordd, a does ond un lle yn y byd yr hoffai fynd a hi: yn ol i’w garterf ar yr ynys.

Fodd bynnag, nid yw’r paradwys ddisgrifiodd Dylan i Alis yn bod ac ar gyrraedd yr ynys, aiff popeth o chwith. Mae ei ffrind gorau, Marc, hefyd wedi dychwelyd i’r ynys ac wedi syrthio mewn cariad gyda Meleri; ond mae Dylan yn dal i garu Meleri (er ei fod hefyd mewn cariad gydag Alis); mae Meleri o hyd yn caru Dylan ac mae Alis yn ei garu hefyd...

Mae’r ffilm hon yn cydio mewn un cyfnod mewn amser yr ydym ni i gyd yn ei gofio, haf hedonistaidd, ifanc, sydd yn diflannu fel seren wib. Ond yn ei ysfa i gael diwrnod hollol mindblowing, mae ein harwr, hefyd, yn dysgu byw.

* Casgliad Archif David Berry (Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru)


Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw

Teitl Amgen: Mindblowing

Blwyddyn: 2000

Hyd y Ffilm: 98 mun

Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 25 Rhag 2000

Cyfarwyddwr: Euros Lyn

Sgript gan: Owain Meredith

Addasiad o: Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw gan Owain Meredith

Cynhyrchydd: Peter Edwards

Cwmnïau Cynhyrchu: HTV Wales

Genre: Addasiad, Ieuenctid


Cast a Chriw

Prif Gast

  • Elis Dafydd Roberts (Dylan)
  • Rhian Green (Meleri)
  • Kate Jarman (Alis)
  • Gruff Meredith (Marc)

Cast Cefnogol

  • Callum – Sion Aaron
  • Ingrid – Ceri Ann Gregory
  • Tad Dylan – Seimon Glyn
  • Mam Dylan – Christine Williams
  • Dafydd – Rhodri Hughes
  • Brychan – Huw Rees
  • Elen – Elen Gwynne
  • Saran – Helen Rosser Davies
  • Ellie – Mared Swain

Ffotograffiaeth

  • Siân Elin Palfrey

Dylunio

  • Alex Wyatt

Cerddoriaeth

  • Super Furry Animals

Sain

  • Phil Edward

Golygu

  • Mali Evans

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Uwch-gynhyrchydd – Peter Edwards
  • Is-gynhyrchydd – Owain Meredith
  • Rheolwr Cynhyrchu – Rhian Williams
  • Colur – Bethan Jones
  • Gwisgoedd – Sian James
  • Cyfarwyddwr Celf – Ben Hawkins


Manylion Technegol

Fformat Saethu: Fideo Digidol

Math o Sain: Stereo

Lliw: Lliw

Cymhareb Agwedd: 16:9

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg

Lleoliadau Saethu: Ynys Enlli, Gwynedd; Caerdydd

Lleoliadau Arddangos: Gwyl Ffilmiau Ryngwladol Caerdydd (2000)


Manylion Atodol

Llyfrau

Steve Blandford Film, Drama and the Break Up of Britiain (Intellect Books, 2007)

ap Dyfrig, R., Jones, E H G, Jones, G. The Welsh Language in the Media[1] (Aberystwyth: Mercator Media, Mercator Media Monographs, 2006)

Gwefannau

Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw ar IMDb [2]

Adolygiadau

"Doniolwch, rhyw, cwrw a chariad - Y ffilm Mindblowing yn chwa o awyr iach"[3] Adolygiad gan Glyn Evans ar BBC Cymru'r Byd, 4 Rhagfyr 2000

Erthyglau

"Gwyl Ffilm Ryngwladol Caerdydd - Dau frawd yn dangos ei bod yn hwyl bod yn Gymry ifanc"[4] BBC Cymru'r Byd, 15 Tachwedd 2000

"Welsh Film Festival Features Talented Six"[5] 4rfv.co.uk , 29 Tachwedd 2000

Marchnata

Pecyn y Wasg (HTV Wales / S4C) 26 tud + 8 still

Cynnwys : Y Stori, Cefndir, Y Cyfarwyddwr, Y Sgwennwr, Dylan, Meleri, Alis, Marc, Ingrid, [fersiynau Saesneg o'r tudalennau hyn], Cast, Crew, Stills

Dyma'r cynnwys sydd ar y dudalen "Cefndir" yn y Pecyn

Cefndir y ffilm ddogma Gymreig gyntaf

Yn seiliedig ar nofel herfeiddiol Owain Meredith o’r un enw, mae ‘Diwrnod Hollol Mondblowing Heddiw’ yn astudiaeth ddi-flewyn ar dafod o anturoiaethau llanc ifanc sydd mewn penbleth am ei le yn y byd.

Ysbrydolwyd y ffilm gan ‘Dogma 95’, yr arddull arloesol gychwynwyd gan Lars von Trier o Ddenmarc, cynhyrchydd ffilm boblogaidd Bjork, ‘Dancer in the Dark’. Treuliodd y cyfarwyddwr, Euros Lyn, gyfnod gyda chwmni von Trier yn Copenhagen er mwyn dysgu am y dull cyffrous hwn o ffilmio.

Hanfod y broses yw troi anghenion technegol y camera, sain a syrcas yr uned ffilm yn weision i’r perfformiad a’r stori. Byrfyfyriwyd pob gair yn y ffilm a gwaharddwyd yr actorion rhag gweld y sgript. Nid oedd yr actorion yn gwybod beth fyddai’n digwydd mewn golygfa tan eiliadau cyn saethu; ac yn amlach na pheidio, byddai'r olygfa’n digwydd ymysg y cyhoedd oll er mwyn creu’r portread mwyaf byw erioed o fywyd pobol ifanc Cymru.